Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild Game guidance

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Diffinnir sgil-gynhyrchion anifeiliaid fel cyrff cyfan anifeiliaid neu rannau ohonynt, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion eraill a gafwyd o anifeiliaid.

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid (animal by-products) yw cyrff cyfan anifeiliaid neu rannau ohonynt, cynhyrchion sy’n dod anifeiliaid neu gynhyrchion eraill a gafwyd o anifeiliaid, nad ydynt wedi'u bwriadu i'w bwyta gan bobl, gan gynnwys wygelloedd, embryonau a semen.

Gall ABPs fod yn un o dri chategori, yn seiliedig ar y risgiau y maent yn eu peri. Mae ABP Categori 1 ac ABP Categori 2 wedi’u dosbarthu’n risg uchel ac mae ABP Categori 3 wedi’i ddosbarthu’n risg isel. Mae ABP Categori 1 a Chategori 2 yn cynnwys deunydd risg uchel a rhaid eu trin yn hynod ofalus. Dylech chi sicrhau felly fod gennych wybodaeth ddigonol i gategoreiddio, trin a chael gwared ar wahanol ABPs yn briodol.

I gael canllawiau pellach ar gategoreiddio, trin a gwaredu ABPs, dylech chi ymgynghori â chanllawiau Llywodraeth y DU ar gategorïau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cymeradwyo safleoedd, hylendid a gwaredu.

Mae ABPs a gynhyrchir o anifeiliaid hela gwyllt fel rhan o arferion hela arferol (er enghraifft, gwaed ac offal gwyrdd), ac nad ydynt yn cael eu casglu ar ôl lladd, y tu allan i gwmpas y rheoliadau ABPs.

Mae angen i bob ABP a gynhyrchir, ac eithrio rhai sy’n rhan o arfer hela arferol a rhai heb eu casglu ar ôl lladd, gael eu categoreiddio’n gywir, eu trin a’u gwaredu’n ddiogel (gan gynnwys cadw cofnodion at ddibenion olrhain) yn unol â chanllawiau uchod Llywodraeth y DU. Unwaith y caiff cynnyrch ei nodi fel ABP, rhaid ei storio ar wahân i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid y bwriedir i bobl eu bwyta ac ni ellir eu dargyfeirio yn ôl i’r gadwyn cyflenwi bwyd.

Os ydych am ddefnyddio ABPs, rhaid i chi geisio cymeradwyaeth neu gofrestriad gan APHA. Mae p’un a oes angen i chi gael eich cymeradwyo neu gofrestru yn dibynnu ar yr hyn y mae eich busnes yn ei wneud a’r ABPs rydych yn eu trin. I gael canllawiau pellach, gweler yr adran berthnasol yng nghanllawiau Llywodraeth y DU ar gategorïau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cymeradwyo safleoedd, hylendid a gwaredu

Os dymunwch weithgynhyrchu a chyflenwi bwyd anifeiliaid anwes o sefydliad sydd wedi’i gymeradwyo gan yr ASB, darllenwch ganllawiau’r ASB “Cynhyrchu bwyd a bwyd anifeiliaid anwes yn yr un lle”.

Arferion gorau

Er nad yw’n orfodol, mae’n arfer gorau bod ABPs a gynhyrchir, ac sydd y tu allan i gwmpas y rheoliadau ABP (er enghraifft, diberfeddu), naill ai’n cael eu:

  • llosgi neu eu rendro mewn ffatri cymeradwy;
  • claddu ar ddaliad lle cafodd yr anifeiliaid hela gwyllt eu saethu neu eu lladd fel arall; neu
  • rhoi mewn bagiau dwbl a’u gosod fel gwastraff mewn biniau tirlenwi i atal risgiau halogi amgylcheddol.