Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme (FHRS) Food and You 2: Wave 4

Bwyd a Chi 2 CSHB Cylch 4: Cyflwyniad

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran lywodraethol anweinidogol sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ei rôl, ei chylch gwaith, a’i chyfrifoldebau 

Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022-2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Bwriedir i arolwg Bwyd a Chi 2 fonitro cynnydd yr ASB yn erbyn y weledigaeth hon a llywio penderfyniadau polisi trwy fesur yn rheolaidd yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill a gofnodir gan ddefnyddwyr eu hunain yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Cyflwyniad i’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

 

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd(footnote) yn gweithredu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ers ei lansio yn 2010 ac mae’n helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd trwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau fel yr oeddent adeg yr adolygiad hylendid bwyd. Fel arfer, bydd sgoriau’n cael eu rhoi i safleoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi neu’i werthu’n uniongyrchol i bobl, fel bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai, ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill. Yng Nghymru, mae’r cynllun hefyd yn cynnwys busnesau sy’n masnachu â busnesau eraill yn unig, fel gweithgynhyrchwyr.

Mae’r ASB yn rhoi’r cynllun ar waith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd er mwyn i’r bwyd fod yn ddiogel i’w fwyta. Rhoddir sgôr i fusnesau, rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod y safonau hylendid yn dda iawn ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys. 

Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr. Yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgôr, ond yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith(footnote). Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan sgoriau’r ASB a thrwy apiau trydydd parti.

 

Bwyd a Chi 2

Comisiynodd yr ASB Ipsos i lunio a chynnal arolwg newydd, ‘Bwyd a Chi 2’, ddwywaith y flwyddyn, a hynny ar-lein yn bennaf. Mae arolwg Bwyd a Chi 2 yn disodli arolwg Bwyd a Chi yr ASB a gynhaliwyd wyneb yn wyneb (2010-2018)(footnote), Arolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd (2010-2019) ac Arolwg Tracio Agweddau Defnyddwyr y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (2014-2019) . Gan fod cynnwys y cwestiynau, y dull cyflwyno a’r dull ymateb yn wahanol, ni ddylid cymharu’r arolygon cynharach hyn ag arolwg Bwyd a Chi 2 yn uniongyrchol. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hanes a’r fethodoleg yn Atodiad A. 

Cynhaliwyd gwaith maes Bwyd a Chi 2: Cylch 4 rhwng 18 Hydref 2021 a 10 Ionawr 22. Cwblhawyd yr arolwg ‘gwthio i’r we’ gan gyfanswm o 5,796 o oedolion a 4,026 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Y modiwlau a gyflwynir yn adroddiad Bwyd a Chi 2: Cylch 4 yn cynnwys ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo’, ‘Pryderon am fwyd’, ‘Diogeledd bwyd’, ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’, ‘Alergeddau ac anoddefiadau bwyd a mathau eraill o orsensitifrwydd’, ‘Bwyta gartref’, ‘Siopa am fwyd: cynaliadwyedd a’r effaith amgylcheddol’, a ‘Deietau cynaliadwy, dewisiadau amgen i gig a thechnolegau genetig’.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 4 o ran y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, gan gynnwys ymwybyddiaeth, adnabyddiaeth a defnydd yr ymatebwyr o’r Cynllun, dealltwriaeth o’r Cynllun a’i effaith ar ymddygiad, ac agweddau tuag at y Cynllun. Nid yw pob cwestiwn a ofynnwyd yn arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 4 wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Mae’r holl ganlyniadau ar gael yn y tablau data a’r set ddata sylfaenol

Disgwylir i adroddiad Tueddiadau Bwyd a Chi 2: Cylch 1-4 gael ei gyhoeddi yn 2023. Fodd bynnag, ni fydd data tueddiadau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn cael eu hadrodd nes bod o leiaf tri cylch o ddata’r Cynllun wedi’u casglu. Mae’r modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ sy’n cynnwys y cwestiynau sy’n ymwneud â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i’w weld bob yn ail cylch arolwg Bwyd a Chi 2, o gylch 2 ymlaen. 

Dehongli’r canfyddiadau 

I dynnu sylw at y gwahaniaethau allweddol rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, dim ond pan fo’r gwahaniaeth absoliwt yn 10 pwynt canran neu ragor ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p<0.05) y byddwn fel arfer yn tynnu sylw at wahaniaethau yn y proffiliau ymateb. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill wedi’u cynnwys pan fo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canran, a hynny pan dybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn. 

Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r gwahaniaethau rhwng rhai is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill yn y boblogaeth. Mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cynnwys data pob is-grŵp, ond mae’r data hyn ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau data

Darperir gwybodaeth bwysig am bob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:

  • Geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r opsiynau ymateb (ymatebion). 
  • Nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd pob cwestiwn iddyn nhw a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (sylfaen = ).
  • Mae ‘Pwysig’ yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig i’w hystyried wrth ddehongli’r canlyniadau.