Pennod 3: Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i wneud penderfyniadau
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o’r ffordd y bydd pobl yn defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i benderfynu ble i fwyta allan neu ble i brynu bwyd.
Sgoriau hylendid bwyd derbyniol
Ffigur 13. Parodrwydd i fwyta bwyd mewn bwyty neu o safle tecawê â sgôr hylendid bwyd islaw 5.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ystyried a fydden nhw’n dal i fwyta neu archebu bwyd o fwyty neu o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sgôr is na’r sgôr uchaf o 5 (da iawn) ar sticer sgôr hylendid bwyd ar ôl cyrraedd safle’r busnes bwyd. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y bydden nhw’n dal i fwyta bwyd mewn bwyty neu o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 4 (da) (94%) neu 3 (boddhaol ar y cyfan) (61%). Serch hynny, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr na fydden nhw’n bwyta bwyd mewn bwyty nac o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 2 (angen gwella) (81%), 1 (angen gwella yn sylweddol) (94%) neu 0 (angen gwella ar frys) (95%) (Ffigur 13)FHRS11_rebased i weld y rhifau sylfaen, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.</p> " href="#">(footnote).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa sgôr y bydden nhw fel arfer yn ei hystyried fel y sgôr hylendid bwyd isaf a fyddai’n dderbyniol iddyn nhw wrth ystyried prynu bwyd o rywle. Byddai llai nag un o bob 10 (8%) o’r ymatebwyr yn ystyried sgôr o 5 (da iawn) fel eu sgôr dderbyniol isaf. Byddai dros bedwar o bob 10 ymatebydd (41%) yn ystyried sgôr o 4 (da) fel eu sgôr dderbyniol isaf, gyda 40% o’r ymatebwyr yn ystyried sgôr o 3 (boddhaol ar y cyfan), a 4% yn ystyried sgôr o 2 (angen gwella) fel eu sgôr dderbyniol isaf. Byddai tua un o bob cant (1%) o’r ymatebwyr yn ystyried sgôr o 1 (angen gwella yn sylweddol) ac 1% yn ystyried sgôr o 0 (angen gwella ar frys) fel eu sgôr dderbyniol isaf.(footnote)
Sefyllfaoedd sy’n effeithio ar sgoriau hylendid bwyd derbyniol
Ffigur 14. Parodrwydd i fwyta bwyd mewn bwyty neu o siop tecawê â sgôr hylendid bwyd sy’n is na’u sgôr dderbyniol isaf.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a allen nhw feddwl am sefyllfa lle y gallen nhw benderfynu prynu bwyd o fusnes â sgôr is na’u sgôr dderbyniol isaf arferol. Ar draws pob sgôr, dywedodd tua dau draean yr ymatebwyr (65%) na allen nhw feddwl am sefyllfa lle y gallen nhw benderfynu prynu bwyd o fusnes bwyd â sgôr is, roedd 22% yn gallu meddwl am sefyllfa (Ffigur 14)(footnote).
Ffigur 15. Sefyllfaoedd lle y gallai’r ymatebwyr brynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr hylendid bwyd is na’u sgôr dderbyniol isaf arferol.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd yn gallu meddwl am sefyllfa lle y gallen nhw brynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr is na’u sgôr dderbyniol arferol egluro beth fyddai’r sefyllfa honno drwy ddewis o blith rhestr o opsiynau. Y sefyllfaoedd mwyaf cyffredin oedd: pe na bai llawer o ddewis o leoedd i fynd iddyn nhw (48%), pe baen nhw wedi bwyta bwyd oddi yno o’r blaen (45%), pe baen nhw angen bachu rhywbeth yn gyflym (32%), neu pe baen nhw allan yn hwyr y nos (30%) (Ffigur 15)(footnote).
Ffigur 16. Parodrwydd i brynu bwyd gan fusnes â sgôr hylendid bwyd sy’n uwch na’u sgôr derbyniol isaf arferol.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a allen nhw feddwl am sefyllfa lle na fydden nhw ond yn prynu bwyd o fusnes bwyd â sgôr uwch na’u sgôr dderbyniol isaf arferol. Yn gyffredinol, gallai’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr (64%) feddwl am sefyllfa lle y bydden nhw’n gwneud hyn, ac nid oedd 24% o’r ymatebwyr yn gallu. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a oedd yn tybio bod sgôr o 2 (angen gwella) (66%), 3 (boddhaol ar y cyfan) (66%) neu 4 (da) (64%) yn gyffredinol dderbyniol yn gallu meddwl am sefyllfa lle na fydden nhw ond yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr uwch (Ffigur 16)(footnote).
Ffigur 17. Achlysuron lle na fyddai’r ymatebwyr ond yn prynu bwyd gan fusnes â sgôr hylendid bwyd sy’n uwch na’u sgôr dderbyniol arferol.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd yn gallu meddwl am achlysur lle na fydden nhw ond yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr uwch na’u sgôr dderbyniol arferol egluro beth fyddai’r achlysur hwnnw trwy ddewis o blith rhestr o opsiynau. Yr achlysuron mwyaf cyffredin oedd achlysuron arbennig (55%), pan fydd yr ymatebydd mewn lle anghyfarwydd (er enghraifft gweithio i ffwrdd neu ar wyliau) (40%), pan fydd yr ymatebydd yng nghwmni pobl benodol neu aelodau penodol o’i deulu (40%), neu pan fydd gan yr ymatebydd neu rywun arall ofynion iechyd arbennig (er enghraifft salwch neu feichiogrwydd) (39%) (Ffigur 17)(footnote).
Effaith y sticer sgôr hylendid bwyd ar ganfyddiadau ac ymddygiad
Pe na bai sticer sy’n dangos sgôr hylendid bwyd y busnes yn cael ei arddangos wrth y fynedfa, gofynnwyd i’r ymatebwyr i ba raddau, os o gwbl, y byddai hynny’n effeithio ar eu penderfyniad i fwyta yno. O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, roedd dros hanner yr ymatebwyr (57%) yn llai tebygol (hynny yw ‘yn llawer llai tebygol’ neu ‘ychydig yn llai tebygol’) o fwyta bwyd mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa. Fodd bynnag, dywedodd 28% o’r ymatebwyr na fyddai’n eu gwneud yn llai tebygol o fwyta yno.
Byddai cyfran uwch o’r ymatebwyr sy’n byw yng Nghymru (66%) yn llai tebygol (hynny yw ‘yn llawer llai tebygol’ neu ‘ychydig yn llai tebygol’) o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa o’u cymharu ag ymatebwyr yn Lloegr (56%). Byddai tua 6 o bob 10 (61%) o ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon yn llai tebygol o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa**(footnote).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd nad oedd yn arddangos sticer a oedd yn dangos ei sgôr hylendid bwyd. O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, dywedodd 15% eu bod wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos sticer a oedd yn dangos ei sgôr hylendid bwyd(footnote).
Ffigur 18. Pryderon yr ymatebwyr pe na bai busnes bwyd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd ar ei safle.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Respondents were asked what concerns they would have if they visited a food business that did not display its food hygiene rating sticker on the premises. The most common concerns were that the food business had poor hygiene standards (48%) and that the food business had a poor or low food hygiene rating and was trying to hide it (45%). Over a quarter (27%) of respondents would not notice the food hygiene rating sticker was missing and 4% would not be concerned about anything if the sticker was not displayed (Figure 18)(footnote).
Hanes diwygio
Published: 28 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Tachwedd 2022