Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme (FHRS) Food and You 2: Wave 4

Bwyd a Chi 2 (Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd) Cylch 4: Crynodeb Gweithredol

Mae Bwyd a Chi 2 yn arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.

Trosolwg o Bwyd a Chi 2

Cynhaliwyd gwaith maes Bwyd a Chi 2: Cylch 4 rhwng 63T18PP Hydref 2021 a 10PP Ionawr 202263T. Cafodd yr arolwg ‘gwthio i’r we’ (push-to-web) ei gwblhau gan gyfanswm o 5,796 o oedolion o 4,026 o gartrefi (sef cyfradd ymateb o 28.5%) ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Atodiad A am ragor o wybodaeth am y fethodoleg). 

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2:  Modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ Cylch 4 yn ymwneud â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Cwblhaodd cyfanswm o 4,755 o oedolion ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ drwy’r holiadur ar-lein neu drwy’r holiadur post ‘Bwyta allan’. 

Bwyd a Chi 2: Casglwyd data Cylch 4 yn ystod cyfnod a chyd-destun sydd wedi gweld newidiadau yn economeg a gwleidyddiaeth y DU a byd-eang, newidiadau i’r cyd-destun y mae’r cyhoedd yn gwneud penderfyniadau bwyd ynddo, ac effaith cyfyngiadau Omicron. Disgwylir i’r cyd-destun cyfredol gael effaith ar lefel y diogeledd bwyd (food security) a’r ymddygiadau sy’n ymwneud â bwyd a adroddwyd(footnote).

Y prif ganfyddiadau

Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd 

  • Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (89%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn Lloegr (89%), Cymru (95%), a Gogledd Iwerddon (92%) wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ** .  Roedd ymatebwyr yng Nghymru (74%) a Gogledd Iwerddon (65%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd na’r rheiny yn Lloegr (57%)**2. 
  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, y lle mwyaf cyffredin yr oedd yr ymatebwyr wedi dod ar ei draws oedd trwy weld sticer sgôr hylendid bwyd yn cael ei arddangos mewn busnes bwyd (85%), tra bod dros draean (37%) o’r ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar wefan busnes bwyd. 
  • Pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd iddyn nhw, dywedodd 88% o’r ymatebwyr eu bod wedi gweld y sticer o’r blaen.  Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn is yn Lloegr (87%) nag yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (94%)**. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fod wedi gweld y sticer mewn bwyty (81%), caffi (71%) neu siop tecawê (66%) yn y 12 mis diwethaf. 

Dealltwriaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

  • Roedd tua 4 o bob 10 (41%) o ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein). Roedd ymatebwyr yng Nghymru (54%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd nag ymatebwyr yn Lloegr (40%), ac i raddau llai y rheiny yng Ngogledd Iwerddon (46%)**(footnote).
    O blith y rheiny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd, y mathau mwyaf cyffredin o fusnesau lle’r oedd ymatebwyr wedi gwirio sgoriau oedd siopau tecawê (70%) a bwytai (69%), ac roedd y rhan fwyaf wedi gwneud hynny drwy edrych ar y sticer sgôr hylendid a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd (83%).
    Dywedodd un o bob 10 (10%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio sgôr hylendid bwyd bwyty neu siop tecawê wrth gyrraedd, dywedodd 20% eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser a 31% yn gwneud hyn yn llai aml (hynny yw ‘tua hanner yr amser’ neu ‘o bryd i’w gilydd).

Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i wneud penderfyniadau

  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y bydden nhw’n dal i fwyta bwyd mewn bwyty neu o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 4 (da) (94%) neu 3 (boddhaol ar y cyfan) (61%). Serch hynny, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr na fydden nhw’n bwyta bwyd mewn bwyty nac o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 2 (angen gwella) (81%), 1 (angen gwella yn sylweddol) (94%) neu 0 (angen gwella ar frys) (95%).
  • Byddai llai nag un o bob 10 (8%) o’r ymatebwyr yn ystyried sgôr o 5 (da iawn) fel eu sgôr dderbyniol isaf. 4 (da) fyddai sgôr dderbyniol isaf dros bedwar o bob deg ymatebydd (41%), a 3 (boddhaol ar y cyfan) fyddai sgôr dderbyniol isaf 40% o’r ymatebwyr. 
  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, nid oedd tua dau draean yr ymatebwyr (65%) yn gallu meddwl am sefyllfa lle y gallen nhw benderfynu prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr is na’u sgôr dderbyniol isaf. I’r rheiny a oedd yn gallu meddwl am sefyllfa lle gallen nhw benderfynu prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr is (22%), y sefyllfa fwyaf cyffredin oedd pan nad oedd llawer o ddewis o leoedd i fynd, neu os oedd yr ymatebydd wedi bwyta bwyd yno o’r blaen. 
  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, gallai’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr (64%) feddwl am sefyllfa lle na fydden nhw ond yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr uwch na’u sgôr dderbyniol isaf. Roedd hyn yn fwyaf tebygol o ddigwydd pan oedd yn achlysur arbennig fel pen-blwydd, pen-blwydd priodas, neu ddathliad arall. 
  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, byddai dros hanner (57%) o’r ymatebwyr yn llai tebygol (hynny yw ‘yn llawer llai tebygol’ neu ‘ychydig yn llai tebygol’) o fwyta bwyd mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa; a dywedodd 15% eu bod wedi penderfynu peidio â bwyta yn rhywle yn ystod y 12 mis diwethaf am y rheswm hwn.

Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau 

  • O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio, roedd 93% yn meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu safle ac roedd 95% yn meddwl y dylai busnesau sy’n darparu gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd.