Pennod 4: Agweddau tuag at y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o agweddau tuag at y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, gan gynnwys barn am y gofyniad i arddangos sgoriau a ble y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd.
Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr hylendid bwyd. Yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd yn eu safleoedd, ond yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith(footnote).
Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw’n meddwl y dylai fod yn ofynnol gan y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd, neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydyn nhw am wneud hynny ai peidio. O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, roedd 93% yn meddwl y dylai fod yn ofynnol gan y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd, ac roedd 4% yn meddwl y dylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydyn nhw am wneud hynny ai peidio. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg ar draws y tair gwlad; roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yng Nghymru (95%), Lloegr (93%) a Gogledd Iwerddon (91%) yn meddwl y dylai fod yn ofynnol gan y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd**(footnote).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hefyd a oedden nhw’n meddwl y dylai gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos ei sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd. O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, roedd 95% yn meddwl y dylai gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos ei sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd, ac nid oedd 1% yn meddwl hynny. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg ar draws Cymru (94%), Lloegr (95%) a Gogledd Iwerddon (93%)**(footnote).
Barn am y man lle y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd
Figure 19. Locations where respondents think food hygiene ratings should be displayed.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd, gan ddewis o blith rhestr o leoliadau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn meddwl y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar wefannau siopau tecawê (94%), bwytai neu gaffis (94%), ar wefannau gwestai neu lety gwely a brecwast (94%), ar wefannau neu apiau cwmnïau archebu a dosbarthu bwyd (92%). Roedd tua 8 o bob 10 o ymatebwyr o’r farn y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar wefannau archfarchnadoedd (83%) ac ar wefannau cyfryngau cymdeithasol busnesau bwyd (82%) (Ffigur 19)(footnote).
Hanes diwygio
Published: 28 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Tachwedd 2022