Pennod 1: Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth yr ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (89%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Dywedodd tua chwech o bob deg (59%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a’u bod yn gwybod llawer neu ychydig amdano. Dywedodd bron i draean o’r ymatebwyr (31%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ond nad oedden nhw’n gwybod rhyw lawer amdano, os o gwbl. Dywedodd tua un o bob deg ymatebydd (11%) nad oedden nhw wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd(footnote).
Ffigur 1. Ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr a oedd yn byw yn Lloegr (89%), Cymru (95%), a Gogledd Iwerddon (92%) wedi clywed am yr Cynllun Sgorio (Ffigur 1)**. Fodd bynnag, roedd ymatebwyr yng Nghymru (74%) a Gogledd Iwerddon (65%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd na’r rheiny yn Lloegr (57%)**.
Ffigur 2. Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gwybodaeth amdano fesul grŵp oedran
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Roedd ymatebwyr rhwng 16 a 74 oed yn fwy tebygol o fod yn gwybod o leiaf ychydig am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd na’r rheiny dros 75 oed. Er enghraifft, dywedodd 68% o’r ymatebwyr 45-54 oed eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, o gymharu â 37% o’r rheiny sy’n 75 oed a throsodd (Ffigur 2).
Roedd ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a gwybodaeth amdano, hefyd yn amrywio rhwng y grwpiau canlynol o bobl:
- Incwm blynyddol cartrefi: roedd ymatebwyr ag incwm dros £19,000 (er enghraifft, 62% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio, o gymharu â’r rheiny ag incwm llai nag £19,000 (53%)**.
- Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC): roedd ymatebwyr yn yr holl grwpiau eraill (er enghraifft, 62% o’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd na’r rheiny a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (45%).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (60%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (44%).
- Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (59%) yn fwy tebygol o fod yn gwybod am y Cynllun Sgorio na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa am fwyd (46%).
Ffigur 3. Lleoliadau lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle roedden nhw wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd bod yr ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd trwy weld sticer yn cael ei arddangos mewn safleoedd busnes bwyd (85%). Roedd dros draean yr ymatebwyr (37%) wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar wefan busnes bwyd, roedd 22% wedi dod ar ei draws ar wefan a/neu ap archebu a/neu ddosbarthu bwyd (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, UberEats) ac oredd 14% o’r ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar wefan yr ASB (Ffigur 3)(footnote).
Ffigur 4. Y 5 lle mwyaf amlwg lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yng Nghymru (91%), Lloegr (84%) a Gogledd Iwerddon (90%) wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd trwy weld sticer ar safle busnes bwyd (Ffigur 4)**.
Adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd iddyn nhw, dywedodd bron i 9 o bob 10 ymatebydd (88%) eu bod wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn is yn Lloegr (87%) nag yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (94%)(footnote)**.
Ffigur 5. Adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd fesul grŵp oedran.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd nag oedolion hŷn. Er enghraifft, dywedodd 96% o’r ymatebwyr 16-24 oed eu bod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd o’u cymharu â 60% o’r ymatebwyr 75 oed a throsodd (Ffigur 5).
Roedd adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd hefyd yn amrywio rhwng y mathau canlynol o bobl:
- Incwm blynyddol cartrefi: roedd ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rhai ag incwm is. Er enghraifft, roedd 95% o’r rheiny ag incwm o £96,000 neu uwch wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd o gymharu ag 81% o’r rheiny ag incwm llai na £19,000.
- NS-SEC: roedd ymatebwyr mewn rhai grwpiau galwedigaethol, er enghraifft, galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (89%) a myfyrwyr amser llawn (97%) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (76%).
- Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (88%) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa am fwyd (76%).
Ffigur 6. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle roedden nhw wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gweld y sticer mewn bwytai (81%), mewn caffis (71%) neu mewn siopau tecawê (66%) (Ffigur 6)(footnote).
Ffigur 7. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn bwytai yng Nghymru (82%), Lloegr (80%) a Gogledd Iwerddon (84%)**. Roedd tua 8 o bob 10 o ymatebwyr yng Nghymru (79%) a Gogledd Iwerddon (77%) wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn caffis o gymharu â 70% o ymatebwyr yn Lloegr**. Roedd ymatebwyr yng Nghymru (61%) a Lloegr (51%) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn tafarndai na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (40%) (Ffigur 7).
Hanes diwygio
Published: 27 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Tachwedd 2022