Bwyd a Chi 2 – Cylch 9: Cyflwyniad
Cafodd data Bwyd a Chi 2: Cylch 9 ei gasglu rhwng 24 Ebrill 2024 ac 1 Gorffennaf 2024.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ei rôl, ei chylch gwaith, a’i chyfrifoldebau
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. (footnote 1) Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022–2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r canlynol:
- Mae bwyd yn ddiogel
- Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
- Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy
Bwriedir i arolwg Bwyd a Chi 2 fonitro cynnydd yr ASB yn erbyn y weledigaeth hon a llywio penderfyniadau polisi trwy fesur yn rheolaidd yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill a gofnodir gan ddefnyddwyr eu hunain yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Bwyd a Chi 2: Cylch 9
Cafodd data Bwyd a Chi 2: Cylch 9 ei gasglu rhwng 24 Ebrill 2024 ac 1 Gorffennaf 2024. Cwblhawyd yr arolwg gan 5,526 o oedolion (16 oed neu hŷn) o 3,908 o gartrefi ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr (sef cyfradd ymateb gyffredinol o 25.8%).
Cafodd data Bwyd a Chi 2: Cylch 9 ei gasglu yn ystod cyfnod pan oedd chwyddiant prisiau bwyd yn gymharol sefydlog a phris ynni yn gostwng, gyda chyfraddau chwyddiant ar gyfer prisiau bwyd ac ynni yn sylweddol is na’r flwyddyn flaenorol. Roedd y sefydlogi hwn mewn chwyddiant prisiau bwyd a’r gostyngiad mewn prisiau ynni yn dilyn cyfnod o chwyddiant uchel dros y ddwy flynedd flaenorol. Casglwyd data cylch 9 hefyd yn ystod y cyfnod yn union cyn etholiad cyffredinol y DU (a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2024). Gallai’r digwyddiadau diweddar hyn effeithio ar agwedd bersonol ymatebwyr ar y pynciau yn yr arolwg hwn.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 9. Nid yw’r holl gwestiynau a ofynnwyd yn arolwg Cylch 9 wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Mae’r canlyniadau llawn ar gael yn y set ddata a’r tablau cysylltiedig.
Dehongli’r canfyddiadau
I dynnu sylw at y prif wahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, dim ond pan fo’r gwahaniaethau absoliwt yn 10 pwynt canrannol neu fwy ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p <0.05) y byddwn fel arfer yn tynnu sylw at wahaniaethau yn y proffiliau ymateb. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill wedi’u cynnwys pan fo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, a hynny os tybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn. Mae seren sengl yn nodi nad yw’r gwerth yn cael ei adrodd gan fod maint y sylfaen yn is na 100 ac, o ganlyniad, efallai nad yw’n gynrychioliadol (*).
Mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cynnwys data pob is-grŵp, ond mae’r fath ddadansoddiadau ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau. Darperir gwybodaeth bwysig am bob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:
- Geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r opsiynau ymateb (ymateb).
- Nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd y cwestiwn iddyn nhw, a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (sylfaen = N).
- Mae ‘Sylwer:’ yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig i’w hystyried wrth ddehongli’r canlyniadau.
-
Yn yr Alban, y swyddfa anweinidogol, Safonau Bwyd yr Alban, sy’n gyfrifol am wella maeth, sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta, a sicrhau bod defnyddwyr yn gwybod beth maen nhw’n ei fwyta.