Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
research page

Bwyd a Chi 2, Cylch 9: Pennod 2 – Pryderon am fwyd

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon yr ymatebwyr am fwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2025

Gwaith yr ASB, fel y nodir yn y gyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol.

Pryderon cyffredin

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Nid oedd gan y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (79%) unrhyw bryderon, a dim ond 21% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder. (footnote 1)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryderon esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â dulliau cynhyrchu bwyd (35%), maeth ac iechyd (26%), pryderon am ddiogelwch a hylendid bwyd (23%) ac am ansawdd bwyd (22%) (Ffigur 2). (footnote 2)

Ffigur 2. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd heb anogaeth (y 10 uchaf).

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o bryder;Canran (%);
Gorsensitifrwydd i fwyd;6;
Labelu bwyd;8;
Dilysrwydd bwyd;9;
Materion amgylcheddol a moesegol;13;
Tarddiad bwyd;13;
Halogiad bwyd;17;
Ansawdd bwyd;22;
Diogelwch a hylendid bwyd;23;
Maeth ac iechyd;26;
Dulliau cynhyrchu bwyd;35;
;;
;;
;;
;;
;;
;;
;;
;;
;;
;;
;;
;;
;;

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Gofynnwyd i’r holl ymatebwyr ar-lein ddweud a oedd ganddyn nhw bryderon am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Y pryder mwyaf cyffredin oedd prisiau bwyd (69%). Pryderon cyffredin eraill oedd gwastraff bwyd (58%), ansawdd bwyd (57%), faint o siwgr sydd mewn bwyd (57%), a faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir (55%) (Ffigur 3). (footnote 3)

Ffigur 3. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd gydag anogaeth (y 10 uchaf).

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o bryder;Canran (%) ;;;;
Gwenwyn bwyd;48;;;;
Hylendid bwyd wrth archebu tecawê;49;;;;
Hylendid bwyd wrth fwyta allan;50;;;;
Lles anifeiliaid;52;;;;
Gallu bwyta’n iachus;52;;;;
Faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir;55;;;;
Faint o siwgr sydd mewn bwyd;57;;;;
Ansawdd bwyd;57;;;;
Gwastraff bwyd;58;;;;
Prisiau bwyd;69;;;;
;;;;;

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi i ba raddau roedden nhw’n poeni am sawl mater penodol sy’n ymwneud â bwyd. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd (49%). Roedd materion eraill yr oedd yr ymatebwyr yn poeni’n fawr iawn amdanynt yn cynnwys lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd (33%), a diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r DU (30%) (Ffigur 4). (footnote 4)

Ffigur 4. Lefel y pryder am bynciau sy’n ymwneud â bwyd.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Pwnc yn ymwneud â bwyd;Ddim yn bryderus o gwbl;Ddim yn bryderus iawn;Ychydig yn bryderus;Yn bryderus dros ben
Argaeledd amrywiaeth eang o fwyd;13;37;33;11
Bod bwyd a gynhyrchir yn y DU
yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label";13;37;31;14
Diogelwch a hylendid bwyd
a gynhyrchir yn y DU";10;32;33;19
Bod bwyd o’r tu allan i’r DU yn cyd-fynd
â’r hyn sydd ar y label";6;22;40;26
Bod bwyd yn cael ei gynhyrchu
mewn modd cynaliadwy";5;17;47;24
Bwyd a addaswyd yn enetig (GM);10;23;34;26
Diogelwch a hylendid bwyd
o’r tu allan i’r DU";4;18;43;30
Cynhwysion ac ychwanegion mewn bwyd;5;16;48;26
Lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd;5;16;39;33
Fforddiadwyedd bwyd;2;8;38;49
;;;;

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Roedd lefel y pryder am fforddiadwyedd bwyd a nodwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 16 a 54 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny rhwng 55 a 75 oed. Er enghraifft, roedd 57% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed yn bryderus iawn o gymharu â 34% o’r rheiny a oedd rhwng 65 a 74 oed.
  • Presenoldeb plant o dan 16 oed yn y cartref: roedd y cartrefi hynny lle’r oedd plant yn bresennol (58%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny heb blant (46%).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r cartrefi hynny ag incwm uwch (er enghraifft, 58% o’r rheiny ag incwm o dan £19,000 o gymharu â 32% o’r rheiny ag incwm o £96,000 neu fwy).
  • NS-SEC: roedd y rheiny yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 44% o’r rhai mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na myfyrwyr amser llawn (62%).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â lefel isel iawn (75%), isel (66%) neu ymylol (65%) o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny â lefel uchel (39%) o ddiogeledd bwyd.
  • Cyflwr iechyd hirdymor: roedd yr ymatebwyr â chyflwr iechyd hirdymor (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny heb gyflwr iechyd hirdymor (46%).
  • Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB): roedd y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB ac a oedd naill ai’n gwybod llawer neu ychydig amdano (50%), neu’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB ond nad oedden nhw’n gwybod llawer neu ddim byd amdano (49%), yn fwy tebygol o fod yn bryderus am fforddiadwyedd bwyd, o gymharu â’r rheiny nad oedden nhw wedi clywed am y cynllun (33%).