Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
research page

Bwyd a Chi 2, Cylch 9: Pennod 7 – Technolegau genetig

Mae’r bennod hon yn crynhoi gwybodaeth yr ymatebwyr am dechnolegau genetig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mai 2025

Cyflwyniad

Yr ASB sy’n gyfrifol am awdurdodi bwydydd newydd.

Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) gylch gwaith eang ac mae’n chwarae rhan fawr wrth gynyddu cynaliadwyedd, cynhyrchiant a gwytnwch y sectorau amaethyddiaeth, pysgota, bwyd a diod, gwella bioddiogelwch ar y ffin, a chodi safonau lles anifeiliaid. Yn ogystal, mae Defra yn goruchwylio’r gwaith o  reoleiddio technolegau genetig fel organebau a addaswyd yn enetig (GMO), organebau sydd wedi bod yn destun golygu genynnau (GE) ac organebau wedi’u bridio’n fanwl. Yr ASB sy’n gyfrifol am awdurdodi bwydydd newydd.

Mae’r bennod hon yn crynhoi gwybodaeth yr ymatebwyr am dechnolegau genetig. (footnote 1)

Ymwybyddiaeth o fwydydd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau (GE), bwydydd wedi’u haddasu’n enetig (GM) a bwydydd wedi’u bridio’n fanwl.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent erioed wedi clywed am fwyd wedi’i addasu’n enetig (GM), bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau a bwyd wedi’i fridio’n fanwl. Nododd yr ymatebwyr fod ganddyn nhw fwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd a addaswyd yn enetig (GM) na bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau (GE) ac roedden nhw’n gwybod y lleiaf am fwyd wedi’i fridio’n fanwl. Er enghraifft, nid oedd 63% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd wedi’i fridio’n fanwl, (footnote 2) nid oedd 38% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GE, (footnote 3) ac nid oedd 8% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GM (footnote 4) (Ffigur 24).

Ffigur 24. Ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd wedi’i addasu’n enetig (GM), bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau/golygu genomau (GE) a bwyd wedi’i fridio’n fanwl.

Ffigur 24. Ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd wedi’i addasu’n enetig (GM), bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau/golygu genomau (GE) a bwyd wedi’i fridio’n fanwl.
Lefel ymwybyddiaeth Bwyd sydd wedi’i addasu’n enetig (GM) Bwyd sydd wedi bod yn destun addasu genynnau neu olygu genomau Bwyd wedi’i fridio’n fanwl
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano 15 7 4
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano, 43 19 9
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano 26 22 13
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano 8 14 11
Na, dydw i erioed wedi clywed amdano 8 38 63

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9