Bwyd a Chi 2, Cylch 9: Pennod 2 – Pryderon am fwyd
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon yr ymatebwyr am fwyd.
Gwaith yr ASB, fel y nodir yn y gyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol.
Pryderon cyffredin
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Nid oedd gan y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (79%) unrhyw bryderon, a dim ond 21% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder. (footnote 1)
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryderon esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â dulliau cynhyrchu bwyd (35%), maeth ac iechyd (26%), pryderon am ddiogelwch a hylendid bwyd (23%) ac am ansawdd bwyd (22%) (Ffigur 2). (footnote 2)
Ffigur 2. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd heb anogaeth (y 10 uchaf).
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9
Gofynnwyd i’r holl ymatebwyr ar-lein ddweud a oedd ganddyn nhw bryderon am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Y pryder mwyaf cyffredin oedd prisiau bwyd (69%). Pryderon cyffredin eraill oedd gwastraff bwyd (58%), ansawdd bwyd (57%), faint o siwgr sydd mewn bwyd (57%), a faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir (55%) (Ffigur 3). (footnote 3)
Ffigur 3. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd gydag anogaeth (y 10 uchaf).
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9
Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi i ba raddau roedden nhw’n poeni am sawl mater penodol sy’n ymwneud â bwyd. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd (49%). Roedd materion eraill yr oedd yr ymatebwyr yn poeni’n fawr iawn amdanynt yn cynnwys lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd (33%), a diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r DU (30%) (Ffigur 4). (footnote 4)
Ffigur 4. Lefel y pryder am bynciau sy’n ymwneud â bwyd.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9
Roedd lefel y pryder am fforddiadwyedd bwyd a nodwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 16 a 54 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny rhwng 55 a 75 oed. Er enghraifft, roedd 57% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed yn bryderus iawn o gymharu â 34% o’r rheiny a oedd rhwng 65 a 74 oed.
- Presenoldeb plant o dan 16 oed yn y cartref: roedd y cartrefi hynny lle’r oedd plant yn bresennol (58%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny heb blant (46%).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r cartrefi hynny ag incwm uwch (er enghraifft, 58% o’r rheiny ag incwm o dan £19,000 o gymharu â 32% o’r rheiny ag incwm o £96,000 neu fwy).
- NS-SEC: roedd y rheiny yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 44% o’r rhai mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na myfyrwyr amser llawn (62%).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â lefel isel iawn (75%), isel (66%) neu ymylol (65%) o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny â lefel uchel (39%) o ddiogeledd bwyd.
- Cyflwr iechyd hirdymor: roedd yr ymatebwyr â chyflwr iechyd hirdymor (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny heb gyflwr iechyd hirdymor (46%).
- Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB): roedd y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB ac a oedd naill ai’n gwybod llawer neu ychydig amdano (50%), neu’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB ond nad oedden nhw’n gwybod llawer neu ddim byd amdano (49%), yn fwy tebygol o fod yn bryderus am fforddiadwyedd bwyd, o gymharu â’r rheiny nad oedden nhw wedi clywed am y cynllun (33%).
-
Cwestiwn: Oes gennych chi unrhyw bryderon am y bwyd rydych chi’n ei fwyta? Ymatebion: Oes, Nac oes. Sylfaen = 5,526; pawb a ymatebodd.
-
Cwestiwn: Beth yw eich pryderon am y bwyd rydych chi’n ei fwyta? Ymatebion: [Testun agored]. Sylfaen = 1,100; pawb a ymatebodd a oedd â phryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Sylwer: mae ymatebion ychwanegol ar gael yn y tablau a’r set ddata lawn. Cafodd yr ymatebion eu codio gan Ipsos, gweler yr Adroddiad Technegol i gael rhagor o fanylion.
-
Cwestiwn: A oes gennych chi bryderon am unrhyw rai o’r canlynol? Ymatebion: faint o siwgr sydd mewn bwyd, gwastraff bwyd, lles anifeiliaid, hormonau, steroidau a gwrthfiotigau mewn bwyd, faint o halen sydd mewn bwyd, faint o fraster sydd mewn bwyd, gwenwyn bwyd, hylendid bwyd wrth fwyta allan, hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê, y defnydd o blaladdwyr, twyll neu droseddau bwyd, y defnydd o ychwanegion (er enghraifft, cyffeithyddion a lliwiau bwyd), prisiau bwyd, bwydydd a addaswyd yn enetig (GM), halogi cemegol o du’r amgylchedd, taith bwyd, nifer y calorïau mewn bwyd, gwybodaeth am alergenau mewn bwyd, coginio’n ddiogel gartref, ansawdd bwyd, faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir, gallu bwyta’n iachus, dim un o’r rhain, ddim yn gwybod. Sylfaen = 3,530; pawb a ymatebodd ar-lein.
-
Cwestiwn: Gan feddwl am fwyd yn y DU [amrywiad i eiriad y cwestiwn yng Ngogledd Iwerddon: y DU ac Iwerddon] heddiw, pa mor bryderus ydych chi, os o gwbl, am y pynciau canlynol? a) fforddiadwyedd bwyd b) diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir [yng Nghymru a Lloegr: yn y DU; yng Ngogledd Iwerddon: yn y DU ac Iwerddon] c) diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r [yng Nghymru a Lloegr: DU; yng Ngogledd Iwerddon: DU ac Iwerddon] d) bod bwyd a gynhyrchir [yng Nghymru a Lloegr: yn y DU; yng Ngogledd Iwerddon: yn y DU ac Iwerddon] yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label e) bod bwyd o’r tu allan i’r [yng Nghymru a Lloegr: DU; yng Ngogledd Iwerddon: y DU ac Iwerddon] yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label f) bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn modd cynaliadwy g) argaeledd amrywiaeth eang o fwyd h) lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd i) cynhwysion ac ychwanegion mewn bwyd j) bwyd a addaswyd yn enetig (GM). Sylfaen = 3,530; pawb a ymatebodd ar-lein. Sylwer: addaswyd geiriad y cwestiwn ar gyfer ymatebwyr yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.