Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Strategaeth Sgiliau Cymraeg

Fframwaith ALTE – meysydd sgiliau iaith Gymraeg unigol

Mae ein matrics sgiliau yn seiliedig ar fodel Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop (ALTE)

Lefel 0 – Ymwybyddiaeth

Siarad

Rwy’n gallu ailadrodd rhai geiriau sylfaenol, syml wrth eu clywed yn aml.

Gwrando

Rwy’n gallu cydnabod rhai cyfarchion bob dydd sylfaenol er enghraifft, bore da, diolch, os yw’r person yn siarad yn araf iawn.

Darllen

Rwy’n gallu cydnabod rhai geiriau Cymraeg byr, sylfaenol. Rwyf hefyd yn gallu dyfalu ystyr rhai geiriau pan fyddan nhw mewn cyd-destun esboniadol.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu gair Cymraeg byr heb lawer o gymorth.

Lefel 1 – Mynediad

Siarad

Rwy’n gallu defnyddio rhai ymadroddion cyfarwydd bob dydd, er enghraifft, bore da, diolch. Rwyf hefyd yn gallu ynganu enwau lleoedd, pobl a sefydliadau. Rwy’n gallu siarad am bethau personol sylfaenol mewn sefyllfa anffurfiol, er enghraifft, diddordebau, teulu, gwaith, yr hyn a wnes i ddoe. Rwyf hefyd yn gallu siarad am bynciau sylfaenol, er enghraifft, y tywydd, amser, prisiau.

Gwrando

Rwy’n gallu deall ymadroddion bob dydd ac ymadroddion sylfaenol iawn os yw’r siaradwr yn siarad yn araf. Rwy’n gallu deall sgyrsiau am wybodaeth bersonol sylfaenol, er enghraifft, lle mae rhywun yn byw, lle mae rhywun yn gweithio, beth maen nhw’n hoffi ei wneud a beth wnaethon nhw. Rwy’n gallu dyfalu beth sy'n cael ei ddweud pan fydd rhywun yn rhoi manylion am ddigwyddiadau, fel yr amser a’r lleoliad.

Darllen

Rwy’n gallu deall ymadroddion byr iawn, ac rwy’n gallu dyfalu beth mae rhai hysbysiadau yn ei olygu. Rwy’n gallu deall testunau byr lle mae pobl yn rhoi gwybodaeth sylfaenol amdanyn nhw eu hunain neu am eraill. Fel rheol, rwy’n dod o hyd i fanylion, fel yr amser a chostau, mewn hysbysebion neu hysbysiadau.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu ymadroddion neu frawddegau syml iawn amdanaf fy hun neu am eraill. Rwyf hefyd yn gallu trosglwyddo neges syml neu wneud cais syml, er enghraifft, trwy e-bost.

Lefel 2 – Sylfaen

Siarad

Rwy’n gallu cynnal sgwrs sylfaenol gyda rhywun ar bwnc cyffredin bob dydd, ar yr amod bod y siaradwr arall yn helpu. Rwy’n gallu gofyn ac ateb cwestiynau ar bynciau cyfarwydd, er enghraifft, gwaith, hobïau, hoffterau, pethau sydd wedi digwydd neu gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Gwrando

Rwy’n deall pan fydd pobl yn siarad am sefyllfaoedd bob dydd, er enghraifft, gwybodaeth bersonol, gwaith, yr hyn y maent wedi’i wneud neu y bydden nhw’n ei wneud, ar yr amod eu bod yn siarad yn araf. Rwy'n gallu deall pan fydd pobl yn gofyn i mi neu i eraill wneud rhywbeth, a phan maen nhw'n gofyn am gynlluniau ar gyfer y dyfodol, gofyn am gyfarfod.

Darllen

Rwy’n deall negeseuon am bethau bob dydd, a rhai llythyrau neu e-byst sylfaenol iawn, er enghraifft, gofyn am rywbeth, neu ofyn am drosglwyddo neges. Rwyf hefyd yn gallu deall darnau byr o destunau neu lyfrau syml iawn, er enghraifft, llyfrau i blant.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu nodyn byr at ffrind neu gydweithiwr, yn gofyn am rywbeth, yn diolch iddyn nhw neu’n egluro rhywbeth, er enghraifft, absenoldeb o'r gwaith. Rwyf hefyd yn gallu ysgrifennu testun byr am bwnc cyfarwydd, er enghraifft, profiad personol, neu brofiad cysylltiedig â’r gwaith.

Lefel 3 – Canolradd

Siarad

Rwy’n gallu cynnal sgwrs estynedig gyda siaradwr rhugl ar bwnc cyfarwydd, er enghraifft, diddordebau neu’r gwaith. Rwy’n gallu mynegi barn a chyfnewid gwybodaeth ar ystod o bynciau sy’n ymwneud â bywyd bob dydd, er enghraifft, hobïau, teithio neu bynciau uniongyrchol gysylltiedig â’r gwaith.

Gwrando

Rwy’n deall gwybodaeth sy’n cael ei rhoi am bynciau cyffredin neu bob dydd, neu pan fydd pethau’n ymwneud â’r gwaith yn cael eu trafod, er enghraifft, mewn sgwrs, neu mewn cyfarfodydd grŵp bach. Fel rheol, rwy’n deall y brif neges a’r manylion, ar yr amod bod pobl yn siarad yn glir, er enghraifft, pan fydd cyhoeddiadau’n cael eu gwneud neu wrth wrando ar fwletinau newyddion.

Darllen

Rwy’n gallu deall erthyglau byrion syml ar bynciau o ddiddordeb bob dydd, neu’n ymwneud â’r gwaith. Rwy’n gallu dyfalu beth mae geiriau’n ei olygu o’r cyd-destun, pan fydd y pwnc yn gyfarwydd. Rwy’n deall y rhan fwyaf o e-byst a dogfennau cysylltiedig â’r gwaith.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu llythyr ar y mwyafrif o bynciau, gan ofyn am bethau, rhoi esboniadau, disgrifio profiadau, gwahodd pobl, neu drefnu digwyddiad. Rwy’n gallu ysgrifennu’n eithaf cywir ar y pynciau mwyaf cyfarwydd, er enghraifft, pynciau sy’n gysylltiedig â diddordebau neu’r gwaith.

Lefel 4 – Uwch

Siarad

Rwy’n gallu siarad yn hyderus â siaradwyr rhugl ar bynciau cyfarwydd sy’n gysylltiedig â bywyd bob dydd neu’r gwaith. Rwy’n gallu mynegi barn, cymryd rhan mewn trafodaeth, a siarad yn helaeth am bynciau cyffredinol, er enghraifft, mewn cyfarfod, neu mewn sefyllfa un i un.

Gwrando

Fel rheol, rwy’n dilyn y mwyafrif o sgyrsiau neu drafodaethau, hyd yn oed ar bynciau nad ydw i’n gyfarwydd â nhw. Rwy’n deall y rhan fwyaf o raglenni teledu a radio a fwriadwyd ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, oni bai bod gan y siaradwr acen gref, anghyfarwydd.

Darllen

Rwy’n deall y rhan fwyaf o ohebiaeth, ac yn sganio trwy destunau hir i ddod o hyd i fanylion. Rwy’n deall y rhan fwyaf o erthyglau ac adroddiadau papur newydd sydd wedi’u hanelu at siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, gyda chymorth geiriadur. Rwy’n gallu deall nofelau a thestunau eraill, ar yr amod nad ydynt wedi’u hysgrifennu mewn arddull ffurfiol neu lafar iawn.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu erthygl fer, adolygiad neu adroddiad ar amrywiaeth o bynciau o natur gyffredinol, neu sy'n gysylltiedig â’r gwaith, gyda gramadeg eithaf cywir. Rwyf hefyd yn gallu ysgrifennu testunau manwl sydd wedi’u strwythuro’n dda, sy’n briodol i’r darllenydd. Rwy’n ymateb yn gywir i’r rhan fwyaf o ohebiaeth gan gydweithwyr neu gysylltiadau allanol.

Lefel 5 – Hyfedredd

Siarad

Rwy’n mynegi fy hun yn llawn ac yn fanwl gywir, hyd yn oed wrth drafod materion cymhleth. Rwy’n addasu fy arddull iaith yn ôl y gynulleidfa, er enghraifft, wrth siarad mewn cyd-destun ffurfiol neu wrth siarad â ffrindiau. Rwy’n gallu siarad yn helaeth am fater cymhleth, cyflwyno dadleuon ac arwain trafodaethau.

Gwrando

Rwy’n gallu dilyn pob sgwrs a thrafodaeth rhwng eraill yn hawdd, ar bob math o bynciau. Rwy’n deall pob math o Gymraeg llafar, gan gynnwys darlithoedd neu drafodaethau cymhleth.

Darllen

Rwy’n gallu darllen a deall bron pob testun ysgrifenedig Cymraeg yn rhwydd, gyda chyfeiriadau achlysurol yn unig at eiriadur. Rwy’n gallu darllen testunau hir, er enghraifft, adroddiadau, erthyglau, i ddod o hyd i fanylion perthnasol a deall bron pob arddull ysgrifennu, er enghraifft, ffurfiol neu anffurfiol.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu ysgrifennu testunau estynedig, adroddiadau, erthyglau, cofnodion neu fathau eraill o ysgrifennu mewn arddull sy’n briodol i’r darllenydd. Rwy’n gallu ysgrifennu mewn Cymraeg ffurfiol neu anffurfiol yn ôl yr angen. Rwy’n gallu ysgrifennu gyda safon uchel o gywirdeb gramadegol ar ystod eang o bynciau.