Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Strategaeth Sgiliau Cymraeg

Cyflwyno gwasanaeth Cymraeg effeithiol yng Nghymru

Mae ein Strategaeth Sgiliau Cymraeg yn amlinellu sut y byddwn ni’n cynnal gweithlu dwyieithog digonol er mwyn darparu gwasanaeth Cymraeg effeithiol yng Nghymru.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth Cymraeg effeithiol yng Nghymru, yn unol â’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Iaith Gymraeg 2019-22.

Mae darparu gwasanaeth ystyrlon yng Nghymru, nad yw’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg gan ddarparu gwasanaethau cyfartal yn y ddwy iaith, yn gofyn am weithlu medrus a all weithio’n ddwyieithog. Er mwyn cynnal y gweithlu dwyieithog medrus hwn, mae’n rhaid i ni ddenu a chadw staff sy’n siarad Cymraeg ar draws holl dimau a phroffesiynau’r ASB yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, mae angen rhoi cyfle i staff cyfredol ymgymryd â hyfforddiant i ddatblygu neu wella eu sgiliau Cymraeg.

Bydd ein Strategaeth Sgiliau Cymraeg yn ein helpu i reoli a chynllunio sgiliau iaith staff. Mae’n cwmpasu’r meysydd allweddol canlynol:

  • Gwella’r gwasanaethau dwyieithog a ddarparwn

  • Pennu lefel sgiliau Cymraeg (darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad) sy’n ofynnol ar gyfer timau a swyddi ledled yr ASB yng Nghymru

  • Recriwtio unigolion sydd â’r lefel briodol o sgiliau Cymraeg ar gyfer pob swydd sy’n cael ei hysbysebu
  • Hyrwyddo a dathlu gweithle dwyieithog, yn fewnol ac yn allanol, gyda’r bwriad o ddenu a chadw staff dwyieithog

  • Cynyddu’r cyfleoedd i staff ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a magu eu hyder.

Ein nod yw sicrhau bod ein gwasanaeth Cymraeg yn bodloni’r gofynion a nodir ym Mesur y Gymraeg 2011, oherwydd gallant ddod yn uniongyrchol berthnasol i’r ASB yn y dyfodol. Dylai hefyd gyfrannu at darged uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac anrhydeddu ymrwymiad yr ASB i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Cymru â Diwylliant Bywiog lle Mae’r Gymraeg yn Ffynnu.