Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Strategaeth Sgiliau Cymraeg

Gweithredu ein Strategaeth Sgiliau Cymraeg

Mae’r Strategaeth yn adnodd allweddol i reolwyr sy’n recriwtio i’r ASB yng Nghymru a dylid ei defnyddio wrth ddylunio a gweithredu cynlluniau ar gyfer y gweithlu.

Er mwyn sicrhau bod y strategaeth iaith hon yn cael ei chymhwyso’n gyson, bydd holl reolwyr newydd yr ASB yng Nghymru yn cymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth iaith Gymraeg. Bydd yr Uned Iaith Gymraeg yn cyflwyno sesiynau gloywi dilynol i’r holl reolwyr yn ôl yr angen.

Camau gweithredu sy’n ofynnol

Er mwyn gweithredu’r strategaeth hon yn effeithiol, mae’n rhaid i’r ASB yng Nghymru gyflawni’r camau canlynol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei arwain gan Uned Iaith Gymraeg fewnol yr ASB, gyda chefnogaeth gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru ac Adnoddau Dynol. 

Mae’n rhaid sicrhau bod pob rheolwr recriwtio yng Nghymru yn ymwybodol o’r Strategaeth Sgiliau Cymraeg a’r nodau a’r gofynion sy’n rhan ohoni.

Mae’n rhaid diffinio a chyfathrebu’n glir y sgiliau Cymraeg mewnol sy’n ofynnol i weithredu Cynllun Iaith yr ASB yn llwyddiannus. Dylai ymdrechion i recriwtio staff dwyieithog ganolbwyntio ar y rolau a’r meysydd allweddol hyn:

  • Swyddog Cymorth Busnes – rôl sy’n ymdrin â’r cyhoedd sy’n gofyn am sgiliau dwyieithog. Mae hon yn swydd ddwyieithog barhaol sy’n gofyn am sgiliau siarad, darllen a gwrando sy’n cyfateb i lefel 4 yn unol â fframwaith Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop (ALTE) a sgiliau ysgrifennu sy’n cyfateb i lefel 2 ac uwch. Nid oes angen ailasesu ar gyfer y rôl hon bob tro y daw’n wag.
  • Gallu’r tîm Cyfathrebu yng Nghymru yn y Gymraeg (o leiaf un aelod o’r tîm i fod yn rhugl) – er mwyn sicrhau gwasanaeth Cyfathrebu Cymraeg effeithiol ac effeithlon, gan ofyn am sgiliau siarad, darllen a gwrando sy’n cyfateb i lefel 4 yn unol â fframwaith ALTE a sgiliau ysgrifennu sy’n cyfateb i lefel 3.
  • Gallu pob tîm ehangach yn y Gymraeg (o leiaf un aelod rhugl ym mhob tîm – siarad, gwrando a darllen lefel 4 ac ysgrifennu lefel 2) – er mwyn sicrhau bod y cyhoedd (sy’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, awdurdodau lleol, y cyfryngau, busnesau bwyd ac eraill yr ydym yn darparu gwasanaeth ar eu cyfer) yn gallu ymgysylltu â’r ASB yng Nghymru am unrhyw fater sy’n peri pryder yn eu dewis iaith (Cymraeg/Saesneg), fel y mae ganddynt hawl i’w wneud.
  • Uned Iaith Gymraeg fewnol – er na chyfeirir ati’n benodol yn y Cynllun Iaith, mae natur pob swydd yn yr Uned hon yn gofyn am sgiliau Cymraeg o’r lefel uchaf (lefel 5) ar gyfer siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu.

Dylai Uned Iaith Gymraeg yr ASB gynnal arolwg sylfaenol o sgiliau Cymraeg ar draws yr ASB yng Nghymru i bennu gallu staff mewnol presennol o ran sgiliau Cymraeg a nodi unrhyw fylchau yn y gwasanaeth. Dylid cynnal yr arolwg hwn yn flynyddol i sicrhau trosolwg cywir o sgiliau Cymraeg mewnol dros amser.

Mae’n rhaid nodi opsiynau ar gyfer cau unrhyw fylchau a nodir o ran sgiliau. Dylid gwneud hyn trwy recriwtio pan fydd cyfleoedd yn codi, a thrwy hyfforddiant a gwella sgiliau, fel y nodir yn adran ‘datblygu sgiliau Cymraeg’ y strategaeth hon.

Mae’n rhaid sicrhau gallu o ran y Gymraeg ar draws pob tîm yng Nghymru:

  • Pan ddaw swydd yn wag, neu pan fydd swydd newydd yn cael ei chreu, bydd y Rheolwr Recriwtio/Arweinydd y Tîm yn cysylltu â’r Uned Iaith Gymraeg cyn unrhyw sgyrsiau cychwynnol gydag Adnoddau Dynol.
  • Os nad oes gan un aelod o’r tîm sy’n recriwtio sgiliau Cymraeg, bydd y swydd wag hon yn cael ei hysbysebu o’r dechrau fel rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, a bydd y Rheolwr Recriwtio, dan arweiniad yr Uned Iaith Gymraeg, yn hysbysebu’r swydd wag ac yn targedu siaradwyr Cymraeg (gan ddefnyddio safleoedd recriwtio Cymraeg fel Lleol.cymru). Bydd lefel y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad yn cael ei phennu gan yr Uned Iaith Gymraeg yn unol â gofynion y swydd.
  • Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol lle mae angen clir a chyfiawn i lenwi swydd arbenigol/dechnegol ac nad oedd recriwtio am ymgeisydd Cymraeg wedi bod yn llwyddiannus, gall Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru ddiystyru’r gofyniad uchod am sgiliau Cymraeg yn ôl ei ddisgresiwn.
  • Dylai Rheolwyr Recriwtio a Phartneriaid Busnes Adnoddau Dynol sicrhau bod deunyddiau recriwtio yn pwysleisio’n briodol y sgiliau Cymraeg sy’n ofynnol, gan gyfeirio at fframwaith ALTE. Dylid ystyried hyn wrth baratoi’r pecyn i ymgeiswyr ac unrhyw ddeunyddiau hysbysebu.
  • Rydym ni’n cydnabod bod llawer o siaradwyr Cymraeg yn teimlo nad yw eu sgiliau’n ddigonol i’w defnyddio yn eu gwaith. Gall cyfeirio at fframwaith ALTE roi sicrwydd i ymgeiswyr posibl fod ganddynt yr union lefel o sgiliau sy’n ofynnol.

Mae’n rhaid i bob swydd nad yw’n cael ei hystyried yn swydd lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn unol â’r weithdrefn uchod, gynnwys y Gymraeg fel enghraifft o feini prawf dymunol (heb nodi lefel), a hynny er mwyn cryfhau ymhellach ymrwymiad yr Asiantaeth i sicrhau gweithlu dwyieithog.

Dylai aelodau newydd o staff gael eu hannog gan eu rheolwyr a’u cefnogi gan yr Uned Iaith Gymraeg i gyrraedd lefel 1 (sgiliau Cymraeg sylfaenol), sy’n golygu y gall staff ynganu enwau a sefydliadau yng Nghymru. Ymdrinnir â hyn mewn sesiwn cyflwyno’r Gymraeg i staff newydd yng Nghymru.

Mae’n rhaid monitro ac adrodd ar weithredu’r Strategaeth a chynnwys hyn mewn Adroddiadau Monitro Blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg.