Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Amdanom ni

Ein gwaith yw defnyddio ein harbenigedd a'n dylanwad er mwyn i bobl allu ymddiried bod y bwyd y maent yn ei brynu a'i fwyta yn ddiogel ac yn onest.

Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn yr adran Amdanom ni 

Rydym ni wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE, er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020 yn gywir. 

Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen bod unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau’r UE yn y canllawiau hyn yn golygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.


Darllenwch ein datganiad am ddiweddaru cynnwys a gynhyrchwyd cyn diwedd cyfnod pontio’r UE neu tra’r oedd y DU yn yr UE.