Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwybodaeth am reolaethau pysgod cregyn

Gwybodaeth am gynhyrchu pysgod cregyn a sut y caiff ei fonitro a'i adrodd gennym ni.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Rhagfyr 2017
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Rhagfyr 2017
Gweld yr holl ddiweddariadau

Ni yw'r Awdurdod Cymwys Canolog sy'n uniongyrchol gyfrifol am benderfyniadau mewn perthynas â dosbarthu a monitro rheolaethau swyddogol pysgod cregyn. Rydym ni'n rhoi cyngor ar gau ac ailagor ardaloedd cynhyrchu ac ail-osod pysgod cregyn. 

Diffinnir molysgiaid dwygragennog byw gan Reoliad 853/2004.

Mae molysgiaid dwygragennog byw yn cynnwys:

  • wystrys (y Môr Tawel a brodorol)
  • cregyn gleision
  • cregyn berffro (clams)
  • cocos
  • cregyn bylchog

Gan fod y rhywogaethau hyn yn bwydo drwy hidlo, maent yn agored i gasglu a chronni tocsinau, halogion cemegol neu bacteriolegol o'u hamgylchedd.

Er mwyn lleihau'r risg o halogiad, dim ond o ardaloedd cynhyrchu dosbarthedig sy'n cael eu monitro y gellir cynaeafu'r rhywogaethau hyn yn fasnachol.

Mae yna driniaethau ar gyfer pysgod cregyn i leihau lefel yr halogiad microbiolegol ynddynt a sicrhau eu bod yn ddiogel i'w rhoi ar y farchnad.

Mae hefyd yn ofyniad i fonitro ardaloedd cynhyrchu dosbarthedig ar gyfer biotocsinau morol, ffytoplancton a halogiad cemegol.

Gall awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am yr ardal lle mae'r gwely pysgod cregyn wedi'i leoli samplu ar gyfer rheolaethau swyddogol. O dan drefniadau penodol gyda dilysiad priodol, gall contractwyr preifat neu sefydliadau trawsffiniol wneud hynny hefyd.

Mae labordai cymeradwy yn cynnal profion a dadansoddiadau penodol o'r samplau.  Pan fydd canlyniadau samplu yn dangos bod lefelau halogion yn uwch na'r lefelau uchaf a ganiateir, bydd eich awdurdod lleol yn gweithredu.

Dosbarthu, monitro a samplu

Rhaid dosbarthu ardaloedd cynhyrchu ac ail-osod pysgod cregyn yn ôl lefelau halogiad microbiolegol (E. coli) a ganfyddir mewn samplau cnawd o'r ardal.

Dosbarthu

Monitro biotocsinau a ffytoplancton

Monitro halogiad cemegol

Samplu atodol 

 

Ardal gynhyrchu

Unrhyw fôr, aber neu lagŵn, sy'n cynnwys naill ai gwelyau molysgiaid dwygragennog naturiol neu safleoedd a ddefnyddir ar gyfer eu tyfu, ac o ble y cymerir y molysgiaid dwygragennog.

Ardal ail-osod

Unrhyw fôr, aber neu lagŵn gyda ffiniau wedi'u marcio'n glir a'u nodi gan fwiau, pyst neu unrhyw ddull sefydlog arall. Defnyddir ardal ail-osod yn gyfan gwbl ar gyfer puro molysgiaid dwygragennog byw yn naturiol i gael gwared ar halogiad microbiolegol.

Yr Alban

Gwybodaeth am Safonau Bwyd Pysgod Cregyn yr Alban.