Mewnforio cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid
Mae’r dudalen hon yn egluro'r gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid i fusnesau bwyd sy'n mewnforio cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr gydymffurfio â nhw.
Mae’r ddeddfwriaeth ganlynol yn rhestru’r cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid sydd â lefelau rheoli uwch wrth eu mewnforio i Brydain Fawr, ac mae’n gosod y camau a’r prosesau ychwanegol y mae’n rhaid i fewnforwyr eu cymryd mewn safleoedd rheoli ar y ffin (BCP) wrth fewnforio’r cynhyrchion hyn.
Pan fo rheolaethau ar y ffin yn bodoli, fel arfer mae gofyn i’r Awdurdod Iechyd Porthladdoedd gynnal gwiriadau o ddogfennau a gwaith samplu at bwrpas dadansoddi neu archwilio ffisegol.
Bwyd â chyfyngiadau cyfredol
Mae'r rheolaethau hyn yn bodoli i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac mae’n bosibl y byddant naill ai’n atal mewnforion neu’n nodi amodau mewnforio. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond trwy safleoedd rheoli ar y ffin y gellir mewnforio llwythi. Mae'n rhaid gwirio dogfennau a gall fod angen samplu a dadansoddi neu archwilio cyn eu rhyddhau.
Sylwch fod unrhyw ddolenni i ddeddfwriaeth a ddarperir yn y ddogfen hon er gwybodaeth yn unig, ac efallai nad y fersiwn ddiweddaraf ydynt.
Dylid nodi y gall cyfyngiadau mewnforio gael eu diweddaru oherwydd newidiadau mewn polisi neu ddeddfwriaeth. Y gweithredwr busnes bwyd sy'n gyfrifol am sicrhau bod ganddo'r wybodaeth ddiweddaraf.
Mewnforio trwy borthladd addas
Gall y rhan fwyaf o fwyd nad yw’n dod o anifeiliaid gael ei fewnforio drwy unrhyw borthladd sy'n derbyn bwyd neu fwyd anifeiliaid. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi wirio bod gan y porthladd y cyfleusterau angenrheidiol er mwyn rheoli'r cynnyrch sy’n cael ei fewnforio. Dylai mewnforwyr gysylltu â'r porthladd neu gysylltu â'r awdurdod lle mae’r porthladd wedi’i leoli.
Mae'r rhain yn gynhyrchion sy'n debygol o fod wedi’u halogi ag afflatocsinau (fel cnau), plaladdwyr, Salmonela neu radiocaesiwm, er enghaifft.
Dylai mewnforwyr fod yn ymwybodol bod rhai cynhyrchion o wledydd penodol yn destun rheolaethau brys a dim ond trwy fannau rheoli ar y ffin dynodedig y gallant ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig (DU).
Dyma restr o bwyntiau dynodedig y DU ar gyfer mewnforio bwydydd risg uchel.
Deddfwriaeth ar gyfer mewnforio cynnyrch nad yw’n dod o anifeiliaid
Mae’n rhaid i fwyd sydd wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl fodloni gofynion diogelwch bwyd cyffredinol cyfraith yr UE.
O dan Reoliad 178/2002 a gymathwyd, mae’n rhaid i fwyd beidio â bod yn anniogel. Mae hyn yn golygu:
- gallu niweidio iechyd
- anaddas i’w fwyta gan bobl
Ac eithrio darpariaethau cyffredinol Rheoliad 178/2002 a gymathwyd, bydd y ddeddfwriaeth benodol sy’n berthnasol i fwyd wedi’i fewnforio yn dibynnu ar b’un a yw’r bwyd yn dod o anifeiliaid ai peidio.
Mae rheolaethau brys yn bodoli ar gyfer cynhyrchion bwyd penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid o wledydd penodol er mwyn lleihau risgiau hysbys i iechyd pobl neu anifeiliaid. Mae Rheoliad 2019/1793 a gymathwyd yn gosod rheolaethau swyddogol ar fewnforion penodol o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid.
Mewnforio samplau masnach nad ydynt yn dod o anifeiliaid
Gellir mewnforio samplau masnach o fwyd at ddibenion profi ar y farchnad, ymchwil a datblygu, neu sicrhau ansawdd. Gall samplau o fwyd nad ydynt yn cynnwys unrhyw gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ddod i mewn i Brydain Fawr yn rhydd, oni bai eu bod yn destun cyfyngiadau. Os yw’r cynnyrch at ddibenion ymchwil (fel profion labordy), yn eitem arddangos neu ar gyfer cymeradwyaeth fasnachol, ac na chaiff ei fwyta, efallai y bydd yn cael ei eithrio rhag y rheolaethau. Fodd bynnag, mae’r eithriad hwn yn berthnasol i samplau sy’n pwyso hyd at 30kg yn unig.
Os yw’r samplau ar gyfer profi’r blas, mae’n rhaid iddynt fod yn fwytadwy ac yn rhydd rhag halogiad. Hyd yn oed os rhoddir y samplau i bobl yn rhad ac am ddim, mae’n debygol y byddant yn destun cyfraith bwyd gan fod ‘diffiniad estynedig o werthu’ yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 sy’n cynnwys bwyd sy'n cael ei roi i bobl am ddim. I gael rhagor o gyngor, cysylltwch â thîm diogelwch bwyd neu adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol.
Mae’n rhaid i fewnforwyr sicrhau bod eu nwyddau yn ddiogel ac yn gyfreithiol cyn eu mewnforio i Brydain Fawr.
Mae Dadansoddwyr Cyhoeddus, sy’n wyddonwyr medrus, ar gael i brofi bod samplau bwyd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd drwy gynnal dadansoddiad cemegol a/neu drwy drefnu archwiliad microbiolegol, er nad oes gofyniad cyfreithiol i fewnforwyr wneud hynny.
Rydym wedi cyhoeddi rhestr o Labordai Rheolaethau Bwyd Swyddogol yn y DU.
Yn ogystal, mae labordai eraill yn y DU a thramor a fyddai’n cynnal y gwaith y gallai fod angen ar fewnforwyr. Yna, gallai’r mewnforiwr drefnu i'r adroddiad dadansoddi ffurfio sail eu rheolaethau ansawdd ar gyfer eu cyflenwr.
Hanes diwygio
Published: 10 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Ebrill 2025