Glyserol
Yr hyn y mae angen i ddefnyddwyr ei wybod am glyserol
Diodydd iâ slwsh sy’n cynnwys glyserol
Gall diodydd iâ slwsh neu ‘slushies’ gynnwys y cynhwysyn glyserol (E 422) yn lle siwgr. Defnyddir yr ychwanegyn hwn ar y lefelau sy’n ofynnol i greu’r effaith slwsh.
Ni ddylai plant dan saith oed yfed y diodydd hyn, oherwydd gallant achosi sgil-effeithiau, yn enwedig pan gaiff lefelau uchel eu hyfed, gan gynnwys:
- cur pen a salwch
- hypoglycaemia (siwgr gwaed isel)
- sioc
- colli ymwybyddiaeth
Dim ond un ddiod iâ slwsh 350ml sy’n cynnwys glyserol y dylai plant dan 10 oed ei gael y dydd. Mae hynny tua’r un maint â chan o ddiod pop, neu goffi safonol.
Dylai rhieni a gwarcheidwaid ofyn i’r gwerthwr a yw’r ddiod yn cynnwys glyserol – os nad ydych chi’n siŵr, peidiwch â’i brynu.
Mae’r cyngor hwn hefyd yn berthnasol i ddiodydd iâ slwsh parod i’w hyfed â glyserol mewn codenni a chitiau cartref sy’n cynnwys glyserol yn y crynodiadau slwsh.
Dylai presenoldeb glyserol gael ei nodi ar y label neu gallwch gysylltu â’r gweithgynhyrchwr i gael mwy o wybodaeth.
Beth yw glyserol?
Mae glyserol (E422) yn gynhwysyn a ddefnyddir yn aml mewn diodydd iâ slwsh. Mae’n cynnal y priodweddau’r ‘slwsh’ i atal y ddiod rhag rhewi’n solet.
Er bod y lefelau gwenwyndra sy’n gysylltiedig â glyserol yn isel ar y cyfan, mae pryderon ynghylch yr effaith ar blant ifanc pan gaiff symiau mawr eu hyfed dros gyfnod byr.
Beth i’w wneud os yw plentyn yn mynd yn sâl ar ôl yfed diod iâ slwsh
Os bydd plentyn yn mynd yn sâl ac yn dioddef cur pen, yn teimlo’n gyfoglyd neu’n chwydu yn fuan ar ôl yfed diodydd iâ slwsh, dylech roi diodydd neu fwyd sy’n cynnwys siwgr iddo ar unwaith a ffonio 111 i gael cyngor meddygol. Os bydd plentyn yn mynd yn gysglyd neu’n ddryslyd, dylech ffonio 999 er mwyn cael sylw meddygol brys.
Gweithio gyda’r diwydiant
Mae’r ASB wedi cyhoeddi canllawiau i weithgynhyrchwyr ar y diodydd hyn i’w hannog i fformiwleiddio eu cynhyrchion gan ddefnyddio’r swm lleiaf o glyserol sydd ei angen i gael yr effaith ddiod ‘slwsh’.
Mae gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr sy’n gwerthu diodydd iâ slwsh hefyd yn cael eu cynghori y dylid rhoi rhybudd ysgrifenedig sy’n weladwy gan nodi – “Product contains glycerol. Should not be consumed by children under seven years of age and children under 10 should have a maximum of one 350ml drink per day.”
Sut rydym yn sicrhau bod ychwanegion bwyd yn ddiogel?
Mae'n rhaid asesu ychwanegion o ran diogelwch cyn y gellir eu defnyddio mewn bwyd. Rydym ni hefyd yn sicrhau:
- bod yr wyddoniaeth ar ychwanegion yn cael ei hadolygu'n llym
- y caiff y gyfraith ei gorfodi'n llym
- y caiff camau eu cymryd lle canfyddir unrhyw broblemau
Rydym yn ymchwilio i unrhyw wybodaeth sy'n codi amheuon rhesymol am ddiogelwch ychwanegyn.