Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
research page

Bwyd a Chi 2, Cylch 9: Pennod 6 – Bwyta gartref

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth ac ymddygiadau’r ymatebwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mai 2025

Cyflwyniad

Mae’r ASB yn gyfrifol am ddiogelu’r cyhoedd rhag clefydau a gludir gan fwyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr, cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd, a’r sectorau manwerthu a lletygarwch, i sicrhau bod y bwyd y mae pobl yn ei brynu yn ddiogel. Mae’r ASB yn rhoi canllawiau ymarferol ac argymhellion i ddefnyddwyr ar ddiogelwch a hylendid bwyd yn y cartref.

Mae arolwg Bwyd a Chi 2 yn gofyn i’r ymatebwyr am eu hymddygiadau mewn perthynas â bwyd yn y cartref, gan gynnwys a ydynt yn bwyta bwydydd penodol, ac am eu gwybodaeth a’u hymddygiadau mewn perthynas â phum agwedd bwysig ar ddiogelwch bwyd, sef: glanhau, coginio, oeri, atal croeshalogi a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’. Mae Bwyd a Chi 2 hefyd yn gofyn i ymatebwyr pa mor aml y maent yn paratoi neu’n bwyta rhai mathau o fwyd.

Mae yna ddwy fersiwn o’r modiwl ‘Bwyta gartref’; y modiwl craidd sy’n cynnwys nifer cyfyngedig o’r prif gwestiynau sy’n cael eu trafod yn flynyddol, a’r modiwl ‘archwiliad dwfn’ sy’n cynnwys cwestiynau ychwanegol ac sy’n cael ei anfon bob 2 flynedd. Mae’r bennod hon yn rhoi golwg manwl ar y modiwl craidd 'Bwyta gartref’.(footnote)

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth ac ymddygiadau’r ymatebwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd.

Glanhau

Golchi dwylo yn y cartref

Mae’r ASB yn argymell y dylai pawb olchi eu dwylo cyn paratoi, coginio neu fwyta bwyd, ar ôl trin bwyd amrwd, a chyn paratoi bwyd parod i’w fwyta.

Er bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (70%) yn dweud eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu fwyta bwyd, nododd 29% o’r ymatebwyr eu bod y gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dywedodd 1% nad ydyn nhw byth yn gwneud hyn.(footnote)

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (92%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl trin cig, dofednod neu bysgod amrwd, a dywedodd 8% eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml.(footnote)

Dywedodd ychydig llai na hanner yrr ymatebwyr (47%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn bwyta; dywedodd 50% o’r ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dywedodd 2% nad ydyn nhw byth yn golchi eu dwylo cyn bwyta.(footnote)

 

Golchi dwylo wrth fwyta allan

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, roeddent yn golchi eu dwylo neu’n defnyddio hylif diheintio dwylo (sanitising gel) neu weips cyn bwyta y tu allan i’w cartref. Dywedodd tua thraean o’r ymatebwyr (31%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo, yn defnyddio hylif diheintio dwylo neu weips pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref. Roedd 59% yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, ac nid oedd 9% byth yn gwneud hyn.(footnote)

Oeri

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar oeri bwyd yn gywir i helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu.

Ydy’r ymatebwyr yn gwirio tymheredd yr oergell ac, os ydynt, sut?

Pan ofynnwyd iddynt beth yw’r tymheredd cywir y tu mewn i oergell, dywedodd 59% o’r ymatebwyr sydd ag oergell y dylai fod rhwng 0 a 5 gradd Celsius, fel yr argymhellir gan yr ASB. Dywedodd un rhan o bump o’r ymatebwyr  (20%) y dylai’r tymheredd fod yn uwch na 5 gradd; dywedodd 3% y dylai’r tymheredd fod yn is na 0 gradd, ac nid oedd 17% o’r ymatebwyr yn gwybod beth oedd y tymheredd cywir ar gyfer y tu mewn i’w hoergell.(footnote)

Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr (57%) sydd ag oergell eu bod yn monitro’r tymheredd neu’n dibynnu ar larwm i’w rhybuddio am dymheredd sy’n rhy gynnes neu’n rhy oer.(footnote) O blith yr ymatebwyr sy’n monitro tymheredd eu hoergell, dywedodd tua hanner (48%) eu bod yn gwirio tymheredd eu hoergell o leiaf unwaith yr wythnos neu’n amlach, yn unol â’r argymhelliad, a dywedodd 2% nad ydyn nhw byth yn gwirio neu’n gwirio yn llai aml nag unwaith y flwyddyn.(footnote) Ymhlith y rhai sy’n gwirio, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn gwirio tymheredd eu hoergell gan ddefnyddio thermomedr, y gosodiadau/mesurydd neu’r tymheredd ar yr oergell (86%). Fodd bynnag, roedd 12% yn chwilio am rew/anwedd neu’n teimlo’r bwyd yn yr oergell i wirio a yw’n oer.(footnote)

Dadmer

Mae’r ASB yn argymell bod bwyd yn cael ei ddadmer yn yr oergell, neu, os nad yw hyn yn bosib, mewn microdon gan ddefnyddio’r gosodiad dadmer. Mae’r ASB yn cynghori defnyddwyr i beidio â dadmer bwyd ar dymheredd ystafell.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa ddulliau maen nhw’n eu defnyddio fel arfer i ddadmer cig neu bysgod. Dywedodd tua phedwar o bob deg (43%) o’r ymatebwyr eu bod yn dadmer cig neu bysgod yn yr oergell, a dywedodd 6% eu bod yn defnyddio microdon. Dywedodd tua phedwar o bob deg (42%) o’r ymatebwyr eu bod yn gadael y cig neu’r pysgod ar dymheredd yr ystafell, a dywedodd 4% eu bod yn gadael y cig neu’r pysgod mewn dŵr.(footnote)

Coginio

Mae’r ASB yn argymell y bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. Wrth goginio porc, dofednod, a chynhyrchion briwgig, mae’r ASB yn argymell y dylai’r cig fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd, ac nad yw unrhyw ran o’r cig yn binc, a bod unrhyw suddion yn glir.

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (80%) eu bod bob amser yn coginio bwyd nes ei fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd. Fodd bynnag, dywedodd 20% nad ydyn nhw bob amser yn gwneud hyn.(footnote)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor aml y maent yn bwyta gwahanol fathau o gig pan fydd y cig yn binc neu â suddion pinc. Dywedodd tua naw o bob deg o’r ymatebwyr nad ydyn nhw byth yn bwyta selsig (94%), cyw iâr neu dwrci (92%), neu ddarnau cyfan o borc neu olwythion (chops) porc (91%) pan fydd yn binc neu â suddion pinc. Dywedodd tua dwy ran o dair o’r ymatebwyr nad ydyn nhw byth yn bwyta hwyaden (68%) neu fyrgyrs cig eidion (66%) pan fyddan nhw’n binc neu â suddion pinc; ond dywedodd tua thraean eu bod yn bwyta’r rhain yn achlysurol o leiaf (29% o’r rheiny sy’n bwyta hwyaden, a 33% o’r rheiny sy’n bwyta cig eidion neu fyrgyrs cig eidion). Dywedodd tua dwy ran o dair o’r ymatebwyr (65%) eu bod yn bwyta cig coch pan fydd yn binc neu â suddion pinc yn achlysurol o leiaf (Ffigur 18).(footnote)

Ffigur 18. Pa mor aml mae’r ymatebwyr yn bwyta gwahanol fathau o gig pan fydd yn binc neu â sudd pinc

Ffigur 18. Pa mor aml mae’r ymatebwyr yn bwyta gwahanol fathau o gig pan fydd yn binc neu â sudd pinc
Column1 O leiaf yn achlysurol Byth
Cig coch 65 34
Hwyaden 29 68
Byrgyrs cig eidion 33 66
Toriadau cyfan o borc neu golwythion porc 7 91
Cyw iâr neu dwrci 6 92
Selsig 5 94

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, y maent yn bwyta wystrys amrwd neu laeth amrwd (heb ei basteureiddio). Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr nad ydynt byth yn bwyta wystrys amrwd (85%) na llaeth heb ei basteureiddio/amrwd (89%).(footnote)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml y maen nhw’n dilyn cyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu wrth baratoi ffrwythau a llysiau wedi’u rhewi. Dywedodd tua thraean (35%) eu bod bob amser yn dilyn cyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu; dywedodd 24% eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser, a dywedodd 15% nad ydyn nhw byth yn gwneud hyn.(footnote)

Ailgynhesu

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi sut maent yn gwirio bod bwyd yn barod i’w fwyta pan fyddant yn ei ailgynhesu. Y dull mwyaf cyffredin oedd gwirio bod y canol yn boeth (54%), a’r dulliau lleiaf cyffredin oedd rhoi llaw dros y bwyd neu gyffwrdd ag ef (17%), neu ddefnyddio thermomedr neu brôb (12%) (Ffigur 19).(footnote)

Ffigur 19. Sut mae’r ymatebwyr yn gwirio a yw bwyd sydd wedi’i ailgynhesu yn barod i’w fwyta.

Ffigur 19. Sut mae’r ymatebwyr yn gwirio a yw bwyd sydd wedi’i ailgynhesu yn barod i’w fwyta.
Dull a ddefnyddir Canran yr ymatebwyr (%)
Defnyddio thermomedr/prôb 12
Rhoi fy llaw drosto/yn ei gyffwrdd 17
Blasu’r bwyd 23
Gwirio bod y tymheredd yn gyson drwyddo 26
Troi’r bwyd 35
Defnyddio amserydd 36
Gweld ei fod yn byrlymu 36
Gweld stêm yn dod ohono 38
Dilyn y cyfarwyddiadau ar y label 44
Gwirio bod y canol yn boeth 54

Lawrlwytho’r siart hon

 

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Mae’r ASB yn argymell ailgynhesu bwyd unwaith yn unig. Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr sawl gwaith y byddent yn ailgynhesu bwyd, dywedodd y mwyafrif y byddent yn ailgynhesu bwyd unwaith yn unig (83%). Byddai 10% yn ailgynhesu bwyd ddwywaith, a byddai 3% yn ailgynhesu bwyd fwy na dwywaith.(footnote)

Bwyd dros ben

Mae’r ASB yn cynghori oeri a storio bwyd dros ben yn yr oergell o fewn 2 awr ar ôl ei goginio. Dylech fwyta bwyd dros ben o fewn 48 awr, neu ei rewi.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth maen nhw’n ei wneud gyda bwyd dros ben ar ôl pryd. Dywedodd y mwyafrif o’r rheiny a ddywedodd fod ganddyn nhw fwyd dros ben (71%) y bydden nhw’n ei roi yn yr oergell, a dywedodd 9% y bydden nhw’n ei storio yn y rhewgell. Dywedodd lleiafrif eu bod yn gadael bwyd dros ben ar dymheredd yr ystafell i fwyta ar yr un diwrnod (2%), neu’r diwrnod wedyn (3%) (Ffigur 20).(footnote)

Ffigur 20. Beth mae’r ymatebwyr yn ei wneud gyda bwyd dros ben ar ôl pryd bwyd.

Ffigur 20. Beth mae’r ymatebwyr yn ei wneud gyda bwyd dros ben ar ôl pryd bwyd.
 Column1
Rwy'n ei adael ar dymheredd yr ystafell a’i fwyta yn hwyrach yr un diwrnod 2
Rwy'n ei adael ar dymheredd yr ystafell a’i fwyta drannoeth 3
Rwy’n ei roi yn y rhewgell 9
Rwy’n ei daflu neu’i roi yn y bin gwastraff bwyd 15
Rwy’n ei roi yn yr oergell 71

Lawrlwytho’r siart hon

 

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2, Cylch 9

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn rhoi bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell nodi pa mor fuan ar ôl ei goginio y byddent fel arfer yn rhoi bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod fel arfer yn rhoi bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell o fewn un awr (34%) neu un i ddwy awr ar ôl ei goginio (45%). Roedd tua un rhan o bump o’r ymatebwyr (18%) yn rhoi bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell ar ôl mwy na dwy awr, a byddai 5% yn rhoi bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell ar unwaith. (footnote 1)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pryd yw’r hwyraf y byddent yn bwyta bwyd dros ben sydd wedi’i storio yn yr oergell. Dywedodd dwy ran o dair o’r ymatebwyr (66%) y bydden nhw’n bwyta bwyd dros ben o fewn deuddydd; dywedodd 25% o’r ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn tridiau i 5 diwrnod, a dywedodd 3-5% y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl 5 diwrnod neu fwy. (footnote 2)

Atal croeshalogi

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar atal croeshalogi. Mae’r ASB yn argymell na ddylai pobl olchi cig, dofednod na physgod amrwd. Gall golchi cig, dofednod a physgod amrwd dasgu bacteria niweidiol ar ddwylo, arwynebau gwaith, bwyd parod i’w fwyta ac offer coginio.

Dywedodd tua phedwar o bob deg o’r ymatebwyr eu bod yn golchi pysgod neu fwyd môr amrwd (40%) neu gyw iâr amrwd (38%) yn achlysurol o leiaf. Dywedodd tua thri o bob deg (28%) eu bod yn golchi cig oen, cig eidion neu borc amrwd o leiaf yn achlysurol, a dywedodd chwarter yr ymatebwyr (25%) eu bod yn golchi hwyaden, gŵydd neu dwrci amrwd o leiaf yn achlysurol (Ffigur 21). (footnote 3)

 

Ffigur 21. Pa mor aml y mae’r ymatebwyr yn golchi gwahanol fathau o gig neu bysgod amrwd.

Ffigur 21. Pa mor aml y mae’r ymatebwyr yn golchi gwahanol fathau o gig neu bysgod amrwd.
Column1 O leiaf yn achlysurol Byth
Pysgod neu fwyd môr 40 52
Cyw iâr 38 59
Hwyaden, gŵydd neu dwrci 25 63
Cig oen, cig eidion neu borc 28 66

Lawrlwytho’r siart hon

 

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9 

Defnyddio byrddau torri

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sut maen nhw’n defnyddio byrddau torri pan fyddan nhw’n paratoi cig amrwd a bwydydd eraill. Dywedodd tua hanner yr ymatebwyr (54%) eu bod yn defnyddio gwahanol fyrddau torri ar gyfer cig amrwd a bwydydd eraill, a dywedodd 35% o’r ymatebwyr eu bod yn golchi’r bwrdd torri rhwng paratoi cig amrwd a bwydydd eraill. Dywedodd llai o’r ymatebwyr eu bod yn defnyddio’r un bwrdd torri (heb ei olchi) (8%) neu eu bod yn troi’r bwrdd torri drosodd rhwng paratoi cig amrwd a bwydydd eraill (3%). (footnote 4)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sy’n defnyddio’r un bwrdd torri i baratoi cig amrwd a bwydydd eraill ym mha drefn y maent yn paratoi’r bwydydd. Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr (55%) eu bod yn paratoi bwydydd eraill cyn cig amrwd. Dywedodd tua chwarter yr ymatebwyr (23%) eu bod yn paratoi cig amrwd cyn bwydydd eraill, a dywedodd 21% o’r ymatebwyr nad ydyn nhw’n meddwl am y drefn y maen nhw’n paratoi bwydydd. (footnote 5)

Sut a ble mae’r ymatebwyr yn storio cig a dofednod amrwd yn yr oergell

Mae’r ASB yn argymell y dylid gorchuddio cig a dofednod amrwd yn yr oergell, eu cadw ar wahân i fwydydd parod i’w bwyta, a’u storio ar waelod yr oergell i atal croeshalogi.  

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi, o blith ymatebion amrywiol, sut maent yn storio cig a dofednod amrwd yn yr oergell. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yn eu deunydd pecynnu gwreiddiol (63%) neu ar wahân i fwydydd wedi’u coginio (43%). Dywedodd tua thraean o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd mewn cynhwysydd wedi’i selio (33%) a’u bod yn gorchuddio cig a dofednod amrwd â ffilm/ffoil (29%), gydag 13% o’r ymatebwyr yn cadw’r cynnyrch ar blât. (footnote 6)

Dywedodd y rhan fwyaf (60%) o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd ar waelod yr oergell, fel y mae’r ASB yn ei argymell. Fodd bynnag, dywedodd 24% o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd ble bynnag y mae lle yn yr oergell, dywedodd 11% eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yng nghanol yr oergell, a dywedodd 6% eu bod yn eu storio yn rhan uchaf yr oergell. (footnote 7)

Defnyddio bagiau siopa ar wahân

Dywedodd tua un rhan o bump o’r ymatebwyr (22%) eu bod bob amser yn defnyddio bag siopa ar wahân ar gyfer cig, pysgod neu bysgod cregyn amrwd (i ffwrdd o eitemau bwyd eraill) fel yr argymhellir gan yr ASB. Fodd bynnag, dywedodd cyfran uwch (27%) nad ydyn nhw byth yn gwneud hyn. (footnote 8)

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am yr hyn maent yn ei ddeall am wahanol fathau o labeli dyddiadau a chyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu bwyd, oherwydd os caiff bwyd ei storio yn rhy hir neu ar y tymheredd anghywir, gall achosi gwenwyn bwyd. Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch bwyd. Mae dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd bwyd. 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa ddyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Nododd oddeutu dwy ran o dair o’r ymatebwyr (67%) yn gywir mai’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yw’r wybodaeth sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Fodd bynnag, dywedodd 9% o’r ymatebwyr mai’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yw’r dyddiad sy'n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i'w fwyta mwyach. (footnote 9)

Dywedodd tua chwech o bob deg o’r ymatebwyr (62%) eu bod bob amser yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn coginio neu baratoi bwyd. Nododd 34% o’r ymatebwyr eu bod yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dywedodd 2% o’r ymatebwyr nad oeddent byth yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’. (footnote 10)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sy’n bwyta bwydydd penodol pryd, os o gwbl, yw’r dyddiad hwyraf y byddent yn bwyta’r math o fwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Dywedodd y rhan fwyaf na fyddent yn bwyta pysgod cregyn (74%), na physgod eraill (64%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni fyddai tua hanner yr ymatebwyr yn bwyta cig amrwd (53%) na physgod mwg (51%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Salad mewn bagiau (72%) a chaws (70%) oedd y bwydydd yr oedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud y byddent yn eu bwyta ar unrhyw adeg ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Byddai tua chwech o bob deg o’r ymatebwyr yn bwyta iogwrt (63%), llaeth (60%) a chigoedd wedi’u coginio (58%) ar unrhyw adeg ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (Ffigur 22). (footnote 11)

Ffigur 22. Pa mor hir ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ y byddai ymatebwyr yn bwyta gwahanol fwydydd.

Ffigur 22. Pa mor hir ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ y byddai ymatebwyr yn bwyta gwahanol fwydydd.
Math o fwyd Unrhyw adeg ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ 7+ diwrnod 3-6 diwrnod 1-2 diwrnod Dydw i ddim yn bwyta/yfed hyn ar ôl ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’
Pysgod cregyn 23 0 2 21 74
Unrhyw bysgod eraill 33 0 4 29 64
Cig amrwd fel cig eidion, porc, cig oen, dofednod amrwd 45 1 7 38 53
Pysgod mwg 46 2 13 31 51
Llaeth 60 2 17 40 37
Cigoedd wedi’u coginio 58 1 15 42 40
Iogwrt 63 6 22 35 35
Salad mewn bagiau 72 2 24 46 25
Caws 70 18 27 25 23

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9  

Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth y maent fel arfer yn ei wneud â bwyd y maent wedi’i brynu sydd ar fin mynd heibio’r dyddiad ar ei orau cyn/defnyddio erbyn.  Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr y byddent fel arfer naill ai’n bwyta’r bwyd (35%) neu’n ei rewi erbyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (29%). Byddai llai o’r ymatebwyr yn taflu’r bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (12%) neu’n ei gadw a’i fwyta ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (7%), ond dywedodd 15% o’r ymatebwyr ei fod yn amrywio gormod i ddweud. (footnote 12)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi sut maen nhw’n gwybod a yw gwahanol fwydydd yn ddiogel i’w bwyta neu’u coginio. Roedd y dull a ddefnyddir gan yr ymatebwyr i asesu a yw bwyd yn ddiogel i'w fwyta neu’i goginio yn amrywio yn ôl y math o fwyd. Arogl oedd y dull a ddefnyddir amlaf i asesu cig amrwd (76%) a llaeth ac iogwrt (73%). Gan amlaf, roedd yr ymatebwyr yn dibynnu ar y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ i asesu a oedd pysgod (75%) a chigoedd wedi’u sychu neu wedi’u halltu (66%) yn ddiogel i’w bwyta neu eu coginio. Defnyddiwyd sut mae’r bwyd yn arogli (65% ar gyfer pysgod a 50% ar gyfer cigoedd wedi’u sychu a’u halltu) a sut mae’n edrych (47% ar gyfer pysgod a 47% ar gyfer cigoedd wedi’u sychu a’u halltu) hefyd yn aml i asesu’r eitemau hyn. Fel arfer, roedd yr ymatebwyr yn asesu’r wyau gan ddefnyddio’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ (59%) a chaws oedd yn cael ei asesu amlaf yn ôl sut mae’n edrych (66%) (Ffigur 23). (footnote 13)

Ffigur 23. Sut mae’r ymatebwyr yn gwybod a yw gwahanol fwydydd yn ddiogel i’w bwyta neu eu coginio.

Ffigur 23. Sut mae’r ymatebwyr yn gwybod a yw gwahanol fwydydd yn ddiogel i’w bwyta neu eu coginio.
Column1 Sut mae’n edrych Sut mae’n arogli Sut mae’n blasu Dyddiad ‘defnyddio erbyn’ Dyddiad ‘ar ei orau cyn’ Dilyn cyfarwyddiadau ar becynnau Os nad yw’n arnofio mewn dŵr
Wyau 27 36 10 59 34
Caws 66 57 27 47 22 22
Cigoedd wedi’u sychu neu wedi’u halltu fel chorizo 47 50 18 66 33
Llaeth ac iogwrt 48 73 30 57 25 26
Pysgod ac eithrio pysgod cregyn 47 65 12 75
Cig amrwd fel cig eidion, cig oen, porc neu ddofednod 61 76 12 71

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Gwybodaeth ‘bwyta o fewn’ (eat within)

Ar labeli rhai bwydydd, ceir cyfarwyddiadau sy’n cynghori y dylid bwyta’r bwyd cyn pen ychydig ddyddiau ar ôl ei agor. Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor aml maen nhw’n dilyn yr argymhelliad hwn. Dywedodd tua chwarter yr ymatebwyr (26%) eu bod bob amser yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Fodd bynnag, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (68%) nad ydynt bob amser (hynny yw, y rhan fwyaf o’r amser, tua hanner yr amser neu’n achlysurol) yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn a dywedodd 6% nad ydynt byth yn gwneud hyn. (footnote 14)