Pennod 2: Dealltwriaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ddealltwriaeth a defnydd yr ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Dealltwriaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Ffigur 8. Gwybodaeth yr ymatebwyr am y busnesau bwyd y mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn berthnasol iddyn nhw.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr i ba fathau o fusnesau bwyd yr oedd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn berthnasol yn eu tyb nhw, gan ddewis o blith rhestr o fusnesau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn meddwl bod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn berthnasol i fwytai (92%), caffis (90%), siopau tecawê (87%), siopau coffi neu frechdanau (85%), tafarndai (84%), a gwestai neu lety gwely a brecwast (77%). Roedd ychydig dros hanner yr ymatebwyr (54%) yn meddwl ei fod yn berthnasol i ysgolion a sefydliadau eraill. Roedd llai na hanner yr ymatebwyr yn meddwl bod y Cynllun yn berthnasol i archfarchnadoedd (46%) a stondinau marchnad neu fwyd stryd (44%) (Ffigur 8)(footnote).
Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle bwyd neu ar-lein) p’un a fu iddyn nhw benderfynu prynu bwyd yno ai peidio. Roedd tua 4 o bob 10 (41%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 10 mis diwethaf(footnote).
Roedd ymatebwyr yng Nghymru (54%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag ymatebwyr yn Lloegr (40%), ac i raddau llai y rheini yng Ngogledd Iwerddon (46%).
Roedd yr arfer o wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:
- Grŵp oedran: roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 59% o’r rheiny rhwng 16-24 oed wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o’u cymharu â 18% o’r rheiny 75 oed a throsodd.
- Plant (o dan 16 oed) yn y cartref: roedd ymatebwyr â phlant (o dan 16 oed) yn y cartref (49%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes na’r rheiny heb blant o dan 16 oed yn y cartref (37%).
- NS-SEC: roedd myfyrwyr amser llawn (57%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes na’r ymatebwyr ym mhob grŵp galwedigaethol arall, er enghraifft, galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (42%) a’r rheiny a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (37%).
- Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel (52%) neu isel iawn (52%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes na’r rhai â diogeledd bwyd uchel (38%). Roedd tua 4 o bob 10 (43%) o’r rheiny â diogeledd bwyd ymylol wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes.
Ffigur 9. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd pa fathau o fusnesau yr oedden nhw wedi gwirio eu sgoriau hylendid yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê (70%) a bwytai (69%). Roedd llai na hanner yr ymatebwyr (46%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd caffis, 33% wedi gwirio sgôr siopau coffi neu frechdanau, a 32% wedi gwirio sgôr tafarndai (Ffigur 9)(footnote).
Ffigur 10. Sut yr oedd yr ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnesau bwyd.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd sut yr oedden nhw wedi gwirio’r sgôr. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (83%) wedi edrych ar y sticer sgôr hylendid bwyd a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd. Roedd bron i chwarter (23%) wedi gwirio’r sgôr ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats), roedd 22% wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes ar wefan y busnes bwyd ei hun, ac roedd 15% o’r ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Ffigur 10)(footnote).
Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yng Nghymru (83%) a Gogledd Iwerddon (89%) yn fwyaf tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy edrych ar sticer a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes**. Fodd bynnag, roedd ymatebwyr yn Lloegr (24%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein na’r rheiny yng Nghymru (13%) a Gogledd Iwerddon (11%).
Roedd y dull o wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:
- Grŵp oedran: roedd oedolion o dan 34 oed (er enghraifft, 42% o’r rheiny rhwng 25-34 oed) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) nag oedolion 35 oed a throsodd (er enghraifft, 6% o’r rheiny 75 oed a throsodd).
- Trefol yn erbyn gwledig: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardal drefol (26%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd drwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) na’r rheiny oedd yn byw mewn ardal wledig (9%).
- Diogeledd bwyd(footnote): roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (33%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy wefan y busnes bwyd ei hun na’r rheiiny â diogeledd bwyd uchel (20%).
Mewn rhai achosion, gall y ffordd yr oedd gwahanol grwpiau o bobl yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ddangos y tebygolrwydd y byddai’r grŵp yn defnyddio gwasanaeth penodol wrth fwyta allan neu archebu tecawê, fel gwefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Bwyta, Deliveroo, Uber Eats). Er enghraifft, roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o wefan neu ap archebu bwyd ar-lein ac o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd drwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein o gymharu ag oedolion hŷn(footnote).
Gofynnwyd i ymatebwyr a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis diwethaf pa mor aml yr oedd yn hawdd dod o hyd i’r sgôr. Dywedodd tua 1 o bob 5 o ymatebwyr ei bod bob amser yn hawdd dod o hyd i sgôr hylendid bwyd (18%), dywedodd 62% ei bod yn hawdd dod o hyd i’r sgôr y rhan fwyaf o’r amser a dywedodd 18% ei bod yn hawdd dod o hyd iddi tua hanner yr amser neu’n llai aml(footnote).
Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth fwyta allan neu brynu bwyd tecawê
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr o opsiynau, y byddan nhw fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan neu o ble i archebu bwyd tecawê(footnote).
Y ffactorau y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddant yn archebu bwyd tecawê
Ffigur 11. Y deg ffactor mwyaf cyffredin y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddant yn archebu bwyd tecawê.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
O blith y rheiny a oedd wedi archebu bwyd o siop tecawê, profiad blaenorol yr ymatebwyr o’r siop tecawê (80%) ac ansawdd y bwyd (75%) oedd y ffactorau mwyaf cyffredin y byddai’r ymatebwyr yn eu hystyried wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (75%). Roedd tua 4 o bob 10 (38%) o’r ymatebwyr wedi ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (Ffigur 11)(footnote) .
Mae tua 4 o bob 10 o ymatebwyr yn Lloegr (38%) a Gogledd Iwerddon (40%) yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê o gymharu â 46% o’r rheini yng Nghymru**.
Roedd yr arfer o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:
- Grŵp oedran: roedd ymatebwyr 44 oed neu iau (er enghraifft, 45% o’r rheiny rhwng 25-34 oed) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê nag oedolion 75 oed a throsodd (22%).
- Incwm blynyddol cartrefi: roedd ymatebwyr ag incwm o £19,000 neu is (45%) yn fwy tebygol o ystyried sgôr hylendid bwyd busnes wrth archebu bwyd tecawê na’r rheiny ag incwm o fwy na £96,000 (28%).
- Trefol yn erbyn gwledig: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardal drefol (40%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu siopau bwyd tecawê o gymharu â’r rheiny a oedd yn byw mewn ardal wledig (30%).
- Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (54%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê o gymharu â’r rheiny â diogeledd bwyd uchel (35%).
Ffactorau a ystyrir wrth fwyta allan
Ffigur 12. Y deg ffactor mwyaf cyffredin y bydd pobl yn eu hystyried wrth fwyta allan.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
O blith y rheiny sy’n bwyta allan, ansawdd y bwyd (82%) a phrofiad blaenorol yr ymatebwyr o’r lle (80%) oedd y ffactorau mwyaf cyffredin y bydd yr ymatebwyr yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan. Roedd tua 4 o bob 10 (41%) yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta (Ffigur 12)(footnote).
Pa mor aml roedd ymatebwyr yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd wrth gyrraedd y safle
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml y byddan nhw’n gwirio sgôr hylendid bwyd bwyty neu siop tecawê wrth gyrraedd y safle. Dywedodd un o bob 10 (10%) eu bod bob amser yn gwirio sgôr hylendid bwyd busnes wrth gyrraedd, dywedodd 20% o ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser a dywedodd 31% eu bod yn gwneud hyn yn llai aml (hynny yw ‘tua hanner y amser’ neu ‘o bryd i’w gilydd’). Dywedodd ychydig dros draean (35%) o ymatebwyr na fyddan nhw byth yn edrych ar sgôr hylendid bwyd busnes wrth gyrraedd(footnote).
Hanes diwygio
Published: 28 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Tachwedd 2022