Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ein partneriaethau

Rydym ni’n ymdrechu i adeiladu partneriaethau strategol a chydweithredol yn y DU a thramor.

Mae partneriaethau gwyddonol ar draws y llywodraeth a chyda'r byd academaidd yn hanfodol er mwyn diwallu ein hanghenion gwyddoniaeth a thystiolaeth. Er enghraifft, mae ein proses dadansoddi risg, sy'n dadansoddi risgiau diogelwch bwyd, yn seiliedig ar safbwyntiau annibynnol dros 100 o arbenigwyr gwyddonol, dadansoddwyr ac ymarferwyr eraill.

Caiff ein Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ei gynnal mewn partneriaeth â 373 o awdurdodau lleol ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Maent yn cynnal arolygiadau hylendid mewn tua 490,000 o fusnesau – gan hybu dewis defnyddwyr a gwella safonau hylendid mewn bwyd. 

Mae gwaith partner cryf hefyd yn ein helpu i ddeall a chyrraedd y defnyddwyr yr ydym ni’n ceisio eu diogelu. Er enghraifft, mae ein partneriaeth â Just Eat wedi ein helpu i gynyddu tryloywder gwybodaeth am hylendid mewn busnesau bwyd, gan alluogi defnyddwyr i ystyried diogelwch bwyd wrth archebu bwyd ar-lein.

Mae cydweithio gydag elusennau fel Allergy UK a’r Ymgyrch Anaffylacsis yn ein helpu i ddeall a chefnogi pobl sy’n byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd yn well.

Ewch ati i lawrlwytho ein llyfryn gwybodaeth. Dysgwch ragor am sut rydym ni wedi gweithio i ddiogelu eich plât dros yr 20 mlynedd diwethaf, a'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.