Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig

Beth sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Chwefror 2021

Mae angen awdurdodi rhai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, cyn y gellir eu gwerthu yn y Deyrnas Unedig (DU).

Er mwyn rhoi eich cynnyrch rheoleiddiedig ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, bydd angen i chi gyflwyno'ch cais am awdurdodiad gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig. Cofiwch mai dim ond yn Gymraeg ac yn Saesneg yr ydym yn derbyn ceisiadau.

Gogledd Iwerddon

Nodir cyfraith yr UE sy'n berthnasol i Ogledd Iwerddon ar ôl y cyfnod pontio yn Atodiad II Protocol Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw fusnes sy'n ceisio awdurdodiad newydd ar gyfer cynnyrch bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig sy'n cael ei roi ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon barhau i ddilyn rheolau'r Undeb Ewropeaidd (UE).

Gwybodaeth y mae angen i chi ei chyflenwi 

Wrth wneud cais i awdurdodi cynhyrchion a gaiff eu rheoleiddio yn y DU, bydd yn rhaid i chi gyflenwi gwybodaeth weinyddol, dechnegol a diogelwch fel rhan o'ch cais. Bydd yr wybodaeth hon yn ffurfio coflen (dossier) eich cais.

Bydd yr wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu i ni yn seiliedig ar gyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law) a’r un peth ag sy’n ofynnol ar hyn o bryd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) a'r Comisiwn Ewropeaidd (CE).

Mae'r gofynion ar gyfer pob math o awdurdodiad yn wahanol ac fe'u hamlinellir yn y canllawiau sy'n benodol i bob cynnyrch. Yn gyffredinol, maent yn cynnwys tri phrif faes.

Gwybodaeth weinyddol  

Bydd angen i ni wybod:

  • pwy sy'n gwneud cais am yr awdurdodiad
  • pwy sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r broses
  • gyda phwy y dylem ni gysylltu os oes gennym ni unrhyw gwestiynau

Gall hyn gynnwys manylion ynghylch pa wybodaeth yr hoffech i ni ei thrin yn gyfrinachol.

Gwybodaeth dechnegol  

Mae angen yr wybodaeth hon arnom i ddeall mwy am y cynnyrch neu'r broses a sut y bwriedir ei defnyddio. Er enghraifft, ar gyfer ychwanegyn bwyd newydd, byddai angen:

  • hunaniaeth yr ychwanegyn bwyd newydd, pa swyddogaeth sydd ganddo mewn bwyd a manteision cysylltiedig
  • lefelau defnyddio y gofynnir amdanynt mewn gwahanol fathau o fwyd a'r symiau y mae pobl yn debygol o'u bwyta yn rhan o’u diet

Gall hyn hefyd gynnwys data ar gyfer ein tîm rheoli risg i asesu a yw'r holl feini prawf yn y ddeddfwriaeth berthnasol wedi'u bodloni, fel manteision i ddefnyddwyr. Dylech chi hefyd ddweud wrthym pa wybodaeth yn y cais yr hoffech iddi gael ei chadw'n gyfrinachol yn unol â'r meini prawf a nodir yn y ddeddfwriaeth.

Gwybodaeth am ddiogelwch  

Dylech chi ddarparu data a gwybodaeth wyddonol fel rhan o'ch coflen cais. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gynnal asesiad risg trylwyr, lle bo'n briodol, i sicrhau y gellir defnyddio'r cynnyrch neu'r broses yn ddiogel.

Efallai y bydd rhai achlysuron pan na fydd yr wybodaeth neu'r astudiaethau a bennir yn y canllawiau ar math o gynnyrch yn berthnasol i'ch cais. Dan yr amgylchiadau hyn, dylech chi ddarparu cyfiawnhad clir dros beidio â chyflwyno'r wybodaeth hon.

Lanlwytho’ch ffeiliau

Pan fyddwch chi’n cyflwyno ffurflen gais gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig, byddwch chi’n cael dolen ddiogel lle gallwch chi lanlwytho'ch dogfennau ategol. Mae gofynion penodol y mae'n rhaid i chi eu hystyried cyn cyflwyno'ch ffeiliau.

Gallwch strwythuro dossier eich cais drwy lanlwytho ffolderi sy'n cynnwys ffeiliau unigol. I lanlwytho eich ffolderi gallwch chi ddefnyddio'r swyddogaeth 'llusgo a gollwng' neu ddewis 'Lanlwytho'.

Mathau o ffeiliau a ganiateir

Dim ond y mathau canlynol o ffeiliau y gallwch chi eu lanlwytho i’n gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio: .ab1, .asc, .bam, .csv, .doc, .docx, .faa, .fast5, .fasta, .fastq, .ffn, .fna , .frn, .gff, .gff3, .hdf5, .odf, .pdf, .ppt, .pptx, .r, .sam, .tsv, .txt, .xls, .xlsx.

Ni fydd unrhyw fath arall o ffeil, gan gynnwys ffeiliau zip a delweddau, yn cael ei gadw.  

Os oes gennych chi wybodaeth nad yw ar gael yn unrhyw un o'r fformatau hyn, cysylltwch â ni ar regulatedproducts@food.gov.uk i drafod opsiynau.

Enwi eich ffeiliau

Cofiwch enwi eich ffeiliau yn briodol cyn i chi eu lanlwytho i'r gwasanaeth. Ni fyddwch yn gallu newid enwau ffeiliau ar ôl iddynt gael eu lanlwytho.

Cyflwyno eich ffeiliau

Bydd ffeiliau a lanlwythir i'r gwasanaeth yn cael eu cadw'n awtomatig. Ar ôl gwneud hyn, bydd enw eich ffeil yn dechrau gyda'r gair 'SUBMITTED', er enghraifft 'SUBMITTED_Crynodeb cais’.
Os na chaniateir math o ffeil, ni chyflwynir y ffeil. Bydd yn cael ei ddileu o'r system a bydd enw'r ffeil ar restr eich ffeiliau yn dechrau gyda'r geiriau 'NOT_SUBMITTED'.

Gan ddibynnu ar nifer y dogfennau yn eich cais a'u maint, efallai y bydd oedi rhwng lanlwytho'ch ffeiliau a'u harbed yn ein system. Er mwyn sicrhau bod eich cais llawn yn ein cyrraedd ni, gwiriwch fod yr enw 'SUBMITTED' yn dod o flaen pob enw ffeil yn eich coflen ar ôl i chi lanlwytho.

Golygu, dileu neu newid eich ffeiliau

Ni fyddwch yn gallu golygu na dileu eich ffeiliau ar ôl iddynt gael eu lanlwytho i'r gwasanaeth. Os oes angen i chi newid ffeil, cysylltwch â ni ar regulatedproducts@food.gov.uk.

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am lanlwytho'ch ffeiliau cais, cysylltwch â ni ar regulatedproducts@food.gov.uk

Canllawiau ar gyfer gwahanol fathau o gynhyrchion  

Mae'r hyn y mae angen i chi ei gyflwyno gyda'ch cais a phryd y mae angen i chi wneud cais yn wahanol yn dibynnu ar y math o awdurdodiad cynnyrch sydd ei angen arnoch. Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth fanwl am ofynion awdurdodi ar gyfer eich math o gynnyrch yn ein canllawiau awdurdodi ar gyfer: