Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hyb Canllawiau Bwyd Arloesol

Croeso i Hyb Canllawiau Bwyd Arloesol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae’r dudalen hon yn cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod am fwydydd newydd a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg sydd angen awdurdodiad cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad.

Mae’r hyb yn cynnwys canllawiau wedi’u teilwra, gwybodaeth gyfoes, a chymorth ymarferol ar ystod o gategorïau bwyd arloesol, gan gynnwys cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, eplesu manwl, pryfed bwytadwy, canabidiol (CBD) a thechnoleg enetig.

Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i lywio proses ymgeisio’r ASB er mwyn bod yn hyderus wrth roi’r cynhyrchion hyn ar y farchnad ac yn sicrhau eich bod chi’n cydymffurfio.