Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Diweddariad i randdeiliaid: gwyddoniaeth ac ymchwil (Rhagfyr 2022)

Dyma ein diweddariad ar wyddoniaeth a thystiolaeth, gan gynnwys cyfleoedd i weithio gyda ni. Bydd y diweddariadau chwarterol hyn yn rhoi gwybodaeth i chi am ein cyfleoedd cyllido cyfredol, y cyhoeddiadau ymchwil diweddaraf a’n meysydd o ddiddordeb ymchwil. Byddant hefyd yn tynnu sylw at swyddi gwag yr ASB ym maes gwyddoniaeth a chyfleoedd i adolygwyr cymheiriaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 December 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 December 2022

Yn y bwletin hwn, byddwn yn tynnu sylw at gyhoeddiad ein diweddariad blynyddol ar wyddoniaeth ar gyfer Bwrdd yr ASB yn ogystal â chwmpas eang allbynnau ein rhaglenni ymchwil. Byddwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ymchwil PATH-SAFE.

Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr trwy GovDelivery.

Uchafbwyntiau

Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Rhagfyr 2022: Diweddariad yr ASB ar Wyddoniaeth 2022

Cyflwynodd Julie Pierce a Rick Mumford bapur a oedd yn rhoi diweddariad blynyddol ar wyddoniaeth yr ASB, gan gynnwys datblygu gallu gwyddoniaeth, tystiolaeth ac ymchwil yr ASB; adolygiad o gyflawniadau a’r cynnydd a wnaed ers y diweddariad diwethaf; a chrynodeb o’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol

2022 – Blwyddyn mewn gwyddoniaeth yn yr ASB

Mae’r Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB, yn myfyrio ar ymrwymiad yr ASB i wyddoniaeth a’r gwaith a gyflawnwyd trwy gydol 2022.

Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB yn cyhoeddi adolygwyr annibynnol ar gyfer Adolygiad o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol

Mae’r Athro Robin May wedi cyhoeddi penodiad adolygwyr annibynnol ar gyfer dau o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol (SACs) annibynnol yr ASB.

Adolygiad o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol a Phwyllgorau Arbenigol ar y Cyd

Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau adolygiadau mewnol o dri o’n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol (SACs) a thri Grŵp Arbenigol ar y Cyd (JEGs).

Yr arolwg defnyddwyr diweddaraf yn olrhain lefel y pryder ynghylch cost bwyd ac effaith hyn ar ddiogelwch bwyd

Mae tystiolaeth newydd gan yr ASB yn dangos bod rhai pobl yn cymryd risgiau diogelwch bwyd oherwydd pwysau ariannol a chostau ynni cynyddol.

Defnyddwyr y DU yn rhannu eu safbwyntiau ar fwyd wedi’i fridio’n fanwl

Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban wedi cyhoeddi cam cyntaf arolwg o agweddau’r cyhoedd tuag at fridio manwl, fel rhan o ymdrechion ehangach i gynyddu eu sylfaen dystiolaeth ym maes technolegau genetig.

Llongyfarchiadau

Cyrhaeddodd tîm y prosiect Kitchen Life 2 (tîm Gwyddorau Cymdeithasol yn yr ASB) y rhestr fer ar gyfer Gwobr y Gwasanaeth Sifil am y Defnydd Gorau o Ddata a Thechnoleg, a’r wobr Dulliau Arloesol Wrth Ddadansoddi yn y Llywodraeth. Mae’r prosiect yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac mae’n darparu mewnwelediad newydd i asesiad risg, datblygiad polisi a chynllun ymyrryd ymddygiadol yr ASB.

Dyma fideo o Dr Arthur de Carvalho e Silva, cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Birmingham a ariannwyd gan yr ASB, ar ôl ennill Gwobr Ymchwilydd Ifanc, Gwobr Lush am ein hymchwil bwysig ar fethodolegau tocsicoleg cyfrifiadurol mewn perthynas ag asesiadau risg cemegol. 

Cyfleoedd

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ymchwilwyr ymuno â ni, gan gynnwys interniaethau, ysgoloriaethau ymchwil a chymrodoriaethau, neu swyddi. Mae mwy o wybodaeth am ein cyfleoedd diweddaraf i’w gweld isod.

Swyddi Gwag

Ymchwilydd y Gwyddorau Cymdeithasol

Rydym yn chwilio am Swyddog Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol a all ddarparu mewnwelediadau ar sail tystiolaeth ar draws ystod eang o brosiectau yn y dyfodol fel rhan o’r tîm Gwyddor Gymdeithasol. Byddwch yn cefnogi uwch ymchwilwyr gyda phrosiectau amrywiol a diddorol, ac yn cael y cyfle i arwain eich prosiectau llai eich hun. Bydd y gwaith yn helpu’r ASB i wneud penderfyniadau polisi hanfodol, yn ogystal â deall yn well sut y bydd y penderfyniadau hynny’n effeithio ar fywydau’r cyhoedd. (Dyddiad cau, dydd Llun 2 Ionawr 2023)

Asesydd Risg Gwenwynegol

Mae gennym gyfle cyffrous i aseswr risg gwenwynegol ymuno â’r Is-adran Tystiolaeth, Ymchwil a Gwyddoniaeth. Gan weithio ar ystod eang o brosiectau, o adroddiadau manwl i asesiadau risg ymateb i ddigwyddiadau, byddwch yn ymgymryd â gwaith amrywiol a hynod ddiddorol a fydd yn cefnogi, nid yn unig cenhadaeth yr ASB, ond hefyd iechyd y cyhoedd yn gyffredinol. (Dyddiad cau, dydd Llun 2 Ionawr 2023)

Adborth gan randdeiliaid

Arolwg Bwyd a Chi 2 ar gyfer rhanddeiliaid 

Rydym bellach wedi cyhoeddi pedair cylch o arolwg blaenllaw’r ASB, Bwyd a Chi 2, sy’n casglu data ar agweddau, gwybodaeth ac ymddygiad hunangofnodedig defnyddwyr ynghylch diogelwch bwyd a phynciau eraill sy’n ymwneud â bwyd.

Dyma gyfle i’r rheiny sy’n defnyddio’r canfyddiadau i gymryd rhan mewn arolwg 10 munud a gynlluniwyd i gasglu eich barn ar yr adroddiad Bwyd a Chi 2, allbynnau eraill, a sut rydych yn defnyddio’r data yn eich gwaith. Bydd eich adborth yn ein galluogi i wneud gwelliannau ar gyfer cylchau’r dyfodol. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Gwener 13 Ionawr 2023.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg hwn neu am Fwyd a Chi 2 yn fwy cyffredinol, cysylltwch â’r tîm yn: foodandyou@food.gov.uk

Dyddiadau i’ch dyddiadur

Seminarau Cnoi Cil yr ASB

Nod cyfres seminarau Cnoi Cil yr ASB yw creu hyb gwybodaeth hygyrch i alluogi dysgu ar y cyd a rhwydweithio ar bynciau yn y diwydiant bwyd sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau ymchwil yr ASB.

Sterling Crew – 26 Ionawr

Ymunwch â ni ddydd Iau 26 Ionawr rhwng 12pm a 1pm, lle bydd Sterling Crew, Llywydd Etholedig y Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd (IFST), Cadeirydd y Rhwydwaith Dilysrwydd Bwyd, yn trafod yr hyn y gall y digwyddiad wyau ei ddysgu am reoli argyfwng bwyd. Yn y sesiwn bydd Sterling, Cynghorydd Gwyddonol a Rheoleiddiol Annibynnol i Gyngor Diwydiant Wyau Prydain (BEIC) yn darparu mewnwelediad ac astudiaeth achos ar sut y dechreuodd yr argyfwng ym 1988, a sut y gwnaeth diwydiant wyau’r DU adfer ac adennill hyder defnyddwyr. 

Ipsos a Trussell Trust – 8 Chwefror 

Ymunwch â ni ddydd Mercher 8 Chwefror rhwng 1pm a 2pm, lle bydd Rachel Bull a Grace Wyld (Trussell Trust) a Daniel Cameron (Ipsos UK) yn cyflwyno canfyddiadau a’r gwersi a ddysgwyd o’r digwyddiad Hunger in the UK. Mae hwn yn brosiect ymchwil aml-flwyddyn mawr sy’n edrych ar raddfa, proffil a ysgogwyr defnydd banciau bwyd a thlodi yn y DU. Mae’r prosiect yn archwilio pwy sy’n fwyaf tebygol o ddefnyddio banciau bwyd, beth sy’n ysgogi’r angen cynyddol am fanciau bwyd, beth sy’n achosi’r tlodi, a beth yw’r datrysiadau polisi ac ymarferion effeithiol i gefnogi pobl sydd â diffyg diogeledd bwyd ac atal tlodi.

I gael eich ychwanegu at y rhestr wahodd ar gyfer y naill ddigwyddiad neu’r llall uchod, anfonwch e-bost i foodforthought@food.gov.uk a nodwch pa seminar yr hoffech gymryd rhan ynddi. 

Cyhoeddiadau diweddar

Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid ar brosiectau ymchwil i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar y wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Mae ein cyhoeddiadau ar gael ar ein tudalennau Ymchwil a Thystiolaeth, a gallwch weld ein hymchwil diweddaraf isod, wedi’i chategoreiddio yn ôl maes o ddiddordeb ymchwil.

Ymwrthedd gwrthficrobaidd: 

Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) mewn Campylobacter mewn cyw iâr yn y DU dros yr 20 mlynedd diwethaf

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dadansoddi 20 mlynedd o ddata ar ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) mewn Campylobacter mewn cyw iâr a fanwerthir yn y DU.

Ymddygiadau a chanfyddiadau:

Bwyd a Chi 2: Canfyddiadau Allweddol Cylch 3-4 Gogledd Iwerddon

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cylch 3 a 4 ein harolwg Bwyd a Chi 2 sy’n benodol i Ogledd Iwerddon. Mae’r adroddiad yn ymdrin â’r pynciau canlynol: ymddiriedaeth mewn bwyd, pryderon am fwyd, diffyg diogeledd bwyd, bwyta allan a siopau tecawê, alergeddau ac anoddefiadau bwyd, bwyta gartref, siopa a labelu bwyd a bwyta’n iachus.

Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd - Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau Cylch 4 ein harolwg Bwyd a Chi 2 sy’n ymwneud â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Arolwg Tracio Misol Mewnwelediadau Defnyddwyr

Ymchwil a mewnwelediadau defnyddwyr ar ymddygiadau ac agweddau at ddiffyg diogeledd bwyd, argaeledd bwyd, pryderon defnyddwyr a hyder yn y gadwyn gyflenwi bwyd. Cyhoeddwyd adroddiad mis Tachwedd heddiw.

Ymchwil ansoddol sy’n archwilio agweddau defnyddwyr at fwyd a werthir ar-lein

Comisiynwyd Ipsos i gynnal ymchwil i ddeall agweddau defnyddwyr tuag at brynu bwyd ar-lein, gan gynnwys y risgiau canfyddedig sy’n gysylltiedig â hyn. Ceisiodd yr ymchwil gasglu agweddau ynghylch prynu bwyd trwy amrywiaeth o wahanol fanwerthwyr ar-lein, gan gynnwys gwefannau archfarchnadoedd ar-lein, apiau gwasanaethau dosbarthu bwyd, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac apiau rhannu bwyd.

Galluoedd:

Dadansoddiad o gynhyrchion CBD

Comisiynwyd Fera Science Ltd. gan yr ASB i gynnal arolwg i gael cipolwg o’r cynhyrchion CBD sydd ar werth yng Nghymru a Lloegr er mwyn llywio asesiad risg yr ASB o gynhyrchion CBD.

Labordai Cyfeirio Cenedlaethol

Mae Labordai Cyfeirio Cenedlaethol (NRLs) yn labordai arbenigol sy’n gyfrifol am gynnal safonau ar gyfer profi bwyd a bwyd anifeiliaid yn rheolaidd. Maent yn darparu cyngor a chefnogaeth ar ddulliau ar gyfer profi rheolaethau swyddogol, gan sicrhau bod mesurau gorfodi bwyd cymesur sy’n seiliedig ar risg yn cael eu cyflenwi i ddiogelu defnyddwyr. Mae’r NRLs bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiadau blynyddol (Saesneg yn unig), gan amlygu’r camau gweithredu a gwblhawyd ar gyfer eu meysydd yn ystod 2021/22. 

Peryglon Cemegol mewn Bwyd a Bwyd Anifeiliaid:

Adroddiad ar Ymbelydredd mewn Bwyd a’r Amgylchedd (RIFE) 2021

Canfu adroddiad blynyddol ar Ymbelydredd mewn Bwyd a’r Amgylchedd (RIFE) fod lefelau ymbelydredd synthetig yn parhau i fod yn is na’r terfyn cyfreithiol.

Rhaglen Monitro Gwyliadwriaeth Nitradau (Adroddiad Blynyddol Mai 2021 – Mawrth 2022)

Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn cyflwyno canfyddiadau ar lefelau nitrad mewn letys, sbigoglys (spinach) a roced rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Buddiannau defnyddwyr:

Hyrwyddo deietau iach a chynaliadwy: Sut i gynhyrchu a throsi tystiolaeth yn effeithiol

Comisiynwyd Prifysgol Efrog, mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Hertford, gan yr ASB i archwilio’r rhwystrau wrth fabwysiadu tystiolaeth i feysydd polisi ac ymarfer, a datblygu set o egwyddorion arweiniol ar gyfer cynhyrchwyr tystiolaeth ar sut i greu a throsi tystiolaeth yn fwy effeithiol.

Clefyd a gludir gan fwyd: 

SARS-CoV-2 sy’n goroesi ar arwynebau bwyd a deunyddiau pecynnu bwyd

Ar ddiwedd mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd yr ASB ganfyddiadau astudiaeth a asesodd coronafeirws a oedd yn goroesi ar fwydydd dethol a deunydd pecynnu bwyd. Mae BBC a Sky News wedi ymateb i’r ymchwil. 

Bwydydd newydd:

Arolwg o agweddau’r cyhoedd tuag at fridio manwl

Comisiynwyd Ipsos UK gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban i gynnal prosiect ymchwil cymdeithasol dau gam ar fridio manwl. Roedd cam cyntaf y prosiect ymchwil cymdeithasol yn gofyn am adborth gan aelodau’r cyhoedd ledled y DU o ran eu hymwybyddiaeth a’u hagweddau at fwyd wedi’i fridio’n fanwl, a pha wybodaeth am fwyd wedi’i fridio’n fanwl sy’n bwysig yn eu barn nhw. 

Datganiad ar ganlyniad y gweithdy (ACNFP) ar Organebau wedi’u Bridio’n Fanwl (PBOs)

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) eu datganiad ar organebau a gafodd eu bridio’n fanwl sy’n nodi meysydd o gonsensws ar faterion gwyddonol a nodwyd gan ACNFP hyd yn hyn. Bydd y cyngor hwn yn llywio Bwrdd yr ASB wrth wneud penderfyniadau ar y dull o reoleiddio PBOs yn Lloegr.

Y Rhaglen PATH-SAFE

Clefydau a gludir gan fwyd a diagnosteg o bell

Fel y soniwyd yn ein diweddariad diwethaf, mae’r rhaglen PATH-SAFE, sef rhaglen drawslywodraethol gwerth £19.2 miliwn a ariennir gan Gronfa Canlyniadau a Rennir y Llywodraeth (SOF) ac a arweinir gan yr ASB, yn mynd rhagddi gyda nifer o weithgareddau’n cael eu cynnal, ar draws amrywiaeth eang o bartneriaid.  

Ym mis Medi roeddem yn falch o gyhoeddi bod Fera Science, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Lincoln, wedi cael contract i arwain ar astudiaeth o ddiagnosteg gyflym yn y maes i helpu’r rhaglen i ddeall pa dechnoleg sydd ar gael a defnydd cyfredol y dechnoleg honno. Bydd hyn yn cynnwys sganio’r gorwel, astudiaeth parodrwydd technoleg ac asesiad o anghenion y defnyddiwr terfynol. Bydd canlyniadau’r ymchwiliadau hyn yn llywio opsiynau ar gyfer camau nesaf y profion yn y maes. Bydd dylunio cymwysiadau ar y cyd â defnyddwyr terfynol yn hanfodol i sicrhau bod modd eu defnyddio yn y byd go iawn. 

Dechreuodd y prosiect ym mis Medi, gyda’r dyddiadau allweddol canlynol yn y dyfodol:

  • Mae gwaith sganio’r gorwel, asesiad parodrwydd technoleg ac astudiaeth o anghenion defnyddwyr terfynol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a disgwylir adroddiad ym mis Mawrth 2023. 
  • Disgwylir i brofion yn y maes, dan arweiniad agweddau blaenorol y prosiect, ddechrau ym Mehefin 2023, a disgwylir adroddiad erbyn mis Mawrth 2024.

Sut y gallwch helpu

Os ydych yn ymwybodol o astudiaethau tebyg ar barodrwydd technoleg, sydd naill ai yn yr arfaeth neu ar y gweill, cysylltwch â’n tîm PATH-SAFE fel y gallwn archwilio synergeddau posib ar draws prosiectau. Rydym yn awyddus i gysylltu a chyfathrebu ag unrhyw brosiectau eraill y llywodraeth ar barodrwydd technoleg, er mwyn gwneud y mwyaf o allbynnau pob un o’r prosiectau.