Hyfforddiant diogelwch bwyd ar-lein
Cyrsiau hyfforddi ar-lein am ddim i fusnesau gan gynnwys cyrsiau hyfforddiant ar alergenau a labelu.
Rydym ni’n cynnig cyrsiau diogelwch bwyd ar-lein am ddim i'ch helpu chi a'ch busnes i gydymffurfio â gofynion hylendid a safonau bwyd. Mae ein cyrsiau e-ddysgu yn cynnwys:
- Hyfforddiant alergenau
- Hyfforddiant labelu (Saesneg yn unig)
- Hyfforddiant dadansoddi gwraidd y broblem (Saesneg yn unig)
- Hyfforddiant olrhain (Saesneg yn unig)
- Hyfforddiant ar becynnu dan wactod (Saesneg yn unig)
Hyfforddiant alergenau bwyd ar-lein
Rydym ni’n darparu hyfforddiant alergedd bwyd ar-lein am ddim. Gallwch ddysgu rhagor am reoli alergenau mewn cegin yn ogystal â sut i ddarparu ar gyfer gofynion gwybodaeth am alergenau. Mae'n addas i bob aelod o staff gan fod yn rhaid i chi sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi i reoli alergenau.
Dylai eich staff:
- wybod beth yw'r gweithdrefnau a'r polisïau pan ofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth am alergenau
- fod wedi’u hyfforddi i ymdrin â cheisiadau am wybodaeth sy’n ymwneud ag alergenau
- allu gwarantu bod prydau heb alergenau yn cael eu gweini i'r cwsmer iawn
- wybod am beryglon croeshalogi alergenau wrth drin a pharatoi bwyd
Mae ein cwrs rhyngweithiol ar alergedd bwyd yn cynnwys chwe modiwl, pob un â phrawf ar y diwedd. Drwy basio’r profion hyn, gallwch lawrlwytho eich tystysgrif datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Mae'r cwrs alergenau hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddiant labelu bwyd
Bydd ein cwrs e-ddysgu ar labelu bwyd am ddim yn rhoi dealltwriaeth gyffredinol i chi o'r ddeddfwriaeth labelu bwyd gyfredol. Mae modiwlau'r cwrs yn cynnwys:
- Gwybodaeth orfodol ac eglurdeb
- Labelu gwlad tarddiad
- Enwau bwyd wedi'u gwarchod
Cwrs dadansoddi gwraidd y broblem ar gyfer busnesau bwyd
Bydd ein Cwrs Dadansoddi Gwraidd y Broblem rhad ac am ddim gyfer busnesau bwyd (Yn agor mewn ffenestr newydd) yn rhoi dealltwriaeth o’r theori a’r ymarfer mewn perthynas â Dadansoddi Gwraidd y Broblem. Cafodd y cwrs ei ddatblygu gyda Safonau Bwyd yr Alban, ac mae'n archwilio'r dull o ddatrys problemau sy'n nodi beth sydd wedi achosi diffygion neu broblemau yn y gadwyn cyflenwi bwyd.
Hyfforddiant olrhain ar gyfer swyddogion gorfodi
Mae ein cwrs e-ddysgu olrhain yn canolbwyntio ar egwyddorion ac arfer olrhain, a sut mae hyn yn gysylltiedig â'u rôl a'u cyfrifoldebau.
Mae'r modiwlau yn ein cwrs olrhain ar-lein am ddim yn cynnwys:
- cefndir a throsolwg o ddeddfwriaeth
- y gofynion yn Rheoliad 178/2002 ar gyfer pob bwyd
- olrhain a gweithrediadau busnes bwyd
Hyfforddiant ar becynnu dan wactod ar gyfer swyddogion gorfodi
Bydd ein cwrs hyfforddi ar-lein am becynnu dan wactod a phecynnu bwyd drwy addasu’r atmosffer yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o'r prosesau pecynnu dan wactod a phwysigrwydd diogelwch microbiolegol wrth eu defnyddio.
Cyrsiau a thystysgrifau hylendid bwyd
Yn y Deyrnas Unedig, nid oes rhaid i unigolion sy'n trin bwyd gael tystysgrif hylendid bwyd i baratoi neu werthu bwyd. Ond yn ôl y gyfraith, rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod y rheiny sy’n trin bwyd yn cael eu goruchwylio a’u hyfforddi’n briodol mewn hylendid bwyd. Rhaid i hyn fod yn unol â’r ardal y mae staff yn gweithio ynddi ac i'w galluogi i drin bwyd yn ddiogel.
Gellir dysgu'r sgiliau a addysgir mewn rhaglenni hyfforddi swyddogol hefyd drwy:
- hunan-astudio
- hyfforddi wrth weithio
- profiad blaenorol perthnasol
Efallai y byddwch hefyd am i lawrlwytho ein pecynnau gwybodaeth Bwyd mwy diogel, busnes gwell ar gyfer busnesau. Rydym yn cynnig adnoddau i’w lawrlwytho ar gyfer busnesau bwyd gan gynnwys:
Mae gennym ni hefyd adnoddau addysgu ar gyfer colegau.
Hanes diwygio
Published: 22 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Tachwedd 2022