Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hylendid bwyd ar gyfer eich busnes

Gofynion hylendid bwyd ar gyfer eich busnes.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Awst 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae hylendid bwyd da yn hanfodol i sicrhau bod y bwyd rydych chi’n ei weini’n ddiogel i’w fwyta. Mae’n helpu i atal gwenwyn bwyd.

Pan fyddwch chi’n sefydlu busnes bwyd, mae angen i chi gyflwyno ffyrdd o weithio a fydd yn eich helpu i sicrhau bod mesurau hylendid bwyd da ar waith o’r cychwyn cyntaf.

Y pedwar hanfod hylendid bwyd

Dyma’r pedwar hanfod ar gyfer hylendid da: 

Gallwch chi ddefnyddio’r pedwar hanfod i atal y problemau diogelwch bwyd mwyaf cyffredin.

Er mwyn rheoli gweithdrefnau hylendid a diogelwch bwyd yn eich busnes bwyd, dylech chi ddilyn egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).

Storio bwyd yn ddiogel

Mae’n bwysig iawn storio bwyd yn y lle cywir i’w gadw’n ddiogel, i’w ddiogelu rhag bacteria niweidiol, cemegion a gwrthrychau yn mynd i mewn i fwyd. Bydd angen i chi storio gwahanol fathau o fwyd trwy eu cadw mewn: 

  • cynwysyddion sy’n cael eu cadw mewn cypyrddau neu ar silffoedd – fel pasta, reis a blawd
  • oergell
  • rhewgell
Dyma ragor o wybodaeth am sut i oeri bwyd yn gywir yn eich busnes

Cludo bwyd yn ddiogel

Pan fyddwch chi’n cludo bwyd, o’ch safle i leoliad arall neu o’r warws talu a chario i’ch safle, rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n atal y bwyd rhag cael ei halogi, er enghraifft gyda baw neu facteria. 

Mae’n arbennig o bwysig sicrhau bod:

  • bwyd yn cael ei gludo mewn deunydd pecynnu neu gynwysyddion sy’n diogelu’r bwyd rhag halogiad 
  • bwyd oer a bwyd wedi’i rewi yn cael ei gadw ar y tymheredd cywir (mae rhai busnesau’n defnyddio bagiau a blychau oer, neu faniau wedi’u hoeri) 
  • bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta yn cael eu cadw ar wahân

Hyfforddi staff

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod unigolion sy’n trin bwyd yn cael yr oruchwyliaeth a’r hyfforddiant hylendid bwyd priodol, sy’n cyd-fynd â’r ardal y maent yn gweithio ynddi ac yn eu galluogi i drin bwyd yn y modd mwyaf diogel. Yn y Deyrnas Unedig, nid oes rhaid i unigolion sy’n trin bwyd gael tystysgrif hylendid bwyd i baratoi neu werthu bwyd.

Gellir dysgu’r sgiliau a addysgir mewn rhaglenni hyfforddi swyddogol hefyd drwy:

  • hyfforddiant wrth weithio
  • hunan-astudio
  • profiad blaenorol perthnasol

Mae gennym ni gyrsiau diogelwch bwyd ar-lein rhad ac am ddim i fusnesau, gan gynnwys hyfforddiant alergenau

Hylendid personol

Er mwyn cadw bwyd yn ddiogel, mae’n hanfodol bod gennych chi a’ch staff safonau hylendid personol uchel. 

Mae hylendid personol yn cynnwys:

  • golchi dwylo
  • dillad
  • addasrwydd i weithio
  • hyfforddiant

Arolygiadau a sgôr hylendid bwyd

Bydd swyddogion awdurdodedig eich cyngor lleol yn arolygu eich safleoedd i wirio a yw eich busnes yn cydymffurfio â chyfraith bwyd ac yn cynhyrchu bwyd sy’n ddiogel i’w fwyta. 

Os ydych chi’n gweini neu’n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i’r cyhoedd, mae’n bosib y byddwch chi’n rhan o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Bydd eich sgôr yn seiliedig ar yr hyn a welir ar ddiwrnod yr arolygiad ac efallai y byddwch chi’n cael sgôr hylendid rhwng 5 (da iawn) a 0 (angen gwella ar frys), yn seiliedig ar y safonau hylendid bwyd ar y pryd. 

    Mae’n orfodol rhoi sticer sy’n dangos eich sgôr yn y fynedfa i gwsmeriaid yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn wirfoddol yn Lloegr. 

    Mae canllawiau ar gael i helpu busnesau i arddangos eu sgôr ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Trwy arddangos eich sgôr ar eich safle neu ar-lein, gallwch ddangos i gwsmeriaid pa mor dda yw eich safonau hylendid.

    Canllawiau ar gyfer y diwydiant bwyd

    I gael rhagor o wybodaeth am hylendid ar gyfer eich busnes, gallwch chi brynu a darllen ein canllawiau ar wefan y Swyddfa Llyfrfa.  

    Gwneud a gwerthu brechdanau

    Busnesau manwerthu

    Canllawiau eraill y diwydiant i gynorthwyo’ch busnes