Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwartheg cig eidion glân i’w lladd: Canllaw i gynhyrchwyr

Lles gwartheg

Mae gan berchnogion a’r rhai sy’n gofalu am wartheg gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddiogelu lles anifeiliaid bob amser

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod glendid gweledol a bacteriol yn gostwng wrth i amser a phellter y daith gynyddu.

Cynghorir y dylid addasu’r deiet, neu beidio â bwydo’r anifail am gyfnod byr cyn cludo, er mwyn lleihau achosion o faeddu.

Mae bwydo’r gwartheg ar ddeiet gwellt am 1-2 ddiwrnod cyn eu cludo wedi profi’n fuddiol. Pan gludir anifeiliaid i’r farchnad neu i’w lladd, dylid ystyried y pwyntiau canlynol:

  • Defnyddiwch gludwyr sydd ag enw da iddynt
  • Ystyriwch y deiet cyn cludo
  • Dylai cerbydau fod yn lân, wedi’u diheintio a’u hawyru'n dda
  • Dylech sicrhau digon o wellt gwely glân a ffres
  • Dylai anifeiliaid fod yn sych wrth gael eu llwytho a’u cadw’n sych trwy'r daith, hyd nes y cânt eu lladd
  • Dylid osgoi cymysgu anifeiliaid

Mae gan berchnogion a’r rhai sy’n gofalu am wartheg gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddiogelu lles anifeiliaid bob amser. Mae Atodiad 5 yn disgrifio’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i les gwartheg.