Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB
Rydym yn adran anweinidigol y llywodraeth sy'n cael ei llywodraethu gan Fwrdd, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Weinidogion.
Mae'r Athro Susan Jebb yn cadeirio ein Bwrdd ac mae ganddo hyd at 12 aelod. Maen nhw'n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol ein sefydliad.
Gan fod tryloywder yn egwyddor sy’n llywio’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac sy’n allweddol i gynnal hyder y cyhoedd, gallwch chi wylio cyfarfodydd ein bwrdd.
Fideo o Gyfarfodydd diweddaraf Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes
Cofrestru i wylio Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB
Gallwch wylio cyfarfodydd y Bwrdd i glywed ei drafodaethau am ein polisïau.
Mae Bwrdd yr ASB yn cynnal ei gyfarfodydd yn gyhoeddus ac yn cyhoeddi agendâu, papurau a phenderfyniadau ar y cyfarfodydd hyn.
Bydd angen i chi gofrestru i wylio un o'r cyfarfodydd y Bwrdd.
Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB
Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar y papurau sy’n cael eu hystyried ym mhob un o’i gyfarfodydd.
Rydym yn awyddus i sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol, fod cwestiynau’n cael sylw yn y drafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd felly mae’n bwysig bod yr ymholiadau mor gryno ac uniongyrchol â phosib.
Dylai cwestiynau ymwneud â phapurau’r Bwrdd a gyhoeddwyd cyn y cyfarfod. Ni fydd cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â phapur ar agenda cyfarfod Bwrdd yr ASB yn cael sylw yn ystod cyfarfod y Bwrdd ond byddant yn cael eu hateb ar wahân ac yn ysgrifenedig.
Bydd pawb sy’n anfon cwestiwn ar gyfer cyfarfod y Bwrdd hefyd yn cael ateb ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd. Cyhoeddir yr atebion ar dudalen berthnasol Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB.
Gallwch gyflwyno eich cwestiynau hyd at 5pm y dydd Llun cyn y cyfarfod gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu cyflwyno cwestiynau a bydd y ffurflen yn cau.
Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB sydd ar y gweill
Mae Bwrdd yr ASB yn cyfarfod bob chwarter.
Dyma ddyddiadau'r cyfarfodydd nesaf sydd wedi'u trefnu:
- 21 Mehefin 2023 – Cyfarfod Bwrdd yr ASB – Belfast
- 20 Medi 2023 – Cyfarfod Bwrdd yr ASB – Lleoliad i'w gadarnhau
- 13 Rhagfyr 2023 – Cyfarfod Bwrdd yr ASB – Lleoliad i'w gadarnhau
- 20 March 2024 – Cyfarfod Bwrdd yr ASB – Lleoliad i'w gadarnhau
19 June 2024 – Cyfarfod Bwrdd yr ASB – Lleoliad i'w gadarnhau
18 September 2024 – Cyfarfod Bwrdd yr ASB – Lleoliad i'w gadarnhau
11 December 2024 – Cyfarfod Bwrdd yr ASB – Lleoliad i'w gadarnhau
Cyfarfodydd Blaenorol Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes
Gallwch chi wylio recordiadau o gyfarfodydd blaenorol Bwrdd yr ASB ar YouTube a dod o hyd i gofnodion, papurau bwrdd ac agendâu'r cyfarfodydd canlynol ar ein gwefan:
Cyfarfodydd yn 2023:
Cyfarfodydd yn 2022:
- Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes - Rhagfyr 2022
- Pwyllgor Busnes yr ASB - Medi 2022
- Bwrdd yr ASB - Medi 2022
- Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes - Mehefin 2022
- Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes - Mawrth 2022
Cyfarfodydd yn 2021:
- Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes - Rhagfyr 2021
- Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes - Medi 2021
- Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes - Mehefin 2021
- Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor - Mai 2021
- Pwyllgor Busnes yr ASB - Mawrth 2021
- Bwrdd yr ASB - Mawrth 2021
Cyfarfodydd yn 2020:
Yn ystod pandemig COVID-19, cynhaliwyd cyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes ar-lein ac, yn bennaf, ar ddiwrnodau gwahanol.
- Pwyllgor Busnes yr ASB - Rhagfyr 2020
- Bwrdd yr ASB - Rhagfyr 2020
- Bwrdd yr ASB - Tachwedd 2020
- Pwyllgor Busnes yr ASB - Medi 2020
- Bwrdd yr ASB - Medi 2020
- Bwrdd yr ASB - Awst 2020
- Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes - Mehefin 2020
- Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes - Mawrth 2020
- Bwrdd yr ASB a'r Pwyllgor Busnes - Ionawr 2020
Mae'r Archifau Cenedlaethol yn cadw gwybodaeth am gyfarfodydd a gynhaliwyd dros ddwy flynedd yn ôl:
Pwyllgorau Bwrdd yr ASB
Penododd Bwrdd yr ASB Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phwyllgor Busnes i ymgymryd â rhai o'i chyfrifoldebau ac i'w chynghori ar eraill.
Sut mae Bwrdd yr ASB yn cael ei lywodraethu
Mae’r ffordd rydym yn casglu cwestiynau i’r Bwrdd wedi newid.
Rydym bellach yn defnyddio Microsoft Form i gasglu cwestiynau i’r Bwrdd yn hytrach nag e-bost. Gallwch lenwi'r ffurflen yn Gymraeg drwy ddewis Cymraeg o'r gwymplen ar frig y dudalen.
Gallwch gyflwyno eich cwestiynau hyd at 5pm y dydd cyn y cyfarfod gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu cyflwyno cwestiynau a bydd y ffurflen yn cau.
Hanes diwygio
Published: 24 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mawrth 2023