Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Bwyd mwy diogel, busnes gwell

Gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a rheoliadau hylendid bwyd ar gyfer busnesau bach.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Chwefror 2024

Fel busnes bwyd, mae gofyn i chi a’ch staff fod â safonau hylendid personol da. Mae’r daflen hon yn rhoi gwybod i chi sut i wneud yn siŵr eich bod chi a’ch staff, a’r bwyd yr ydych chi’n ei weini, yn ddiogel.

Mae pob pecyn 'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell' yn cynnwys gwybodaeth am:

  • groeshalogi
  • glanhau
  • oeri
  • coginio
  • rheoli
  • defnyddio’r dyddiadur

Bydd y pecynnau, sy’n ymarferol ac yn hawdd eu defnyddio, yn eich helpu i:

  • gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd
  • dangos beth ydych chi’n ei wneud i baratoi bwyd yn ddiogel
  • hyfforddi staff 
  • diogelu enw da eich busnes
  • gwella eich busnes
  • gwella eich Sgôr Hylendid Bwyd

Ar gyfer gwarchodwyr plant, cartrefi gofal preswyl ac adnoddau hyffordi ar gyfer colegau, mae gan bob pecyn unigol wybodaeth benodol ar gyfer y gwahanol ofynion y bydd gofyn i chi fod yn gyfarwydd â nhw.

Pecynnau gwybodaeth

Rydym ni’n darparu pecynnau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ar gyfer:

Gallwch lawrlwytho'r pecyn llawn neu adrannau penodol yn ôl yr angen ar gyfer pob pecyn.

Sut i ddefnyddio’r dyddiadur

Storiwch bob tudalen lawn yn ddiogel tan eich ymweliad nesaf gan swyddog diogelwch bwyd eich awdurdod lleol. Gallwch wneud hyn yn electronig neu gyda chopïau papur. Efallai y byddant yn gofyn i edrych ar dudalennau’ch dyddiadur yn ogystal â’ch pecyn Bwyd Mwy Diogel.

Mae gennych chi ddau opsiwn.

  • cadw’r dyddiadur yn electronig gan lawrlwytho tudalennau’r dyddiadur i’ch dyfais, eu llenwi a’u storio yn electronig
  • argraffu’r dyddiadur a’i lenwi.

Mae tudalennau dyddiadur ychwanegol y gallwch eu defnyddio hefyd pan fydd angen rhagor o dudalennau arnoch.

Gallwch argraffu’r tudalennau ychwanegol ar wahân os mai dim ond y rhan honno o’r pecyn sydd ei hangen arnoch. Gallwch hefyd lenwi’r fersiwn hon yn electronig, a gallwch lawrlwytho’r tudalennau i’ch dyfais.