Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cofrestrau newydd ar gyfer materion dadansoddi risg a cheisiadau am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio

Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi cofnod cyhoeddus o’r materion dadansoddi risg a chynhyrchion wedi’u rheoleiddio sy’n cael eu hadolygu yn y Deyrnas Unedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 July 2021

Ers ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban wedi etifeddu’r cyfrifoldeb dros asesu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig (DU). Fel rhan o’r rôl fanylach hon, byddwn ni’n cyhoeddi gwybodaeth am y materion rydyn ni’n gweithio arnyn nhw. Gall defnyddwyr dracio’r materion sy’n cael eu hadolygu yn ogystal â pha gam o’r broses maen nhw arno.

Dywedodd Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi, ASB:

‘Rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, gan gymhwyso ein hegwyddorion craidd sef bod yn agored a thryloyw. I’r perwyl hwnnw, rydym wedi cyhoeddi cofrestr o’r materion dadansoddi risg a cheisiadau cynhyrchion wedi’u rheoleiddio sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru wrth i faterion symud trwy’r broses, a bydd yn bwynt cyfeirio ar gyfer ymgeiswyr, busnesau a defnyddwyr ar faterion diogelwch bwyd cyfredol sydd wrthi’n cael eu hystyried.’

Cyhoeddwyd dwy gofrestr:

Cofrestr materion dadansoddi risg

Mae’r gofrestr materion dadansoddi risg yn darparu gwybodaeth am faterion sydd wrthi’n cael eu hystyried trwy ein proses dadansoddi risg ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’n rhoi crynodeb o bob mater a’i statws cyfredol.

Cofrestr ceisiadau am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio

Mae’r gofrestr ceisiadau am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio yn rhestru’r ceisiadau a ddaeth i law trwy’r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio rydym ni’n eu hasesu ar hyn o bryd.

Mae cynhyrchion wedi'u rheoleiddio’n cynnwys:

I gael ei roi ar y rhestr, mae’n rhaid i gais fod wedi pasio gwiriadau cychwynnol i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol (hynny yw,  ei fod wedi’i ddilysu). Mae’r gofrestr yn cynnwys peth manylion am yr ymgeisydd a’r cynnyrch ei hun, ac mae hefyd yn dangos cam cyfredol y cais.

Bydd fformat y ddwy gofrestr yn parhau i esblygu a gwella dros y misoedd nesaf.