Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild Game guidance

Cludo Anifeiliaid Hela Gwyllt a Helgig Gwyllt

Dylid cynnal safonau hylendid bwyd ar bob cam o gynhyrchu a chludo/dosbarthu anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt er mwyn rhoi hyder o ran diogelwch bwyd.

Mae rheoli risgiau diogelwch bwyd yn dechrau ar y cam cynhyrchu cynradd (er enghraifft, hela) a rhaid cynnal arferion hylendid da wrth gludo/dosbarthu anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt ar hyd y gadwyn cyflenwi bwyd.

Nodir y gofynion hylendid sy’n gymwys i gludo anifeiliaid hela gwyllt o’r man cynhyrchu (er enghraifft, y safle lladd) i sefydliad yn Atodiad I o dan y gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd, gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd. Oni bai eich bod wedi’ch eithrio o’r gofynion cyffredinol hyn (er enghraifft, o dan yr eithriadau a nodir yn Adran 2.1 ac Adran 2.2) rhaid i chi gadw at y gofynion hylendid sylfaenol yn yr Atodiad I hwn. Rhaid i’r rheiny sy’n cludo anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt gadw at yr egwyddorion a gofynion olrhain.

Os ydych yn cludo anifeiliaid hela gwyllt i AGHE, bydd angen i chi fod wedi’ch cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol a chydymffurfio hefyd â’r gofynion cysylltiedig a nodir yn Adran IV o Atodiad III yn y rheolau hylendid penodol sy’n berthnasol i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid ar gyfer trin anifeiliaid hela gwyllt. Mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i anifeiliaid hela gwyllt gael eu cludo i’r AGHE cyn gynted â phosibl ar ôl i’r person cymwys gynnal yr archwiliad.  

Yn ystod y broses o gynhyrchu, cludo/dosbarthu anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt, ni ddylid ymyrryd â’r gadwyn oer, er mwyn atal twf bacteria pathogenig. Dyma’r tymheredd y mae’n rhaid ei gynnal wrth gludo: 

  • 7°C ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt mawr (ac eithrio offal);
  • 4°C ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt bach
  • 3°C ar gyfer offal.

Wrth gludo, peidiwch â phentyrru anifeiliaid hela gwyllt ar unrhyw gam gan y bydd hyn yn hwyluso croeshalogi ac yn ei gwneud hi’n anodd oeri’r anifeiliaid hela gwyllt.

Mae enghreifftiau da a drwg o gludo a storio i’w gweld yn y Lluniau Anfeiliaid Hela Gwyllt (PDF).