Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild Game guidance

Storio Anifeiliaid Hela Gwyllt

Mae bwtri helgig (game larder) yn cael ei ddeall yn gyffredinol fel cyfleuster a ddefnyddir i storio anifeiliaid hela gwyllt ar ôl hela.

Nid yw’r term ‘bwtri helgig’ (game larder) wedi’i ddiffinio mewn deddfwriaeth hylendid. Serch hynny, yn y DU caiff ei ystyried yn gyffredinol yn gyfleuster a ddefnyddir i storio anifeiliaid hela gwyllt ar ôl eu hela, fel gwaith cynhyrchu cynradd cysylltiedig. Mae’r gweithgareddau canlynol a wneir mewn bwtrïoedd helgig yn cael eu hystyried yn rhan o gynhyrchu cynradd:

  • unrhyw weithgaredd paratoi carcas angenrheidiol sy’n rhan o arfer hela arferol (er enghraifft gwaedu a diberfeddu). Yn aml mae’n well gwneud hyn yn y bwtri helgig yn hytrach nag yn y cae
  • storio anifeiliaid hela gwyllt.

I’r perwyl hwn, dylai bwtrïoedd helgig:

  • fod â chapasiti digonol i drin yr anifeiliaid hela gwyllt sy’n mynd drwy’r bwtri helgig mewn modd hylan, yn ogystal â’r gallu i storio, trin a chael gwared ar wastraff a sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn ôl yr angen
  • bod wedi’u hawyru’n ddigonol neu wedi’u hoeri gan gadw cofnod o’r tymheredd
  • cael eu diogelu rhag halogiad gan gynnwys rhag anifeiliaid a phlâu
  • rhaid cadw cyfleusterau ac offer yn lân a, lle bo angen ar ôl eu glanhau, eu diheintio mewn modd priodol
  • atal cyflwyno a lledaenu clefydau heintus y gellir eu trosglwyddo i bobl trwy fwyd a rhoi gwybod i’r awdurdod cymwys am amheuaeth o glefydau o’r fath;
  • sicrhau bod pawb sy'n trin anifeiliaid hela a helgig yn iach ac wedi cael hyfforddiant risgiau diogelwch bwyd
  • storio a thrin gwastraff a sylweddau peryglus er mwyn atal halogiad

Mae enghreifftiau o arferion gorau ac arferion nad ystyrir eu bod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer bwtri helgig a storio i’w gweld ar ein wefan, Lluniau anifeiliaid hela gwyllt (PDF).

6.1 Newidiadau’r Undeb Ewropeaidd (UE) o ran canolfannau casglu sy’n effeithio ar Ogledd Iwerddon

Mae Cyfraith yr UE yn uniongyrchol gymwys yng Ngogledd Iwerddon. Mae Cyfraith yr UE wedi’i diwygio’n ddiweddar i gyflwyno canolfannau casglu ar gyfer helgig gwyllt. Mae newidiadau'r UE yn Adran IV yn darparu cysyniad cyfreithiol newydd o ‘ganolfannau casglu’.

Mae newid yr UE yn diffinio canolfannau casglu anifeiliaid hela gwyllt fel ‘sefydliad a ddefnyddir i storio cyrff ac organau perfeddol (viscera) anifeiliaid hela gwyllt cyn eu cludo i sefydliad trin helgig’.

Gall y ganolfan gasglu ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt gwyllt fod naill ai:

  • wedi ei chofrestru gyda’r awdurdod cymwys fel busnes bwyd sy’n ymgymryd â chynhyrchu cynradd fel y cyfeirir ato yn Erthygl 4(2)(a) pan fydd ond yn derbyn cyrff fel canolfan gasglu gyntaf, neu
  • wedi’i chymeradwyo gan yr awdurdod cymwys fel busnes bwyd yn unol ag Erthygl 4(2) wrth dderbyn cyrff o ganolfannau casglu eraill

Boed wedi’i chofrestru neu wedi’i chymeradwyo, mae rheolau hylendid perthnasol yn gymwys.