Cysylltiadau, cymeradwyaethau a chofrestru
Gwybodaeth am sut i gysylltu os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynghylch gofynion cyfreithiol hylendid bwyd.
Cyffredinol
Os oes angen eglurhad pellach neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gofynion cyfreithiol ar hylendid bwyd sy’n gymwys i anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt, cysylltwch â thîm Polisi Hylendid Cig yr ASB gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: wildgameguidance@food.gov.uk.
Cymeradwyaeth
I geisio gymeradwyaeth ar gyfer AGHE, cysylltwch â thîm cymeradwyo’r ASB gan ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost canlynol:
- Cymru a Lloegr: approvals@food.gov.uk
- Gogledd Iwerddon: executive.support@food.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y broses gymeradwyo, cyfeiriwch at y dudalen cymeradwyo ar wefan yr ASB.
Cofrestru
Os ydych yn cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i’r gadwyn fwyd ac nad ydych yn dod o fewn yr eithriadau perthnasol, bydd angen i chi gofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. I ddarganfod a yw’r eithriadau hyn yn berthnasol i chi ai peidio ac i gofrestru fel busnes bwyd, bydd angen i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol. I gael manylion cyswllt eich awdurdod lleol, ewch i'n tudalen we cysylltu â'ch awdurdod lleol.