Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB

Rydym yn adran anweinidigol o’r llywodraeth sy’n cael ei llywodraethu gan Fwrdd, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Weinidogion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Medi 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Medi 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r Athro Susan Jebb yn cadeirio ein Bwrdd ac mae ganddo hyd at 12 aelod. Maen nhw’n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol ein sefydliad.

Gan fod tryloywder yn egwyddor sy’n llywio’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac sy’n allweddol i gynnal hyder y cyhoedd, gallwch chi wylio cyfarfodydd ein bwrdd.

Bydd cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB yn cael ei gynnal ar 10 Rhagfyr 2025.

Fideo o Gyfarfodydd diweddaraf Bwrdd yr ASB

Bydd y recordiad o Gyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2025 ar gael o fewn 48 awr i ddiwedd y cyfarfod.

Cofrestru ar gyfer cyfarfodydd Bwrdd yr ASB

Mae Bwrdd yr ASB yn cynnal ei gyfarfodydd yn gyhoeddus ac yn cyhoeddi agendâu, papurau a phenderfyniadau cyfarfodydd.

Gallwch wylio’r cyfarfodydd yn bersonol neu ar-lein i glywed trafodaethau’r Bwrdd am ein polisïau

Mae angen i chi gofrestru i wylio ar-lein neu fynd i gyfarfod y Bwrdd yn bersonol.

Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB

Mae'r ffurflen ar gyfer cyflwyno cwestiynau ar gau ar hyn o bryd, a bydd yn ailagor pan fydd papurau'r bwrdd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr 2025.

Rydym yn awyddus i sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol, fod cwestiynau’n cael sylw yn y drafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd. Ar wahân i drafodaethau ar y diwrnod, bydd pob cwestiwn yn cael ateb ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith i'r cyfarfod.

Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB sydd ar y gweill

Mae Bwrdd yr ASB yn cyfarfod bob chwarter.

Dyma ddyddiadau’r cyfarfodydd nesaf sydd wedi’u trefnu:

  • 10 Rhagfyr 2025 – Reading
  • 25 Mawrth 2026 – Lleoliad i’w gadarnhau
  • 17 Mehefin 2026 – Lleoliad i’w gadarnhau
  • 16 Medi 2026 – Lleoliad i’w gadarnhau
  • 9 Rhagfyr 2026 – Lleoliad i’w gadarnhau

Cyfarfodydd Blaenorol Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes

Gallwch chi wylio recordiadau o gyfarfodydd blaenorol Bwrdd yr ASB ar YouTube a dod o hyd i gofnodion, papurau bwrdd ac agendâu’r cyfarfodydd canlynol ar ein gwefan: 

Cyfarfodydd yn 2025:

Cyfarfodydd yn 2024:

Cyfarfodydd yn 2023:

Cyfarfodydd yn 2022:

Cyfarfodydd yn 2021:

Mae’r Archifau Cenedlaethol yn cadw gwybodaeth am gyfarfodydd cynharach.

Pwyllgorau Bwrdd yr ASB

Penododd Bwrdd yr ASB Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phwyllgor Busnes i ymgymryd â rhai o’i gyfrifoldebau ac i’w gynghori ar gyfrifoldebau eraill.

Sut mae Bwrdd yr ASB yn cael ei lywodraethu