Pwyllgor Busnes
Bwriad y Pwyllgor Busnes yw rhoi trosolwg priodol lefel uchel o faterion ariannol a gweithredol ar lefel y Bwrdd, a chynorthwyo â throsi polisi yn ganlyniadau effeithiol.
Mae'r cyfarfodydd yn rhai agored oni bai bod angen eu trafod yn breifat gan fod y materion:
- yn ymwneud â phethau sy'n fasnachol ac yn gyfrinachol
- yn destun trafodaethau byw a all effeithio'n niweidiol ar fudd y cyhoedd
- yn gysylltiedig ag unigolion
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn un o bwyllgorau Bwrdd yr ASB.
Mae'n gyfrifol am adolygu, mewn capasiti anweithredol, dibynadwyedd sicrwydd llywodraethu, rheoli risg a'r amgylchedd rheoli. Mae hefyd yn gyfrifol am adolygu cywirdeb datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Aelodau'r Pwyllgor
- Colm McKenna – Cadeirydd (ac aelod Bwrdd yr ASB yng Ngogledd Iwerddon)
- Ruth Hussey
- Mary Quicke
- Laura Sandys (Dirprwy Gadeirydd yr ASB)
Arsylwyr
- Emily Miles – Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd
- Chris Hitchen – Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad, ASB
- John Furley – Archwilio Mewnol, ASB
- Ali Morgan – Swyddfa Archwilio Genedlaethol
- Ross Woodley – Mazars