Rhoi bwydydd arloesol ar y farchnad ym Mhrydain Fawr
Trosolwg o reoliadau a chanllawiau bwydydd arloesol, ac o’r ystyriaethau cydymffurfio allweddol ar gyfer Prydain Fawr.
Trosolwg
Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn darparu rheoliadau allweddol sy’n berthnasol i’r broses awdurdodi cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid arloesol, ac i’r gofynion ôl-farchnad ar eu cyfer. Mae’r nodyn wedi’i anelu’n bennaf at fusnesau sy’n datblygu bwydydd arloesol, ond gall hefyd fod yn ddefnyddiol i weithgynhyrchwyr a manwerthwyr.
Mae’n cwmpasu:
- pa gynhyrchion mae angen eu hawdurdodi cyn i chi allu eu gwerthu
- sut i wirio a yw’ch cynnyrch eisoes wedi’i awdurdodi
- sut i wneud cais am awdurdodiad
- beth mae angen i chi ei wneud ar ôl cael awdurdodiad
- sut i gael mynediad at gymorth pellach
At ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig y mae’r nodyn gwybodaeth hwn, ac nid cyngor cyfreithiol mohono. Nid yw’n drosolwg cynhwysfawr o’r rheoliadau perthnasol ychwaith. Ei nod yw helpu darllenwyr i ddeall tirwedd reoleiddio bwydydd newydd arloesol ac egluro, ar lefel uchel, rai ffiniau rhwng cyfundrefnau.
Mae’r cyfrifoldeb dros gydymffurfio â rheoliadau yn nwylo’r gweithredwr busnes bwyd perthnasol. Lle nad yw statws rheoleiddio cynnyrch yn glir, dylai busnesau gyfeirio at y ddeddfwriaeth berthnasol a cheisio cyngor priodol a/neu ddefnyddio llwybrau penderfynu ffurfiol (er enghraifft, dylid defnyddio proses ymgynghori ‘Erthygl 4’ bwydydd newydd ym Mhrydain Fawr i benderfynu a yw cynnyrch yn fwyd newydd).
Gofynion o ran y Gyfraith Bwyd Gyffredinol
Mae’r Gyfraith Bwyd Gyffredinol yn gymwys i’r holl fwyd a werthir ym Mhrydain Fawr. Prif nod y Gyfraith Bwyd Gyffredinol yw diogelu iechyd pobl a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’n cwmpasu pob cam o’r gwaith cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd a bwyd anifeiliaid.
Rhaid i bob busnes bwyd ddilyn cyfraith diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.
Mae angen rheoleiddio ychwanegol ar rai cynhyrchion bwyd. Mae hyn yn cynnwys rhai cynhyrchion bwyd a allai beri risgiau diogelwch uwch, fel cynhyrchion sy’n newydd ac sydd heb gael eu bwyta’n eang o’r blaen.
Cynhyrchion rheoleiddiedig
Beth yw cynhyrchion rheoleiddiedig?
Mae angen awdurdodi rhai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid (‘cynhyrchion rheoleiddiedig’) cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Mae hyn oherwydd y gallent beri risgiau penodol, ansicrwydd, neu nodweddion newydd sy’n gofyn am oruchwyliaeth ychwanegol er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal cofrestr o gynhyrchion rheoleiddiedig sydd wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio ym Mhrydain Fawr. Mae’r ASB hefyd yn cyhoeddi cofrestr o’r ceisiadau a ddaeth i law (er gwybodaeth yn unig), sydd ar wahân i’r gofrestr o gynhyrchion awdurdodedig.
Dylai busnes sydd â chynnyrch bwyd arloesol ymgyfarwyddo â’r mathau o gynhyrchion mae angen awdurdodiad cynhyrchion rheoleiddiedig ar eu cyfer. Pe gallai’r cynnyrch fod yn rhan o gyfundrefn, mae’n bwysig gwirio a yw’r cynnyrch eisoes wedi’i awdurdodi ac, os felly, a yw’r defnydd bwriadedig yn dod o dan y telerau awdurdodi. Mae hyn er mwyn helpu i benderfynu a ellir marchnata’r cynnyrch ym Mhrydain Fawr ar hyn o bryd, neu a oes rhaid gwneud cais i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig.
I roi cynnyrch rheoleiddiedig ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, mae trefniadau gwahanol yn berthnasol (gan gynnwys prosesau’r UE, gyda darpariaeth gyfyngedig ar gyfer nwyddau manwerthu cymwys sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw a symudir drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon).
Gwirio’r gofrestr a’r telerau awdurdodi
Mae cynhyrchion sydd ar y gofrestr o gynhyrchion rheoleiddiedig awdurdodedig eisoes yn gallu cael eu defnyddio ym mhob gwlad ym Mhrydain Fawr, cyhyd â’u bod yn bodloni’r telerau awdurdodi fel y’u rhestrir, ochr yn ochr â’r Gyfraith Bwyd Gyffredinol.
Os oes busnes yn bwriadu defnyddio cynnyrch awdurdodedig y tu hwnt i’w delerau awdurdodi gwreiddiol, yna bydd angen gwneud cais am addasiad i’r awdurdodiad. Cysylltwch â’r ASB yn regulatedproducts@food.gov.uk os nad yw’n glir a oes angen addasu’r awdurdodiad presennol ai peidio.
Pryd bydd angen gwneud cais
Os oes cynnyrch arloesol sydd heb ei restru ar y gofrestr berthnasol ym Mhrydain Fawr, mae’n debygol y bydd angen gwneud cais cyn y gellir rhoi’r cynnyrch hwnnw ar farchnad Prydain Fawr. Darllenwch ein canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.
Y broses awdurdodi
I wneud cais am awdurdodiad, cyflwynwch goflen drwy’r porth awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig. Mae’r broses awdurdodi’n cynnwys asesiad diogelwch gwyddonol trylwyr, ac yna ystyriaethau rheoli risg ac ymgynghoriad cyhoeddus.
Er mwyn helpu i ddeall y broses awdurdodi, mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cynhyrchu:
- siart lif ar gyfer y broses ceisio am awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig
- siart lif ar gyfer y broses ceisio am awdurdodi bwydydd newydd, sy’n cynnwys gwybodaeth am y camau y dylai ymgeiswyr eu cymryd cyn gwneud cais i awdurdodi bwyd newydd
Cyfundrefnau awdurdodi ar gyfer bwydydd arloesol
Mae cynhyrchion rheoleiddiedig wedi’u hawdurdodi o dan wahanol gyfundrefnau. Mae pob cyfundrefn yn cwmpasu math o gynnyrch sydd wedi’i nodi mewn deddfwriaeth. Gellir dod o hyd i restr lawn o gyfundrefnau a’r canllawiau perthnasol yn y canllawiau ar wneud cais i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig.
Mae’r prif gyfundrefnau sy’n berthnasol i fwydydd arloesol wedi’u rhestru isod.
Organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) fel bwyd a bwyd anifeiliaid
Organebau a addaswyd yn enetig yw planhigion ac anifeiliaid y mae eu cyfansoddiad genetig wedi’i addasu gan ddefnyddio technegau biotechnoleg. Mae addasu genetig yn galluogi gwyddonwyr i gynhyrchu planhigion, anifeiliaid a micro-organebau sydd â nodweddion penodol.
Mae bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig yn cynnwys neu wedi’i wneud o GMOs, neu’n cael ei gynhyrchu o GMOs.
Organebau wedi’u bridio’n fanwl (PBOs)
Organebau wedi’u bridio’n fanwl yw planhigion neu anifeiliaid y mae eu cyfansoddiad genetig wedi’i newid gan ddefnyddio technegau biodechnoleg fodern (fel golygu genynnau) mewn ffordd fanwl gywir.
I fod yn gymwys fel PBO, mae’n rhaid i’r newidiadau a wnaed i’r organeb fod yn rhai y gellid bod wedi’u gwneud trwy ddulliau bridio traddodiadol hefyd.
Cyflasynnau
Defnyddir cyflasynnau i ychwanegu blas neu arogl newydd at fwyd neu i wella blas neu arogl presennol bwyd.
Cyflasynnau mwg
Mae cyflasynnau mwg yn cael eu hychwanegu at fwydydd, fel cig neu gaws, i roi blas ‘mwg’ iddyn nhw, fel dewis arall yn lle mygu traddodiadol.
Toddyddion echdynnu
Defnyddir toddyddion echdynnu wrth brosesu bwyd i helpu i ymdoddi a gwahanu rhannau o fwyd. Mae’r toddydd echdynnu yn cael ei dynnu cyn i’r bwyd neu’r cynhwysyn terfynol gael ei ddefnyddio, ond gallai gweddillion neu ddeilliadau (‘derivatives’) na ellir eu hosgoi’n dechnegol aros yn y bwyd.
Ychwanegion bwyd
Mae ychwanegion bwyd yn sylweddau sy’n cael eu hychwanegu at fwyd er mwyn cyflawni swyddogaeth dechnolegol benodol. Mae hyn yn cynnwys:
- gwneud i fwyd edrych neu flasu’n well
- ymestyn oes storio ac oes silff bwyd
- cynnal cyfansoddiad maethol bwyd
- helpu’r broses cynhyrchu bwyd
Ensymau bwyd
Mae ensymau bwyd yn bresennol mewn micro-organebau, planhigion ac anifeiliaid, ac maent yn gweithredu fel catalyddion mewn adweithiau cemegol amrywiol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynyddu cyfradd yr adweithiau. Oherwydd hyn, gallant fod yn ddefnyddiol wrth gynhyrchu bwyd neu gynhwysion bwyd penodol (fel cyflasynnau), sicrhau mwy o gynnyrch neu brosesau cynhyrchu mwy effeithlon.
Bwydydd newydd
Bwydydd newydd yw unrhyw fwydydd sydd heb gael eu bwyta gan bobl i raddau helaeth yn y DU na’r UE cyn 15 Mai 1997.
Deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd
Deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCMs) yw deunyddiau ac eitemau sy’n dod i gysylltiad â bwyd wrth iddo gael ei gynhyrchu, ei brosesu, ei storio, ei baratoi neu ei weini.
Dewis y gyfundrefn gywir
Gall pa gyfundrefn y dylid awdurdodi cynnyrch oddi tani ddibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys sut caiff y cynnyrch ei gynhyrchu a beth yw ei ddefnydd bwriadedig.
Gall y gofynion ar gyfer coflen gais, ac unrhyw delerau awdurdodi, amrywio gan ddibynnu pa gyfundrefn y gwneir y cais i awdurdodi oddi tani ar gyfer y cynnyrch dan sylw. Mae’n bwysig i ymgeiswyr ystyried yr holl achosion defnydd bwriadedig posib ar gyfer cynnyrch, oherwydd gallai newidiadau i’r defnydd effeithio ar gwmpas yr asesiad diogelwch.
Ni ellir gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig ar gyfer bwydydd newydd ochr yn ochr ag unrhyw un o’r cyfundrefnau a restrir yn Rheoliad (UE) 2015/2283. Mae Rheoliad (UE) 2015/2283 ar fwydydd newydd yn eithrio’r canlynol yn benodol:
- bwyd a addaswyd yn enetig (bwyd GM)
- bwyd sydd wedi’i gynhyrchu o blanhigion wedi’u bridio’n fanwl
- ensym bwyd
- ychwanegyn bwyd
- cyflasyn bwyd
- toddydd echdynnu
Felly, os oes cynnyrch y credir ei fod yn fwyd newydd, a chanfyddir bod ganddo ddefnydd technegol ychwanegol (er enghraifft, fel lliw neu flas), efallai y bydd cyfundrefn arall yn berthnasol yn lle’r gyfundrefn bwydydd newydd (er enghraifft, cyfundrefn ychwanegion bwyd neu gyflasynnau).
Mae rhai cynhyrchion y gellir eu defnyddio fel cynhwysyn technegol ac annhechnegol. Yn yr achos hwn, gellir gwneud dau gais i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig ar wahân (er enghraifft, cais i awdurdodi bwyd newydd a chais ar wahân i awdurdodi ychwanegyn bwyd).
Gall y dull cynhyrchu newid pa gyfundrefn sy’n berthnasol.
Eplesu manwl
Er enghraifft, gall y micro-organebau a ddefnyddir mewn eplesu manwl fod wedi’u haddasu’n enetig. Os cânt eu tynnu’n llwyr o’r cynnyrch terfynol, yna mae’n debygol y byddai’r cynnyrch yn cael ei ystyried yn fwyd newydd.
Fodd bynnag, os bydd micro-organebau a addaswyd yn enetig yn aros yn y cynnyrch terfynol, yna gall y cais ddod o dan gwmpas y ddeddfwriaeth ynghylch GMOs yn lle hynny. Yn yr achos hwn, gall cyfundrefnau eraill fod yn berthnasol hefyd – fel cyfundrefn ychwanegion bwyd neu gyflasynnau – gan ddibynnu ar ddefnydd bwriadedig y cynnyrch a’i swyddogaeth mewn bwyd.
Cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
Yn yr un modd, ystyrir yn gyffredin fod cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd sy’n dod o dan gwmpas y gyfundrefn bwydydd newydd ym Mhrydain Fawr.
Fodd bynnag, yn dibynnu ar y broses gynhyrchu a nodweddion y cynnyrch terfynol, gall cyfundrefnau eraill fod yn berthnasol yn lle hynny. Er enghraifft, os yw addasu genetig wedi digwydd yn ystod y broses gynhyrchu a bod organebau a addaswyd yn enetig yn aros yn y cynnyrch terfynol, yna efallai y bydd angen asesu ceisiadau o dan y rheoliadau ar gyfer GMOs.
Statws fel bwyd newydd: Ymgynghoriad Erthygl 4
Ym Mhrydain Fawr, mae proses ymgynghori ffurfiol (cais ymgynghori Erthygl 4), ar gyfer busnesau sy’n ansicr a yw cynnyrch yn dod o dan ddeddfwriaeth Bwydydd Newydd a/neu a yw’n gallu darparu tystiolaeth o ddefnydd sylweddol yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997.
Dylai gweithredwr busnes bwyd ymgynghori â’r adnoddau ar y canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd yn gyntaf. Os yw’r gweithredwr busnes bwyd yn parhau i fod yn aneglur o ran statws cynnyrch fel bwyd newydd, dylai gyflwyno’r cais Erthygl 4 drwy ddilyn y canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.
Cyfrifoldeb y gweithredwr busnes bwyd yw darparu’r dystiolaeth angenrheidiol nad yw cynnyrch yn un newydd. Ym Mhrydain Fawr, gall yr ASB ac FSS benderfynu ar statws cynnyrch fel bwyd newydd drwy broses ymgynghori Erthygl 4.
Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i fwydydd newydd gael asesiad diogelwch ac awdurdodiad cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad. Dylai busnesau sy’n ceisio rhoi eu cynhyrchion ar farchnad Gogledd Iwerddon ddilyn rheolau’r UE a phroses awdurdodi’r Comisiwn Ewropeaidd.
Treialon blasu cyn awdurdodi
Os yw cynnyrch yn fwyd newydd (neu’n debygol o fod yn un), efallai y bydd busnesau’n dymuno cynnal treialon blasu cyn cael awdurdodiad i’w roi ar y farchnad. Gall treialon blasu cyn rhoi cynnyrch ar y farchnad fod yn ganiataol os mai prif bwrpas y treialon yw cynnal gwaith ymchwil a datblygu, ac nid hysbysebu cynnyrch na brand cwmni (footnote 1). Mae’r ASB ac FSS wedi cyhoeddi canllawiau ar dreialon blasu i helpu busnesau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac i gefnogi treialon diogel a moesegol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am dreialon blasu ar gyfer GMOs.
Rheoliadau ôl-awdurdodi
Mae gan bob cyfundrefn ei set ei hun o ddeddfwriaeth. Mae’n bwysig gwybod y set lawn o reoliadau sy’n gysylltiedig â’r ddeddfwriaeth benodol ar gyfer y gyfundrefn dan sylw, a sut mae’n rhaid cymhwyso hyn i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith.
Efallai y bydd gwahaniaethau rhwng cyfundrefnau o ran y rheoliadau i'w dilyn ar ôl awdurdodi. Gall awdurdodiadau gynnwys amodau defnyddio a gofynion eraill a nodir yn y gyfundrefn berthnasol a/neu’r telerau awdurdodi.
Ochr yn ochr â’r Gyfraith Bwyd Gyffredinol, mae’r pethau i’w hystyried ar ôl awdurdodi yn gallu cynnwys:
- gofynion labelu penodol
- agweddau sy’n gysylltiedig â’r asesiad diogelwch fel Cymeriant Dyddiol Derbyniol (ADI) neu gyfyngiadau ar gyfer grwpiau sy’n agored i niwed (er enghraifft, y sawl o dan 18 oed)
Nid rhestr gynhwysfawr yw hon, ac mae’r ddeddfwriaeth berthnasol yn nodi pa reoliadau sy’n berthnasol i’r gyfundrefn y mae cynnyrch yn dod oddi tani.
Gofynion diogelwch bwyd
Mae’n rhaid i bob bwyd, gan gynnwys cynhyrchion rheoleiddiedig, ddilyn y Gyfraith Bwyd Gyffredinol, sy’n cynnwys cynhyrchion rheoleiddiedig. Mae hyn yn cynnwys rheoli diogelwch bwyd, olrheiniadwyedd bwyd, a hylendid bwyd. Rydym hefyd yn argymell cymhwyso egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) at waith cynhyrchu a dosbarthu.
Yn ogystal, mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd gydymffurfio â gofynion o ran labelu alergenau, gan gynnwys labelu alergenau rhagofalus. Mae’r ASB ac FSS yn darparu canllawiau i fusnesau bwyd ar ddarparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr yn gywir:
Dylai busnesau hefyd ystyried rheolau ynghylch yr honiadau a wneir am fwydydd (er enghraifft, honiadau am faeth ac iechyd) a’r gofynion hysbysebu a marchnata ehangach. Gall y rhain effeithio ar sut mae cynhyrchion arloesol yn cael eu cyflwyno i ddefnyddwyr.
Mae cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) sy’n cael eu mewnforio neu eu cynhyrchu’n ddomestig yn destun rheoleiddio pellach oherwydd y risgiau tocsicolegol a microbiolegol uwch y maent yn eu peri. Mae cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd a chynhyrchion wedi’u heplesu’n fanwl sy’n defnyddio celloedd, meinweoedd, neu ddeunydd arall o anifeiliaid yn y broses gynhyrchu yn cael eu dosbarthu fel POAO. Yn dibynnu ar y dull cynhyrchu a ddefnyddir, efallai y bydd cynhyrchion bwyd arloesol eraill hefyd yn cael eu dosbarthu fel POAO.
Rheoliadau ar draws y llywodraeth
Yn dibynnu ar natur cynnyrch a sut mae’n cael ei ddatblygu a’i weithgynhyrchu, efallai y bydd gofynion ychwanegol yn berthnasol sydd y tu allan i gylch gwaith yr ASB ac FSS.
Dylai busnesau ystyried a oes angen iddynt ymgysylltu â rheoleiddwyr eraill, adrannau eraill o’r llywodraeth, neu awdurdodau cymwys i gyflawni eu rhwymedigaethau. Dylai busnesau sy’n ystyried dod â chynnyrch newydd i’r farchnad ymchwilio’n llawn i’w rhwymedigaethau rheoleiddiol sy’n gysylltiedig â’u math o gynnyrch.
Mae gan rai cynhyrchion neu weithgareddau datblygu ofynion sydd y tu hwnt i awdurdodiad i’w rhoi ar y farchnad bwyd neu’r farchnad bwyd anifeiliaid. Er enghraifft, mae rhyddhau GMOs i’r amgylchedd yn fwriadol (gan gynnwys rhai gweithgareddau ymchwil) yn cael ei reoli gan yr awdurdodau cymwys ym mhob gwlad yn y DU:
- Cymru: Llywodraeth Cymru
- Lloegr: Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
- Gogledd Iwerddon: Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
- Yr Alban: Llywodraeth yr Alban
Mae’r awdurdodiad hwn ar wahân i’r awdurdodiad i roi cynhyrchion rheoleiddiedig ar y farchnad o dan y gyfundrefn cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid GMO rheoleiddiedig. Mae canllawiau ar ddatblygu organebau a addaswyd yn enetig ar gael.
Cynhyrchion ffiniol
Efallai y bydd angen rheoleiddio ac awdurdodi rhai bwydydd, fel rhai atchwanegiadau bwyd, fel meddyginiaethau. Mae p’un a yw cynnyrch yn cael ei ddosbarthu fel meddyginiaeth ai peidio yn dibynnu ar ei gynhwysion, ei ddiben bwriadedig, ac unrhyw honiadau am iechyd a wneir gan y gweithgynhyrchwr neu’r gwerthwr.
Nid yw’r ASB nac FSS yn penderfynu a yw cynnyrch yn feddyginiaeth. Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) sy’n penderfynu a yw cynnyrch yn bodloni’r diffiniad o gynnyrch meddyginiaethol. Pan fo statws rheoleiddiol cynnyrch yn ansicr, mae MHRA yn penderfynu a allai fod yn feddyginiaeth yn hytrach na bwyd. Darganfyddwch sut i wybod a yw’ch cynnyrch yn feddyginiaeth.
Gwledydd datganoledig
Rolau a phenderfyniadau’r pedair gwlad
Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn darparu rheoliadau allweddol sy’n berthnasol i awdurdodi cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid arloesol, a’r gofynion ôl-farchnad ar eu cyfer.
Mae wedi’i anelu’n bennaf at fusnesau sy’n datblygu bwydydd arloesol, ond gall hefyd fod yn ddefnyddiol i weithgynhyrchwyr a manwerthwyr.
Mae’r ASB yn darparu gwybodaeth am weithio ar draws y pedair gwlad ac mae hon yn amlinellu’r cyfrifoldebau dros sicrhau diogelwch bwyd ar draws y pedair gwlad.
Mae’r ASB ac FSS yn gwneud argymhellion annibynnol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i weinidogion priodol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban mewn perthynas ag awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r gweinidog yn cael gwybod y diweddaraf. Yna, mae gweinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gwneud penderfyniadau awdurdodi annibynnol.
Gogledd Iwerddon a Fframwaith Windsor
Cytundeb rhwng y DU a’r UE yw Fframwaith Windsor. Mae’n amlinellu’r broses ar gyfer masnach ac mae’n cynnwys set unigryw o drefniadau i gefnogi llif bwydydd, gan gynnwys deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu bod safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd, marchnata (gan gynnwys labelu) a chynhyrchion organig yn gallu cael eu cymhwyso at nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a symudir i Ogledd Iwerddon trwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).
Mae rhagor o wybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.
Ystyriaethau o ran mynediad i’r farchnad
Mae rhai gwahaniaethau mewn polisi bwyd rhwng y pedair gwlad. Mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn cyflwyno egwyddorion mynediad (cydnabyddiaeth gilyddol a dim gwahaniaethu) a all effeithio ar p’un a yw rhai ‘gofynion perthnasol’ yn gymwys pan werthir nwyddau ledled y DU (yn amodol ar eithriadau a threfniadau penodol).
Yr egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol yw’r egwyddor bod nwyddau sydd wedi’u cynhyrchu’n gyfreithlon mewn un rhan o’r DU, neu sydd wedi’u mewnforio i ran o’r DU, yn gallu cael eu gwerthu mewn rhan arall o’r DU heb fod angen cydymffurfio â rheolau lleol.
At ddibenion cymhwyso’r egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol, ystyrir bod nwydd wedi’i ‘gynhyrchu mewn’ rhan o’r DU (os na chafodd ei gynhyrchu’n gyfan gwbl yno) os gwnaeth y cam cynhyrchu sylweddol diweddaraf, sy’n gam rheoleiddiedig, ddigwydd yno.
I gael canllawiau pellach ar egwyddorion mynediad i’r farchnad, gweler y canllawiau i fasnachwyr ar gydymffurfio â Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020.
Canllawiau a chymorth busnes
Mae Hyb Canllawiau Bwyd Arloesol yr ASB yn darparu canllawiau wedi’u teilwra, yr wybodaeth ddiweddaraf, a chymorth ymarferol ar ystod o gategorïau bwyd arloesol, gan gynnwys darparu cymorth busnes.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch gyda’ch cais, cysylltwch â ni yn regulatedproducts@food.gov.uk neu ewch i’r Hyb Canllawiau Bwyd Arloesol.
Rhestrau gwirio ar gyfer busnesau, gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr
At ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig y mae’r pwyntiau a restrir ac nid ydynt yn gynhwysfawr. Mae gweithredwyr busnesau bwyd, gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr yn gyfrifol am ddilyn y gyfraith.
Ar gyfer busnesau
Cyn gwneud cais am awdurdodiad i roi cynnyrch ar y farchnad, dylech ystyried y canlynol:
- Pa gyfundrefnau rheoleiddio a allai fod yn berthnasol i’m cynnyrch (ar sail beth ydyw, sut mae’n cael ei gynhyrchu, a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio)?
- A oes unrhyw ddefnydd posib arall o’m cynnyrch (nawr neu yn y dyfodol) a allai newid pa gyfundrefn sy’n berthnasol?
- A ydw i wedi gwirio a yw cynnyrch (neu sylwedd) tebyg eisoes wedi’i awdurdodi, ac a yw’r defnydd a fwriedir gennyf yn dod o dan y telerau awdurdodi presennol?
- Sut gallai fy null cynhyrchu, fy ffynonellau, neu’r defnydd a fwriedir gennyf effeithio ar ba gyfundrefnau rheoleiddiol sy’n berthnasol?
- A ydw i wedi ystyried fy rhwymedigaethau o dan y Gyfraith Bwyd Gyffredinol, gan gynnwys rheoli diogelwch bwyd, hylendid, olrheiniadwyedd, a gwybodaeth am alergenau?
- A oes gennyf dystiolaeth a dogfennaeth briodol i gefnogi diogelwch fy nghynnyrch ar gyfer ei grwpiau defnyddwyr a’i amodau defnyddio bwriadedig?
- A ydw i wedi ystyried unrhyw ofynion y tu allan i gylch gwaith yr ASB neu FSS a allai fod yn berthnasol (er enghraifft, gofynion amgylcheddol, meddyginiaethau, neu ofynion eraill sy’n benodol i’r sector)?
- A oes angen i mi ymgysylltu ag unrhyw adrannau eraill o’r llywodraeth neu reoleiddwyr eraill? Er enghraifft, pan fo llwybrau hysbysu neu gymeradwyo eraill yn berthnasol.
Ar gyfer gweithgynhyrchwyr
Os ydych chi’n cynhyrchu bwyd arloesol awdurdodedig, dylech ystyried y canlynol:
- A yw’r bwyd yn peri unrhyw risgiau o ran alergenau (gan gynnwys croes-gyswllt), ac a oes rheolaethau ar waith?
- A oes unrhyw delerau awdurdodi penodol sy’n effeithio ar y gweithgynhyrchu (er enghraifft, manylebau, meini prawf purdeb, lefelau defnyddio uchaf, neu gategorïau bwyd a ganiateir)?
- A oes angen i mi ystyried unrhyw ofynion labelu ychwanegol neu ddatganiadau gorfodol sy’n gysylltiedig â’r awdurdodiad, y cynhwysion, neu’r defnyddwyr bwriadedig?
- A oes trefniadau olrhain a chadw cofnodion ar waith i gefnogi gwaith gwirio, rheoli digwyddiadau, a (phan fo angen) thynnu/galw cynnyrch yn ôl?
- A ydw i wedi cymhwyso’r rheolaeth diogelwch bwyd briodol (er enghraifft, rheolaethau sy’n seiliedig ar HACCP) ar gyfer y broses a’r math o gynnyrch?
- A oes angen i mi ymgysylltu ag unrhyw adrannau eraill o’r llywodraeth, rheoleiddwyr eraill neu awdurdodau cymwys eraill? Er enghraifft, pan fo llwybrau cymeradwyo neu hysbysu eraill yn berthnasol.
- Os ydw i’n cyflenwi ledled y DU (gan gynnwys symudiadau sy’n ymwneud â Gogledd Iwerddon), a ydw i wedi ystyried a allai unrhyw rai o ofynion neu drefniadau’r wlad benodol effeithio ar roi nwyddau ar y farchnad, neu ar labelu neu symud nwyddau?
Ar gyfer manwerthwyr
Os ydych yn cyflwyno cynnyrch bwyd arloesol, dylech ystyried y canlynol:
- A ydw i wedi cael digon o sicrwydd gan fy nghyflenwr neu fy ngweithgynhyrchwr fod y cynnyrch wedi’i awdurdodi pan fo angen a’i fod yn dod o dan y telerau ac amodau awdurdodi perthnasol?
- A oes unrhyw ofynion labelu ychwanegol ar gyfer y cynnyrch hwn (gan gynnwys gwybodaeth am alergenau ac unrhyw wybodaeth sy’n gysylltiedig â’r telerau awdurdodi)?
- A yw’r rheolaethau o ran storio, trin ac oes silff yn briodol ar gyfer y math o gynnyrch (er enghraifft, gofynion y gadwyn oer pan fo’n berthnasol)?
- Os ydw i’n gwerthu ledled y DU (gan gynnwys Gogledd Iwerddon), a ydw i wedi ystyried a allai unrhyw drefniadau penodol effeithio ar symud neu werthu’r nwyddau?
-
Mae diffiniad eang i ‘rhoi cynnyrch ar y farchnad’, ac mae’n gallu cynnwys trosglwyddiadau yn rhad ac am ddim fel samplau masnach. Canllawiau ar gynnal treialon blasu.