Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild Game guidance

Anifeiliaid hela wedi’u saethu â phlwm

Gallai anifeiliaid hela gwyllt gynnwys plwm am fod helwyr yn defnyddio pelenni neu fwledi plwm.

Os yw anifeiliaid hela gwyllt yn cael eu prosesu mewn AGHE, bydd y plwm a rhannau o’r cig yr effeithir arnynt yn cael eu tynnu, er y gall symiau bach aros yn y cig.

Os ydych chi'n paratoi anifeiliaid hela gwyllt i’w bwyta at eich defnydd domestig eich hun neu os ydych chi'n fanwerthwr sy’n cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt, dylech hefyd gael gwared ar gymaint o blwm a’r cig o’i amgylch â phosib. 

Gall bwyta anifeiliaid hela wedi’u saethu â phlwm yn rheolaidd beri eich bod yn dod i gysylltiad â lefelau o blwm a allai fod yn niweidiol. Dylai’r rhai sy’n bwyta anifeiliaid hela wedi’u saethu â phlwm fod yn ymwybodol o’r effeithiau negyddol ar iechyd a cheisio lleihau cysylltiad â’r cynnyrch dan sylw.

Arferion gorau

Gall dod i gysylltiad â phlwm niweidio’r ymennydd a’r system nerfol. Mae lleihau faint o anifeiliaid hela wedi’u saethu â phlwm sy’n cael eu bwyta yn arbennig o bwysig i blant, menywod beichiog a menywod sy’n gobeithio beichiogi. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr ASB, Canllawiau ar anifeiliaid hela a gaiff eu saethu â phlwm.