Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild Game guidance

Egwyddorion a gofynion olrhain

Olrheiniadwyedd yw’r gallu i olrhain a dilyn bwyd, bwyd anifeiliaid, anifail neu sylwedd sy’n cynhyrchu bwyd.

Olrheiniadwyedd yw’r gallu i olrhain a dilyn bwyd, bwyd anifeiliaid, anifail sy’n cynhyrchu bwyd neu sylwedd y bwriedir iddo gael ei ymgorffori mewn bwyd neu fwyd anifeiliaid, neu y disgwylir iddo gael ei ymgorffori mewn bwyd neu fwyd anifeiliaid, a hynny ar bob cam o’i gynhyrchu, ei brosesu a’i ddosbarthu.

Mae rheolau olrhain yn helpu i gadw golwg ar fwyd yn y gadwyn gyflenwi. Maent yn sicrhau bod unrhyw fwyd anniogel yn cael ei dynnu neu ei alw’n ôl o’r farchnad yn effeithlon ac yn gywir os oes unrhyw broblemau diogelwch bwyd.

Mae Egwyddorion a Gofynion ar gyfer olrhain bwyd yn gymwys i bob cam o’r gadwyn cyflenwi bwyd ac maent yn rhan o’r cyfrifoldeb cyfreithiol i reoli risgiau diogelwch bwyd. Mae’n ofynnol i gynhyrchwyr cynradd (gan gynnwys y rhai sy’n cludo neu’n storio anifeiliaid hela gwyllt), gweithredwyr busnesau bwyd a manwerthwyr fodloni’r rheolau olrhain hyn. Dyma ganllawiau pellach ar olrheiniadwyedd bwyd, tynnu a galw bwyd yn ôl.

Wrth i anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt symud drwy’r gadwyn gyflenwi, yr egwyddor sylfaenol yw y dylai fod cofnod “un cam ymlaen, un cam yn ôl” ar bob cam (er enghraifft, dylid nodi’r ffynhonnell a’r gyrchfan a chadw cofnod). 

Mae angen i gofnodion olrhain fod yn gyfredol a dylid eu cadw o leiaf hyd nes y gellir tybio’n rhesymol bod y bwyd wedi’i fwyta. Dylent fod ar gael i awdurdodau cymwys ar gais. Mae angen i’r cofnodion gynnwys:

  • Disgrifiad o’r bwyd
  • Cyfaint / maint
  • Enw a chyfeiriad gweithredwr y busnes bwyd sy'n anfon bwyd
  • Enw a chyfeiriad y cludwr (consigner) (os yw’n wahanol)
  • Enw a chyfeiriad gweithredwr y busnes bwyd sy'n cael y bwyd
  • Enw a chyfeiriad y sawl sy’n derbyn (consignee) (os yw’n wahanol)
  • Rhif adnabod y lot, y swp neu’r llwyth
  • Y dyddiad dosbarthu.

Nid yw gofynion olrhain yn gymwys i’r rhai sy’n hela anifeiliaid hela gwyllt i’w bwyta’n breifat yn y cartref (gweler eithriadau). Fodd bynnag, mae’n rhaid i gynhyrchwyr cynradd sy’n cyflenwi symiau bach o anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol gydymffurfio â’r egwyddorion a’r gofynion cyffredinol ar gyfer olrhain a nodir mewn cyfraith bwyd.