Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Pwyllgorau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Penododd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phwyllgor Busnes i ymgymryd â rhai o’i gyfrifoldebau ac i’w gynghori ar eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 May 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 May 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Pwyllgor Busnes

Mae’r Pwyllgor Busnes yn gorff sy’n darparu goruchwyliaeth lefel uchel briodol o faterion gweithredol, gan gynnwys perfformiad a’r defnydd o adnoddau (adnoddau ariannol a dynol), ar lefel y Bwrdd, ac sy’n dwyn y Bwrdd Gweithredol i gyfrif wrth gyflawni ei gynlluniau a’i bolisïau.

Ni fydd cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn cael eu cynnal yn gyhoeddus, ond bydd adroddiad o bob cyfarfod yn cael ei gynnwys ar agenda pob cyfarfod Bwrdd yr ASB. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi fel ei bod yn glir i bartïon sydd â diddordeb ac i’r cyhoedd ar ba sail y mae’r Pwyllgor wedi nodi ei argymhellion i’r Bwrdd eu cymeradwyo a pha dystiolaeth y mae wedi’i hystyried wrth bennu’r argymhellion hynny. Bydd papurau a gaiff eu hystyried gan y Pwyllgor Busnes yn cael eu cyhoeddi fel atodiad i’r adroddiad i’r Bwrdd, oni bai bod rhesymau penodol pam na ellir cyhoeddi papurau penodol.

Aelodau’r Pwyllgor 

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn un o bwyllgorau Bwrdd yr ASB.

Mae’n gyfrifol am adolygu, mewn capasiti anweithredol, ddibynadwyedd sicrwydd llywodraethu, rheoli risg a’r amgylchedd rheoli. Mae hefyd yn gyfrifol am adolygu cywirdeb datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Aelodau’r Pwyllgor

Arsylwyr

  • Emily Miles – Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Ruth Nolan – Cyfarwyddwr Pobl ac Adnoddau

Cylch Gorchwyl y Pwyllgorau

Gallwch ddarllen Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg o fewn Fframwaith Gweithredu'r Bwrdd.