Pwyllgorau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Penododd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phwyllgor Busnes i ymgymryd â rhai o'i chyfrifoldebau ac i'w chynghori ar eraill.
Pwyllgor Busnes
Bwriad y Pwyllgor Busnes yw rhoi trosolwg priodol lefel uchel o faterion ariannol a gweithredol ar lefel y Bwrdd, a chynorthwyo â throsi polisi yn ganlyniadau effeithiol.
Mae'r cyfarfodydd yn rhai agored oni bai bod angen eu trafod yn breifat gan fod y materion:
- yn ymwneud â phethau sy'n fasnachol ac yn gyfrinachol
- yn destun trafodaethau byw a all effeithio'n niweidiol ar fudd y cyhoedd
- yn gysylltiedig ag unigolion
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn un o bwyllgorau Bwrdd yr ASB.
Mae'n gyfrifol am adolygu, mewn capasiti anweithredol, dibynadwyedd sicrwydd llywodraethu, rheoli risg a'r amgylchedd rheoli. Mae hefyd yn gyfrifol am adolygu cywirdeb datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Aelodau'r Pwyllgor
- Colm McKenna – Cadeirydd ARAC (ac aelod Bwrdd yr ASB yng Ngogledd Iwerddon)
- Ruth Hussey
- Timothy Riley
- Peter Price
- Margaret Gilmore
Arsylwyr
- Emily Miles – Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd
- Pam Beadman – Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad, ASB
- John Furley – Archwilio Mewnol, ASB
- Paul Keane – Swyddfa Archwilio Genedlaethol