Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Ein Bwrdd

Rydym ni'n adran anweinidigol o'r llywodraeth sy'n cael ei llywodraethu gan Fwrdd, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Weinidogion. Mae'r Bwrdd yn sicrhau ein bod ni'n bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel bod pob penderfyniad neu gam gweithredu yn ystyried cyngor gwyddonol a buddiannau defnyddwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Hydref 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Hydref 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae'r Athro Susan Jebb yn cadeirio ein Bwrdd ac mae ganddo rhwng saith ac un-ar-ddeg aelod arall. Maen nhw'n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae rheolaeth yr Asiantaeth o ddydd i ddydd yn cael ei ddirprwyo i swyddogion drwy'r Prif Weithredwr

Mae'r Bwrdd yn cael ei benodi'n bennaf gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gydag un aelod yn cael ei benodi gan Weinidog Iechyd Cymru, ac un gan Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon. Mae gwybodaeth am sut mae'r Bwrdd yn gweithio i'w gweld yn y dogfennau Cod Ymddygiad a Rheolau Sefydlog isod:

England, Northern Ireland and Wales

COVID-19 a newidiadau i Gyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2021

O ganlyniad i'r pandemig COVID-19, mae'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr wedi diweddaru trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd. Bydd cyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes yn cael eu cynnal ar-lein.

Ym mis medi 2021, bydd y Bwrdd yn cwrdd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf. Fodd bynnag, ni fydd cynulleidfa fyw yn yr ystafell ar gyfer y cyfarfod hwn.

Bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 8 Rhagfyr 2021.

Sut i gofrestru i wylio ar-lein

Gallwch chi wylio cyfarfodydd y Bwrdd i glywed ei drafodaethau am ein polisïau.

Mae'r Bwrdd yn cynnal ei gyfarfodydd yn gyhoeddus ac yn cyhoeddi agendâu, papurau a phenderfyniadau ar y cyfarfodydd hyn.

Bydd angen i chi gofrestru i wylio un o'r cyfarfodydd hyn ar-lein.

Cyflwyno cwestiwn

Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar y trafodaethau a gynhelir ym mhob cyfarfod.

Rydym ni'n awyddus i gael cwestiynau yn hytrach na sylwadau, a hoffwn eich cynghori i gadw ymholiadau mor gryno ac uniongyrchol â phosibl.

Gallwch gyflwyno cwestiynau hyd at ganol dydd 7 Rhagfyr drwy eu hanfon at board.sec@food.gov.uk.

Bydd cwestiynau am bapurau ar yr agenda ar gyfer cyfarfod Bwrdd yr ASB a ddaw i law cyn y dyddiad cau yn cael eu darllen allan ar ddechrau'r cyfarfod. Yna, bydd y Bwrdd a'r Weithrediaeth yn cael y cyfle i'w hateb fel rhan o'r trafodaethau perthnasol.

Bydd unrhyw gwestiynau nad ydynt yn ymwneud â phapur yn cael ateb ysgrifenedig cyn pen 14 diwrnod gwaith, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cauyn cael ateb ysgrifenedig cyn pen 14 diwrnod gwaith, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Cyfarfodydd y Bwrdd

Cyfarfodydd sydd ar y gweill
Dyddiad Math o gyfarfod Amser Lleoliad
8 Rhagfyr 2021 Y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes   I'w gadarnhau
9 Mawrth 2022 Y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes   Llundain
15 Mehefin 2022 Y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes   I'w gadarnhau
14 Medi 2022 Y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes   I'w gadarnhau
7 Rhagfyr 2022 Y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes   Llundain
Cyfarfodydd yn 2021  
15 Medi 2021 Agenda a Phapurau (Medi 2021)
16 Mehefin 2021 Agenda a Phapurau (Mehefin 2021)
26 Mai 2021 Agenda a Phapurau (Mai 2021)
10 Mawrth 2021 Agenda a Phapurau'r Pwyllgor Busnes (Mawrth 2021)
9 Mawrth 2021 Agenda a Phapurau (Mawrth 2021)

 

Cyfarfodydd yn 2020  
8 Rhagfyr 2020 Agenda a Phapurau'r Pwyllgor Busnes Rhagfyr 2020)
2 Rhagfyr 2020 Agenda a Phapurau (Rhagfyr 2020)
18 Tachwedd 2020 Papurau a fideo (Tachwedd 2020)
23 Medi 2020 Papurau'r Pwyllgor Busnes a fideo (Medi 2020)
16 Medi 2020 Papurau a fideo (Medi 2020)
26 Awst 2020 Cofnodion, papurau a fideo (Awst 2020)
17 Mehefin 2020 Munudau, papurau a fideo (Mehefin 2020)
11 Mawrth 2020 Munudau, papurau a fideo (Mawrth 2020)
21 Ionawr 2020 Munudau, papurau a fideo (Ionawr 2020)


Cyfarfodydd sydd wedi'u harchifo

 

Aelodau'r Bwrdd

Dylid datgan yr holl fuddiannau personol neu fusnes a allai cael eu gweld eu bod yn dylanwadu ar eu barn. Mae diddordebau o'r fath yn cynnwys cymryd rhan yn y diwydiant amaeth, bwyd a diwydiannau cysylltiedig.

Presenoldeb y Bwrdd

Dyma gofnod o bresenoldeb Aelodau'r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Bwrdd, y Pwyllgor Busnes ac yn ARAC (Saesneg yn unig).

Ymrwymiadau'r Bwrdd

Mae cofnod o ymrwymiadau Aelodau'r Bwrdd i'w gweld isod (Saesneg yn unig).

Treuliau'r Bwrdd

Mae manylion treuliau busnes Aelodau'r Bwrdd i'w gweld drwy'r ddolen isod.

Treuliau'r Bwrdd (Saesneg yn unig)